Mae’r wobr hon yn cydnabod cyfraniad unigolyn neu unigolion i weithredu a chydweithio’n arloesol drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws ffiniau.
Rhestr Fer
- Eilir Owen Griffiths, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Eurig Salisbury, Prifysgol Aberystwyth
- Tîm JOMEC Cymraeg, Prifysgol Caerdydd
A'r enillydd eleni yw:
Tîm JOMEC Cymraeg: https://youtu.be/9U-1KShDGrc
Ers sefydlu’r ddarpariaeth Gymraeg yn 2013 mae tîm JOMEC Cymraeg wedi denu unigolion profiadol, uchel eu parch ac mae’r nifer o fyfyrwyr sydd yn ymwneud â’r ddarpariaeth wedi mwy na threblu dan ofal y darlithwyr hynny. Mae’r tîm yn gweithio’n galed i sicrhau profiadau ystyrlon a pherthnasol i fyfyrwyr ac un o’r prosiectau mwya’ blaenllaw ac arloesol yw Llais y Maes.
Prosiect arloesol agored i bob myfyriwr Prifysgol Caerdydd sydd yn awyddus i gael profiad o weithio fel gohebydd digidol ar faes yr Eisteddfod yw Llais y Maes. Mae’n denu myfyrwyr o amryw ddisgyblaethau ar draws y Brifysgol. Mae’n bartneriaeth rhwng y Brifysgol, S4C, ITV Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Cymru, a phawb yn cydnabod yr angen i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer y byd gwaith a diwydiant sydd yn newid yn ddyddiol.