Mae’r Coleg yn darparu Llyfrgell Adnoddau amlgyfrwng ar-lein sy’n cynnwys dros 500 o adnoddau mewn 24 o bynciau gan gynnwys Astudiaethau Busnes, Cerddoriaeth, Cymraeg, y Cyfryngau, Drama, Gwleidyddiaeth, y Gyfraith a phynciau Gwyddonol. Mae mynediad i’r Llyfrgell yn gwbl agored i bawb gan gynnwys ysgolion, a does dim angen cofrestru i gael mynediad at y mwyafrif o’r adnoddau. Mae’r llyfrgell yn cynnwys:
- Clipiau fideo o sesiynau blasu, darlithoedd a chyfweliadau
- Cyflwyniadau a thaflenni gwybodaeth
- E-lyfrau
Mae adnoddau agored pellach sy’n ddefnyddiol i ysgolion ar gael ar lwyfan e-ddysgu’r Coleg, Y Porth, gan gynnwys yr Esboniadur – sy’n cynnwys casgliadau penodol ar dermau daearyddiaeth, cronfa o fanylion am ffilmiau a rhaglenni teledu Cymru a gwybodaeth am dair drama radio – ac adnodd Termau, sef geiriadur ar-lein o dermau mewn pynciau penodol.