Dyma faes cyffrous sy’n boblogaidd iawn ymysg myfyrwyr. Mae’r Cyfryngau yn cwmpasu ystod eang o feysydd fel teledu, radio, y cyfryngau digidol ac ar-lein, yn ogystal â’r diwydannau creadigol yn gyffredinol.
Mae cyrsiau prifysgol yn y maes yn achub ar y cyfle i greu cysylltiadau byw rhwng y byd proffesiynol a chynlluniau astudio academaidd. Mae modd i ti arbenigo mewn meysydd penodol fel sgriptio a pherfformio, sgiliau technegol fel rheoli camera a golygu deunyddiau, ynghyd â chynhyrchu stiwdio neu raglen ar leoliad. Cei di’r cyfle hefyd i ymgyfarwyddo â phrif heriau academaidd y maes, gan gynnwys adolygu proffesiynol a dadansoddi testunol mewn cyd-destun hanesyddol a diwylliannol eang.
Mae graddedigion y Cyfryngau yn dewis defnyddio’u dwyieithrwydd yn y cyfryngau Cymreig, neu’n dewis gweithio yn y maes yr ochr draw i Glawdd Offa a thu hwnt. Mae gan y sawl sy’n astudio’r cyfryngau drwy gyfrwng y Gymraeg fantais werthfawr mewn maes lle mae’r Gymraeg yn iaith fyw, fyrlymus. Cei di ddewis rhagori mewn nifer o feysydd, gan weithio’n llawrydd fel un o’r canlynol:
- artist
- cerddor
- sgriptiwr
- animeiddiwr
- arbenigwr y cyfryngau newydd
- technegydd sain a goleuo
- peiriannydd electronig
- cyfarwyddwr
- cynhyrchydd.
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Bangor
Prifysgol De Cymru
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Ceir mwy o wybodaeth am yrfaoedd yn y Cyfryngau yma