Mae gan Gymru rai o’r ysgolion Gwyddorau Gofal Iechyd mwyaf poblogaidd yn y DU, sy’n cynnig dewis o raddau a thystysgrifau addysg uwch o’r safon uchaf. At hynny, mae’r cyfleoedd ymchwil a chlinigol a gynigir ymhlith y gorau yn y byd.
Fel gweithiwr iechyd, rhan fawr o dy waith fydd cyfathrebu â’r cyhoedd a chyd-weithwyr. Trwy astudio rhan o dy gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd gennyt gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu er mwyn dy alluogi i weithio’n ddwyieithog, a fydd yn ychwanegu at dy gyfleoedd yn y gweithle ac yn rhoi cyfle i gleifion gael eu trin drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno hynny.
Ceir dewis eang o bynciau i’w hastudio yn y brifysgol, sef:
- ffisiotherapi
- therapi galwedigaethol
- therapi lleferydd
- ymarfer gofal llawdriniaethol (operating department practice)
- dieteg
- radiograffeg diagnostig
- radiotherapi ac oncoleg.
Yn ystod dy astudiaethau, rhoddir cyfle i ti gael blas ar ddulliau addysgiadol diddorol, e.e. dysgu trwy drafod a datrys achosion clinigol (Problem Based Learing: PBL). Fe gei gyfle hefyd i ddysgu mewn ‘labordai efelychiadol’, sy’n ail-greu awyrgylch clinigau a wardiau ysbyty yn ogystal ag adrannau gofal dwys a llawfeddygaeth. Cynhelir darlithoedd a thiwtorialau ar gyfer yr holl bynciau iechyd fel rhan o gwrs amlbroffesiwn, a rhoddir cyfle i gydweithio gydag aelodau o staff y GIG, yn ogystal â gweithio yn y gymuned mewn lleoliadau clinigol.
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yw’r cyflogwr mwyaf yng Nghymru, gyda dros 70,000 o aelodau o staff yn gyflogedig ganddo. Os byddi di’n dymuno gweithio i’r sefydliad ar ôl graddio, fe fyddi’n rhan o dîm mawr o weithwyr proffesiynol sy’n cydweithio i ddarparu gofal iechyd mewn ysbytai ac yn y gymuned ar gyfer dros dair miliwn o drigolion Cymru. Hanfod gwaith y GIG yw gweithio ar y cyd gyda gwasanaethau cymdeithasol a gwirfoddol, a cheir ystod eang o gyfleoedd i weithwyr iechyd yn y sector preifat, elusennau a gwasanaethau cymdeithasol, ynghyd â mewn ysgolion, carchardai, gwleidyddiaeth, ymchwil, a’r byd chwaraeon. Bydd dilyn gyrfa fel gweithiwr iechyd yn her ddyddiol, yn cynnig boddhad, ac yn gyfle i fireinio sgiliau a thyfu mewn gwybodaeth.
Os wyt ti’n dymuno gyrfa foddhaol, heriol, ddiddorol ac amrywiol, edrycha ar y cyrsiau Iechyd sydd ar gael yng Nghymru, ac ymuna a thîm eang o weithwyr amryddawn a disglair.