Mae’r Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil wedi bod yn rhan o weithgareddau parhaus y Coleg ers ei sefydlu yn 2011, ac fe lansiwyd y cynllun yn 2005 dan nawdd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Erbyn hyn mae dros 130 o fyfyrwyr wedi elwa ar y cynllun; nifer wedi cwblhau ac eraill ar ganol eu hastudiaethau. Mae cyfraniad y cynllun tuag at hyrwyddo a datblygu ysgolheictod, ymchwil a chyhoeddi drwy gyfrwng y Gymraeg yn sylweddol.
Croeso i’r adran ‘alumni’. Mae’r rhan hon o’r wefan yn cofnodi’r ymchwil sydd wedi ei gynnal trwy’r Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil dros y blynyddoedd gan roi trosolwg o lwybrau gyrfaol cyn-ddeiliaid; sylwch fod nifer yn gweithio ar draws prifysgolion Cymru a thu hwnt fel aelodau staff academaidd ac ymchwilwyr, ac eraill wedi mynd ymlaen i swyddi mewn amryw sectorau megis cyfieithu, theatr, hyfforddi rhedeg, a llawer mwy!