Cynhelir y prawf ysgrifenedig ar naill y 4 neu 5 o fis Mai 2021 ar gyfrifiadur. Bydd y tiwtor yn cadarnhau union ddyddiad y prawf ysgrifenedig ar ôl i’r gofrestr gau ddechrau mis Tachwedd. Does dim modd newid dyddiad y prawf ysgrifenedig.
Bydd tair tasg i'w cwblhau yn y prawf ysgrifenedig. Hyd y prawf fydd awr a hanner. Bydd yr elfen ysgrifenedig werth 50% o'r marciau terfynol. Asesir y prawf ysgrifenedig gan aseswyr allanol a benodir gan CBAC.
Tasg 1: Cywiro Dogfen
Cywiro testun ysgrifenedig sy'n cynnwys nifer penodol o wallau. Bydd y testun yn cynnwys gwallau sillafu, camdreiglo, gwallau ffurfiant, gwallau teipio, gwallau cystrawen, gwallau atalnodi neu wallau gramadegol eraill. Ymhlith y gwallau, bydd 4 y gellir eu hadnabod drwy ddefnyddio arfau cywiro cyfrifiadurol. Bydd angen gywiro’r testun ar y sgrin, ac amlygu’r geiriau neu’r ymadroddion a gywirwyd gan ddefnyddio print trwm. Ni fydd angen newid cywair nac arddull y darn. Bydd hawl gen ti i ddefnyddio Cysill a gwirydd Word, ond ni fydd yr arfau cyfrifiadurol hyn yn sylwi ar bob gwall. Ni fydd angen esbonio pam yr wyt yn newid y gwallau – dim ond eu cywiro.
Tasg 2: Trawsieithu
Bydd disgwyl i ti ddarllen testun ysgrifenedig Saesneg a’i addasu i’r Gymraeg at ddiben penodol, e.e. ysgrifennu crynodeb o destun Saesneg ar gyfer cynulleidfa benodol. Asesir dy allu i ysgrifennu’n gywir, gan ddefnyddio ystod o gystrawennau a geirfa, ac i lunio testun terfynol sy’n briodol i’r diben a ddisgrifir yn y dasg. Yn ogystal, bydd nifer o bwyntiau allweddol yn y testun gwreiddiol, ac asesir dy allu i gynnwys y pwyntiau priodol yn y trawsieithiad.
Tasg 3: Ysgrifennu Rhydd
Bydd gofyn i ti ysgrifennu testun ar y cyfrifiadur mewn ymateb i sbardun penodol. Bydd y sbardun yn cynnwys gofynion penodol, e.e. natur y gynulleidfa, pwyntiau i’w cynnwys, ffurf y testun terfynol. Asesir dy allu i ysgrifennu’n gywir, gan ddefnyddio ystod o gystrawennau a geirfa, yn ogystal â chynnwys a threfn y testun terfynol. Hefyd, asesir dy allu i ateb gofynion penodol y dasg.
Esiamplau o gyn-bapurau