Wyt ti’n meddu ar rinweddau newyddiadurwr? Wyt ti’n ysu am ddarganfod pwy, ble, pam a sut? Wyt ti’n awchu am wybod ym mhle y caiff pob newyddiadurwr da ei stori, ac yn dymuno dysgu sut i’w hysgrifennu’n dda?
Wrth astudio gradd mewn Newyddiaduraeth, byddi di’n dysgu’r atebion i’r cwestiynau uchod. Cei di ddysgu’n gyntaf beth yw stori newyddion, cyn mynd ymlaen i feithrin y gallu i’w dadansoddi a’i dehongli. Rhoddir cyfle i ti ystyried effeithiau’r cyfryngau cymdeithasol ar y cyfryngau torfol, a chyda hynny ystyried natur dyfodol y diwydiant newyddiadurol.
Mae Newyddiaduraeth yn bwnc cyfredol a chyffrous. Wrth ddysgu toreth o sgiliau ymarferol, cei di dy arwain at yrfa lewyrchus yn y maes, a chlywir galw clir oddi wrth gyflogwyr am fyfyrwyr sy’n meddu ar y gallu i newyddiadura’n gywrain a hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd. Gall dy radd dy arwain ar hyd nifer o lwybrau gyrfaol eraill, e.e. marchnata, rheoli cyfryngau cymdeithasol ar-lein, darlledu, ysgrifennu ar gyfer cylchgronau, ynghyd â gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus.
Gelli di astudio Newyddiaduraeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn y prifysgolion canlynol:
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Bangor
Ceir gwybodaeth bellach am yrfa mewn Newyddiaduraeth yma