Mae Ffiseg yn bwnc cyffrous sy’n cynnig profiadau lu i fyfyrwyr drwy gyfuno’r damcaniaethol a’r ymarferol. Mae cyrsiau gradd Ffiseg yn rhoi seiliau cadarn i ddeall ac egluro’r byd o’n cwmpas; deddfau Ffiseg yw sylfaen ein technoleg fodern, ac fe’i defnyddir i ddisgrifio systemau o’r gronynnau isatomig bychain i alaethau enfawr.
Mae Ffiseg yn bwnc STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, sy'n cael eu cydnabod yn feysydd canolog i ffyniant economaidd Cymru). Rhoddir gwerth mawr ar Ffiseg mewn amrywiaeth o feysydd megis meteoroleg, meddygaeth, peirianneg ac ynni adnewyddadwy.
Ceir cyfleoedd eang i raddedigion Ffiseg. Hyd yn oed os byddi di’n dewis gadael y maes ar ôl graddio, bydd y sgiliau y byddi di’n eu datblygu yn ystod y cwrs – sgiliau cyfrifiadurol, dadansoddi, cyfathrebu, ynghyd â’r gallu i feddwl yn feirniadol a datrys problemau – yn amhrisiadwy ar ba bynnag drywydd y byddi di’n ei ddilyn. Prin fod angen dweud felly fod gradd Ffiseg yn agor llu o ddrysau.
Cynigir amrywiaeth o gynlluniau gradd Ffiseg. Ceir cynlluniau gradd BSc tair blynedd a chynlluniau gradd MPhys pedair blynedd (sy’n cynnwys deunydd fwy heriol). Ceir hefyd gynllun gradd BSc Ffiseg pedair blynedd gyda blwyddyn sylfaen, a hynny ar gyfer y rheini nad oes ganddynt gefndir o astudio Ffiseg hyd at Safon Uwch yn yr ysgol.
Addysgir elfennau o gyrsiau gradd Ffiseg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cynlluniau gradd dwyieithog hyn yn rhoi cyfle i ti ddefnyddio’r ddwy iaith fel ei gilydd fel cyfrwng ffisegol, a fydd yn dy baratoi at y tirlun proffesiynol yng Nghymru ynghyd â’r llwyfan rhyngwladol. Os mai gweithio dramor sy’n mynd â dy fryd, cynigir cyfleoedd i wneud hynny fel rhan o’r cwrs gradd.