Mae Celf a Dylunio yn galluogi myfyrwyr i feithrin ystod eang o sgiliau artistig. Cei gyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol mewn gwaith 2D a 3D, prosesau digidol, delweddau llonydd a symudol, dylunio a chynllunio, ynghyd â chreu gwaith mewn celfyddyd gain, crefft a dylunio. Ochr yn ochr â sgiliau ym maes celf, fe fyddi’n datblygu sgiliau y gelli di eu cymhwyso i’r gweithle, e.e. y gallu i wneud penderfyniadau, i gyfathrebu, ac i fod yn ddyfeisgar a mentrus.
Mae’r pwnc yn tanlinellu’r pwysigrwydd o gyfuno sgiliau ymarferol a chreadigol, ac at hynny, mae’n seiliedig ar syniadau damcaniaethol a fydd yn dy alluogi i gyrraedd dy botensial creadigol.
Ar draws pynciau’r Celfyddydau Gweledol, fe gei gyfle i edrych ar ddiwylliannau gweledol creadigol Cymru o fewn y cyd-destun rhyngwladol. Yn sail i’r broses greadigol ymarferol, fe fyddi’n meithrin gwybodaeth hanesyddol a damcaniaethol, syniadau rhyngwladol, dealltwriaeth o gelf a dylunio cyfoes, yn ogystal â gwerthfawrogiad o bwysigrwydd y diwylliant gweledol.
Wrth ddilyn cwrs gradd Celf a Dylunio, fe elli ddilyn sawl llwybr gyrfaol, gan weithio fel un o’r canlynol:
- arlunydd proffesiynol
- arlunydd cymunedol
- gwneuthurwr celfyddydol
- dylunydd
- ymarferwr creadigol
- gweithiwr llawrydd
- curadur
- gweinyddwr celf a dylunio
- athro/athrawes gynradd neu uwchradd, yn ddibynnol ar ennill TAR ychwanegol.
Neu os wyt ti’n dymuno parhau â’th astudiaethau, gelli ddilyn rhaglen MA.