Mae deall crefyddau’r byd yn rhan annatod o ddirnad ein diwylliant a’r gymdeithas ehangach.
Wrth astudio ar gyfer BA Astudiaethau Crefyddol, byddi’n dod i ddeall crefyddau megis Iddewiaeth, Hindŵaeth, Islam, Cristnogaeth, Siciaeth a Bwdhaeth, a hynny yn eu cyd-destunau diwylliannol, cymdeithasol a hanesyddol.
Trwy gydol y cwrs, fe fyddi’n meithrin dealltwriaeth o’r berthynas fyrlymus sy’n bodoli rhwng crefydd, cymdeithas a diwylliant, gan archwilio’r rôl sydd gan grefydd mewn perthynas â chwestiynau pwysicaf ein cyfnod. Eir ati i roi sylw manwl a thrylwyr i hanes, hunaniaeth ac ymrwymiad crefyddol, a hynny yng nghyd-destun digwyddiadau cyfoes o bwys byd-eang.
Gellir astudio arferion a chredoau crefyddau mawr y byd yn ogystal â thraddodiadau eraill megis crefyddau brodorol a mudiadau crefyddol newydd. Cyflwynir gwahanol ddulliau o astudio crefydd, a rhoddir sylw penodol i le crefydd yn y byd cyfoes. Bydd cyfle i ymweld ag addoldai lleol a chenedlaethol, i fynd ar deithiau tramor i ganolfannau o arwyddocâd crefyddol, ac i feithrin adnabyddiaeth ymarferol a dealltwriaeth bersonol o ddiwylliannau a chrefyddau’r byd.
Gellir datblygu gyrfa mewn sawl maes ar ôl derbyn gradd mewn astudiaethau crefyddol, gan gynnwys:
- y gwasanaethau cymdeithasol
- addysg
- sefydliadau cymorth ac elusennol rhyngwladol
- twristiaeth y cyfryngau
- gwleidyddiaeth
- y gwasanaeth sifil
- cyhoeddi
- newyddiaduraeth.