Mae’r ddarpariaeth a’r datblygiadau ym maes addysg Meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn gweithio tuag at ddenu, hyfforddi a chadw meddygon da yng Nghymru. Mae sicrhau ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg ym maes gofal iechyd yn rhan hollbwysig o addysg feddygol pob myfyriwr wrth iddynt ddysgu am y gwahaniaethau rhwng bod yn feddyg yng Nghymru a gweddill y DU.
Yn ôl strategaeth Llywodraeth Cymru, Mwy na Geiriau (2012):
“Mae’n bwysig cydnabod mai dim ond trwy gyfrwng y Gymraeg y gall llawer o bobl gyfathrebu eu hangen am ofal yn effeithiol” (Mwy na Geiriau, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2012).
Mae datblygu ac ehangu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio ac ymarfer Meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan annatod o wella ansawdd gofal iechyd yng Nghymru, ac i Gymry Cymraeg eu hiaith yn benodol. Mae’r cwricwlwm meddygol yn gyfuniad o addysgu gwybodaeth graidd ynghyd â chael amrywiaeth o brofiadau clinigol, a defnyddir ystod o ddulliau dysgu gan gynnwys tiwtorialau, darlithoedd a sesiynau ymarferol.
Prif hanfod gradd mewn Meddygaeth yw bodloni anghenion y claf. Mae’r cyfle i gyfathrebu a rhyngweithio gyda chleifion ar leoliadau clinigol yn rhan annatod o’r cwrs, a chynigir profiadau amrywiol mewn ysbytai, canolfannau meddygol cymunedol a meddygfeydd ledled Cymru. Rhoddir cyfle i’r myfyrwyr gwblhau’r cyfnodau ar leoliad drwy gyfrwng y Gymraeg pan fo hynny’n bosibl.
I’r darpar feddyg, mae astudio Meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn fanteisiol wrth baratoi tuag at y gweithle. Yng nghyd-destun y proffesiwn meddygol, mae’r Gymraeg yn rhan o ddarlun bydol ehangach, lle mae ymwybyddiaeth o anghenion ieithyddol cleifion yn rhan o’r her ddyddiol. Yng ngolau hynny, paratoir y meddyg Cymraeg ei iaith – a all gyfathrebu â chleifion yn gwbl ddwyieithog – tuag at sialensiau byd-eang y proffesiwn.
Ym Mhrifysgol Abertawe, cynigir cwrs Meddygaeth i Raddedigion. Croesewir ceisiadau gan raddedigion o bob pwnc sydd wedi llwyddo yn y prawf GAMSAT (Graduate Medical School Admissions Test). Mae’n gwrs a gwtogwyd i bedair blynedd yn lle’r pum mlynedd arferol, ac fel rhan o’r cynllun, rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddilyn elfennau o’u cwrs mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell yng Nghymru, gyda’r gobaith o annog meddygon i weithio yn yr ardaloedd hynny yn y dyfodol.