Yn sgil ymgais y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae pwyslais cynyddol wedi bod ar ysgolion i geisio cynhyrchu disgyblion sydd yn hyderus ddwyieithog.
Mae’r her honno ar ei chryfaf mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn benodol mewn sefyllfa lle y mae’r rhan fwyaf o blant o gefndiroedd di-Gymraeg. Prin, felly, yw’r cyfleoedd mewn sefyllfaoedd o’r fath i ymarfer y Gymraeg gyda chyfoedion a rhieni.
Y gobaith yw y gellid darganfod a datblygu strategaethau/adnoddau darllen dwyieithog a fydd yn codi hyder y plant, yn gwella eu dealltwriaeth o’r testun Cymraeg ac yn datblygu eu sgiliau llythrennedd deuol wrth feithrin eu diddordeb a’u mwynhad o lenyddiaeth Gymraeg.
Mae hyn oll yn cefnogi nifer o amcanion polisi’r Llywodraeth.
Dyddiad Cychwyn: Hydref 2019