Ariennir amrediad eang o brosiectau sy’n atgyfnerthu a chyfoethogi profiadau myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, a chyllidir swyddogion prosiect i weithio tuag at ehangu darpariaeth a chyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg mewn meysydd penodol.
Ar hyn o bryd, ceir pedwar swyddog pynciol sy’n arwain prosiectau mewn meysydd academaidd penodol, sef:
Alaw Dafydd:
Cyfrifoldeb am Y Gwyddorau sy'n cynnwys:
Daearyddiaeth, Gwyddorau Amgylcheddol/Amaethyddiaeth, Gwyddorau Biolegol, Mathemateg, Cemeg, Ffiseg, a Chyfrifiadureg.
Siôn Jobbins:
Cyfrifoldeb am Y Gwyddorau Cymdeithasol sy'n cynnwys:
Y Gyfraith, Gwleidyddiaeth, Hanes, Athroniaeth, Gwyddor Cymdeithas a Pholisi Cymdeithasol, a Throseddeg.
Mared Jones:
Cyfrifoldeb am Y Celfyddydau sy'n cynnwys:
Cerddoriaeth, y Gymraeg, Ieithoedd Modern, Diwydiannau Creadigol, Cysylltiadau Cyhoeddus, Newyddiaduraeth, a Chelf a Dylunio.
Menai Evans
Cyfrifoldeb am faes Iechyd sy'n cynnwys:
Meddygaeth, Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwyddorau Iechyd, Seicoleg, Gwaith Cymdeithasol, Fferylliaeth a Therapi Iaith a Lleferydd