Dysgu Sgiliau Newydd
Mae llwyth o sgiliau meddal mae cyflogwyr yn eu hystyried yn hanfodol yn y gweithle ac mae cyflogwyr yn rhoi bri mawr arnynt. Sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn tîm, datrys problemau, rheoli amser a chymhelliad. Cei gyfle i ddatblygu’r sgiliau hyn a mwy yn ystod dy gyfnod profiad gwaith.
Blas ar ddiwydiant
Does dim dwywaith amdani! Bydd mynd ar brofiad gwaith yn dy helpu i benderfynu ar y dy lwybr gyrfa i’r dyfodol. Bydd cyfle iti, wrth gysgodi gweithwyr, cwblhau a dysgu am elfennau o’r gwaith yn rhoi’r cyfle iti gael blas go iawn ar ddiwydiant. Bydd y profiadau hyn yn dy gynorthwyo wrth wneud penderfyniadau ynghylch dy yrfa a gall dy helpu i benderfynu pa fath o swydd, prentisiaeth neu astudiaethau hoffet ti ymgeisio ar ei chyfer yn y dyfodol.
Creu perthnasau proffesiynol
Manteisia ar gyfryngau cymdeithasol fel LinkedIn a Twitter i rwydweithio a chreu perthnasau proffesiynol gyda phobl rwyt wedi cydweithio â nhw yn y gorffennol. Os wyt ti wedi creu argraff dda ar gyflogwr neu unigolyn dylanwadol yn y gweithle, cysyllta â nhw am eirda ar gyfer ceisiadau i’r dyfodol. Mae pob posibilrwydd y cei gynnig swydd gyda chyflogwr rwyt wedi ymweld â nhw ar gyfnod o brofiad gwaith, pan fydd swyddi gwag yn codi.