Prif nod y dystysgrif hon oedd cydnabod lefel sgiliau ieithyddol darpar athrawon (llafar ac ysgrifenedig) ynghyd â dangos eu gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hyderus yng nghyd-destun dysgu ac addysgu.
Cydlynwyd y cynllun gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar sail cais gan Lywodraeth Cymru yn 2014 i'r Cyngor Cyllido Addysg i ddatblygu a gweithredu tystysgrif cymhwysedd Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Cymraeg gyda’r nod o’i dyfarnu i bob athro arfaethedig a oedd yn dymuno dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyfarnwyd y Dystysgrif i 270 o hyfforddeion TAR Uwchradd a 343 o hyfforddeion TAR Cynradd rhwng 2015 a 2019.
Roedd ymgeisio am y Dystysgrif yn fodd i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg ysgrifenedig/llafar ac i adnabod gwerth y sgiliau hyn yn addysgol ac mewn gweithle cyfrwng Cymraeg/dwyieithog.
I ennill y Dystysgrif aseswyd y darpar athrawon yn ymarferol yn ystod eu hail brofiad addysgu proffesiynol ac roeddent hefyd yn sefyll arholiad ysgrifenedig.
Dyfarnwyd y Dystysgrif ar raddfeydd gwahanol i adlewyrchu cyrhaeddiad y myfyrwyr:
- Marc terfynol yn 70 neu'n uwch
- Marc terfynol rhwng 60 a 69
- Marc terfynol rhwng 50 a 59
- Marc terfynol yn is na 50
Ceir grynodeb o'r safonau isod.