Mae ystod eang a chyffrous o gyfleoedd yn aros amdanat os gwnei di ddewis astudio’r Gymraeg yn y brifysgol. Gyda galw cynyddol am weithlu proffesiynol, dwyieithog gall gradd yn y Gymraeg arwain at bosibiliadau cyffrous i ti ym maes darlledu, y celfyddydau, gwleidyddiaeth, addysg a llawer llawer mwy.
Pam astudio’r Gymraeg yn y brifysgol?
- Mae’n bwnc amrywiol, byrlymus a deinamig
- Cei di ddewis o gyrsiau gradd mewn sawl prifysgol ar gyfer myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith
- Cei di gyfle i ddatblygu sgiliau unigryw a fydd yn dy baratoi ar gyfer y byd gwaith
- Cei di brofiadau llenyddol, diwylliannol, ieithyddol a chymdeithasol heb eu hail
Beth sydd gan fyfyrwyr a graddedigion i'w ddweud am y Gymraeg fel pwnc? Dilyna ymgyrch #AstudioCymraeg ar Twitter i ddarganfod mwy!
Mae gan Kayleigh, sy'n astudio Cymraeg yn y brifysgol, ambell air o gyngor i ti hefyd.