CYNLLUN GWREIDDIO
Cynllun newydd y Coleg Cymraeg ar gyfer staff y sector ôl-16.
Mae croeso i unrhyw aelod o staff yn y sector ôl-16 sy’n cyfrannu tuag at neu sydd â diddordeb mewn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog fod yn aelod o’r Cynllun Gwreiddio, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg.
Mae aelodau’r Cynllun Gwreiddio yn rhan o gymuned frwdfrydig o staff, sy’n gweithio yn ddwyieithog ar draws y sector ôl-16.
Wrth ymaelodi gyda'r Cynllun Gwreiddio byddwch hefyd yn tanysgrifio i dderbyn Newyddlen Ôl-16 y Coleg. Mae Newyddlen Ôl-16 y Coleg yn hysbysu aelodau dros e-bost am adnoddau newydd, a chyfleoedd rhwydweithio a hyfforddiant.
Cewch wybodaeth am waith y Coleg a buddion y Cynllun Gwreiddio yn y pecyn gwybodaeth.
Datganiad Rhannu Data:
Er mwyn i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol allu gweithredu ei phrosesau'n effeithiol, bydd angen ar adegau rhannu data am aelodau gyda'r sefydliadau unigol. Gellir darllen copi o Rybudd Preifatrwydd y Coleg ar gyfer aelodau ar dudalen Data y wefan hon.
Er mwyn ymaelodi, dewiswch y botwm isod.