Eleni, am y tro cyntaf mae'r Coleg wedi penodi saith llysgennad ar gyfer cynllun newydd, gyda'r nod o ddatblygu ymdeimlad o gymuned ôl-radd.
Byddant yn cyd-weithio'n bennaf gyda dau o swyddogion y Coleg; Lois, Swyddog Datblygu Ymchwil a Hyfforddiant, ac Elliw, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu. Yn ystod y flwyddyn academaidd hon, bydd y Llysgenhadon yn cyfrannu podlediadau i 'Sŵn y Stiwdants', creu blog/flog am fywyd myfyriwr ôl-radd a chodi ymwybyddiaeth o’r Rhaglen Sgiliau Ymchwil. Byddant hefyd yn cyflwyno erthygl i Gwerddon fach yn ystod eu blwyddyn fel llysgennad.