Gellir astudio nifer o feysydd hanesyddol drwy gyfrwng y Gymraeg, o Hanes Cymru i Hanes Prydain, Ewrop a Gogledd America. Yn ogystal, ceir cyfleoedd i astudio Hanesyddiaeth, sef astudiaeth o sut y caiff Hanes ei astudio a’i ddefnyddio.
Gan fod astudio Hanes yn fodd i feithrin sgiliau dadansoddi, crynhoi ac ysgrifennu, mae’n bwnc sy’n boblogaidd iawn ymysg cyflogwyr. Ceir enw da i’r pwnc gan gyflogwyr mewn swyddi o fewn newyddiaduraeth, y cyfryngau, ymchwil, lobïo gwleidyddol, twristiaeth, addysgu ac amgueddfeydd. Rhan o apêl Hanes i gyflogwyr yw nid yn unig y sgiliau y byddi di’n eu meithrin ond y ffaith y bydd astudio’r pwnc yn ehangu dy orwelion.
Wrth astudio Hanes, byddi di’n datblygu’r gallu i bwyso a mesur ffeithiau gan ddatblygu annibyniaeth barn, ynghyd â meithrin gwerthfawrogiad o bwysigrwydd ac arwyddocâd gwahanol fathau o ffynonellau hanesyddol. Bydd dy allu i ymdrin â phwnc yn wrthrychol a chytbwys yn werthfawr wrth i ti gamu i’r byd gyrfaol, ac yn gaffaeliad i ti pan fyddi di’n mynd i’r afael â heriau dyddiol y gweithle.
Mae’r Coleg Cymraeg yn cynnig nifer o ffyrdd blaengar i gyfoethogi profiadau dysgu myfyrwyr Hanes. Hefyd, cynigir sawl modiwl cydweithredol sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio rhan o’u cwrs dan arweiniad arbenigwyr eraill o sawl prifysgol yng Nghymru.