Mae'r Diwydiannau Creadigol yn faes cyffrous tu hwnt sy’n cynrychioli amrywiaeth eang o feysydd a swyddi. Os oes gen ti ddiddordeb yn y cyfryngau, rhwydweithio cymdeithasol, datblygiadau digidol, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu neu’r celfyddydau perfformio, mae’n werth i ti ddarllen ymhellach!
A wyddost ti...?
“Mae 30,000 o bobl yn gweithio yn y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru; mae’n un o’r sectorau uchaf ei dwf yn y wlad”
(Ffynhonnell: www.wales.com)
“Mae 68% o'r gweithlu creadigol yng Nghymru yn meddu ar gymhwyster lefel gradd”
(Ffynhonnell: www.careerswales.com)
“Erbyn 2017, bydd 7,000 o swyddi creadigol eraill yng Nghymru; bydd hanner y rhain yn swyddi newydd oherwydd twf yn y diwydiant”
(Ffynhonnell: www.careerswales.com)
Ceir sawl pwnc o dan adain y Diwydiannau Creadigol. Dyma’r rhai y gellir eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd:
- Astudiaethau Ffilm – dolen i dudalen
- Celf a Dylunio (clicia yma i fynd i’r adran Celf a Dylunio)
- Cerddoriaeth (clicia yma i fynd i’r adran Gerddoriaeth)
- Cysylltiadau Cyhoeddus – dolen i dudalen
- Drama / Theatr / Perfformio – dolen i dudalen
- Newyddiaduraeth – dolen i dudalen
- YCyfryngau – dolen i dudalen
Mae gwybodaeth am yr holl gyrsiau hefyd ar gael ar ein chwilotydd cyrsiau (dolen). Bydd y chwilotydd yn dangos pa gyrsiau sy’n gymwys ar gyfer ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol