Nod y prosiect ymchwil yw ystyried defnyddio Realiti Estynedig fel modd i ddehongli treftadaeth ddiwylliannol anghyffyrddadwy a'i phrofi fel dull i ddarparu delweddau sy'n seiliedig ar le a safle penodol, gyda'r nod o wneud yr anghyffyrddadwy yn ddiriaethol.
Bydd defnyddio storïau naratif canoloesol Cymru, fel y Mabinogi, yn sail sylfaenol i ystyried y berthynas rhwng stori a safle, gan ganolbwyntio ar y lleoliadau a grybwyllir yn y storïau hyn er mwyn darparu cyfleoedd i ddatblygu delweddau estynedig y gellir eu troshaenu ar leoedd yng Nghymru fel ag y maent heddiw.
Dyddiad cychwyn: Hydref 2019