Mae astudio Troseddeg yn agor y drws i yrfa tra amrywiol. Bydd yn dy annog i feddwl yn feirniadol ac annibynnol, ac yn rhoi cyfle i ti ddatblygu sgiliau i ddadansoddi a deall y gymdeithas liwgar sydd ohoni. Mae Troseddeg yn cyfuno’r deallusol a’r ymarferol.
Bydd dilyn modiwlau Cymraeg mewn Troseddeg yn sicrhau dy fod nid yn unig yn ymgyfarwyddo â chymdeithas gymhleth Cymru, ond yn gallu cynnig gwasanaeth i gyflogwyr y dyfodol mewn dwy iaith. Yn ystod y cwrs, byddi’n derbyn profiad ymarferol, a chyda chymreigio’r gwasanaeth prawf yng Nghymru (lle ceir gwahaniaethau cynyddol rhyngddo a’r gwasanaeth prawf yn Lloegr), bydd galw am fyfyrwyr sy’n adnabod anghenion cymdeithas Cymru. Byddi hefyd yn cyfuno dy astudiaethau ar y cyd-destun Cymreig ag astudiaethau ar droseddeg rhyngwladol; cei gyfle i edrych ar sefyllfaoedd gwledydd tramor, a fydd yn dy baratoi gogyfer â gweithio y tu hwnt i’r DU pe baet yn dymuno.
Mae Troseddeg yn cynnwys elfennau o feysydd eraill, gan gynnwys y Gyfraith, Gwyddorau Cymdeithas a Gwyddorau’r Heddlu, ac yn yr un modd gellir astudio modiwlau Troseddeg o fewn y meysydd hyn.
Wrth ddilyn modiwlau cyfrwng Cymraeg mewn cwrs gradd neu radd gyfun mewn Troseddeg, byddi’n gymwys i ymgeisio am swyddi mewn amrywiaeth o feysydd:
- gwasanaethau prawf a’r heddlu
- carchardai a Gwasanaeth Erlyn y Goron
- gweithio gyda phobl ifanc a phobl ar gyfnod prawf
- gweithio ym maes polisi’r Llywodraeth neu lywodraeth leol
- astudio’r gyfraith ymhellach.