Elain Rhys Jones

Prifysgol Bangor: Cerddoriaeth

Elain Rhys Jones

Prifysgol Bangor: Cerddoriaeth

Grace Williams (1906–1977) a’i hunig opera, ‘The Parlour’

Bydd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar yr opera gomig ‘The Parlour’ (1961) sy’n seiliedig ar stori En Famille gan Maupassant. Bu cyfraniad Grace Williams i dwf a datblygiad cerddoriaeth yng Nghymru yn arwyddocaol ond gwelir iddi gael ei hesgeuluso fel cyfansoddwraig, ac o ganlyniad, prin yw ei gweithiau sydd wedi eu cyhoeddi, eu recordio a’u darlledu. Wrth weithio ac astudio tuag at radd PhD yn y maes hwn, rwy’n bwriadu golygu a chyhoeddi’r gwaith er mwyn ychwanegu at repertoire yr opera yng Nghymru a dwyn sylw i’r gwaith sydd mor unigryw yn allbwn y gyfansoddwraig arbennig hon.

Dyddiad Cychwyn: Ionawr 2022