Mae bywyd cymdeithasol Cymraeg gwych i’w gael ym mhob un o brifysgolion Cymru.
Er mwyn gwneud y gorau o dy amser yn y brifysgol, byddi’n cael dy annog i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau gan ei fod yn ffordd dda o gyfarfod pobl a dilyn diddordebau newydd.
Mae gan nifer fawr o’r prifysgolion undebau myfyrwyr cryf a gweithgar sy’n mynd ati i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau hamdden a chymdeithasol ar hyd y flwyddyn academaidd.
Mae gan y Coleg ganghennau mewn 8 prifysgol yng Nghymru:
Mae’r canghennau’n rhan allweddol o drefniadaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ogystal â datblygiadau cyfrwng Cymraeg yn y prifysgolion. Nod y canghennau yw cefnogi gwaith y Coleg a gweithredu fel pwynt cyswllt lleol ar gyfer myfyrwyr.