Mae cyfrifiaduron yn hollbresennol yn ein bywydau erbyn hyn. O apiau symudol a chyfryngau cymdeithasol i gemau fideo a chynlluniau peilot awtomatig, mae technolegau newydd yn gofyn am feddalwedd ddibynadwy a diogel sy’n hawdd i’w defnyddio.
Wrth astudio Cyfrifiadureg, fe fyddi’n datblygu'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn deall a datblygu systemau o'r fath, ac o ganlyniad, fe fyddi’n gweld drysau’n agor i yrfaoedd mewn diwydiant ac ymchwil. Mae modd astudio Cyfrifiadureg fel gradd anrhydedd sengl neu radd gyfun. Cynigir cyfle hefyd i dreulio blwyddyn mewn diwydiant neu hyd yn oed dramor, os mai dyna fydd dy ddymuniad.
Mae cael y cyfle i drin a thrafod dy gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yn hwb enfawr wrth ddysgu; pan fyddi’n gweithio ar brosiectau arloesol mewn grŵp ac yn unigol, bydd y gallu i drin a thrafod yn y Gymraeg o fudd mawr wrth gydweithio â chwmnïau ac ymgynghorwyr diwydiannol lleol.
Gellid dod o hyd i raddedigion y maes yn gweithio mewn meysydd cyffrous fel fformiwla 1, cludiant awyr, datblygu gemau a meteoroleg. Pwy a ŵyr, efallai mai ti fydd y Bill Gates neu’r Mark Zuckerburg nesaf! Enghreifftiau eraill o swyddi posib yn y maes yw datblygydd meddalwedd, swyddog technoleg gwybodaeth, cynorthwy-ydd ymchwil, peiriannydd meddalwedd a dylunydd gwefannau. Mae’r posibiliadau, fel y gweli, yn eang.