Sioned Thomas, Cyfarwyddwr yn RDP Law
"Rydym yn delio gyda llawer o glientiaid sy'n siarad Cymraeg ac yn cynnig gwasanaeth cyfreithiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn holl bwysig oherwydd gall materion cyfreithiol fod yn bersonol iawn ac mae medru trafod materion a phroblemau yn eu mamiaith o fudd mawr i'r client ac i'r broses."
Alun Shurmer, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Dŵr Cymru
“Mae'n hanfodol bod gennym aelodau o staff yn gweithio i ni sydd â'r gallu i gyfathrebu drwy'r Gymraeg i safon uchel fel ein bod yn gallu sicrhau gwasanaeth o'r radd flaenaf i'n cwsmeriaid."
Robin Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Asbri Planning
‘‘Mae cyflogi unigolion sydd â sgiliau dwyieithog da wedi caniatáu i ni ehangu nifer ein cwsmeriaid dros y blynyddoedd. Rydym yn ystyried sgiliau dwyieithog yn fanteisiol wrth edrych am staff newydd ac mae'r Gymraeg yn sicr yn agor drysau i ni.’’