Pwrpas y cynllun yw creu cymuned fyw o ddarlithwyr sy’n cyfrannu at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y prifysgolion a chyfrannu at amcanion a gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Y manteision o fod yn rhan o’r cynllun:
- Bod yn rhan o gymuned amlddisgyblaethol cyfrwng Cymraeg a chyfleoedd i rwydweithio gyda darlithwyr eraill
- Derbyn pecyn sefydlu a newyddlen y Coleg
- Medru ymgeisio am grantiau'r Coleg
- Medru manteisio ar raglen hyfforddiant i ddarlithwyr
- Derbyn gwahoddiad i gynhadledd flynyddol y darlithwyr cysylltiol
- Gallu ymgeisio am wobrau blynyddol y Coleg
- Derbyn cyfleoedd marchnata amrywiol a chymorth perthnasol