Mae therapyddion iaith a lleferydd yn darparu triniaeth a chefnogaeth ar gyfer plant ac oedolion sydd ag anawsterau cyfathrebu neu broblemau bwyta, yfed a llyncu. Dyma driniaeth a all weddnewid bywydau. Maent yn weithwyr proffesiynol sy’n perthyn i’r maes iechyd ac yn gweithio’n agos gyda rhieni, gofalwyr a phobl broffesiynol eraill fel athrawon, nyrsys, therapyddion galwedigaethol a meddygon.
Bydd y cwrs hwn yn dy alluogi i gael y cymwysterau sydd eu hangen er mwyn ymuno â’r proffesiwn cyffrous hwn. Mae’r cwrs yn gyfuniad o waith academaidd a gwaith ymarferol. Mae datblygu’r gallu i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol at arsylwadau ac ymarferiadau clinigol yn hollbwysig wrth hyfforddi i fod yn therapydd iaith a lleferydd.
Ceir cwricwlwm eang gyda’r meysydd craidd canlynol yn rhan o’r cwrs:
- Ieithyddiaeth
- Ffoneteg
- Gwyddorau biolegol
- Seicoleg
- Patholeg iaith a lleferydd
Er mwyn sicrhau y gall unigolion Cymraeg eu hiaith sydd ag anawsterau cyfathrebu gael mynediad at driniaeth yn y Gymraeg, mae’n hanfodol y denir myfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg at y proffesiwn.
Fel yr unig gwrs yng Nghymru, cynigir darpariaeth arloesol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd sy’n sicrhau amrywiaeth o gyfleoedd cyfrwng Cymraeg. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys darlithoedd, tiwtorialau a sesiynau ymarferol, cefnogaeth fugeiliol, ynghyd â’r cyfle i gwblhau prosiect ymchwil yn seiliedig ar y Gymraeg os byddi di’n dymuno. Mae lleoliadau clinigol yn rhan annatod o’r cwrs, a chynigir profiadau amrywiol mewn clinigau, ysbytai, ysgolion a chanolfannau arbenigol ledled Cymru. Rhoddir cyfle i’r myfyrwyr gwblhau cyfnodau ar leoliad drwy gyfrwng y Gymraeg pan fo hynny’n bosibl.
Trwy astudio rhannau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, cei gyfle i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn gweithio yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Bydd hyn yn sicrhau bod y graddedigion sy’n ymuno â’r proffesiwn yn gallu cynnig gofal o’r ansawdd gorau trwy gyfathrebu ym mha bynnag iaith sydd fwyaf addas ar gyfer y sefyllfa. Bydd cyfle i drin a thrafod y ffactorau sy’n bwysig wrth ymgymryd â gwaith clinigol gyda phoblogaeth ddwyieithog, ynghyd â’r hyn sy’n wahanol i therapydd sy’n gweithio yng Nghymru o’i gymharu â gweddill y DU. Bydd gennyt fewnwelediad unigryw i sefyllfaoedd dwyieithog eraill o fewn y DU a nifer fawr o wledydd eraill, sy’n rhan o dirwedd fyd-eang y proffesiwn.