Un o’r prif anawsterau i bobl sy’n dysgu ieithoedd fel oedolion yw dysgu ynganu seiniau nad ydynt yn bodoli yn eu mamiaith. Gall hyn arwain at ansicrwydd a diffyg hyder wrth siarad, yn enwedig â siaradwyr brodorol. Bydd yr ymchwil hwn yn dadansoddi ynganiad oedolion sy’n dysgu Cymraeg ac yn ystyried pa ddulliau dysgu sydd fwyaf effeithiol o ran datblygu ynganiad naturiol.
Dyddiad Cychwyn: Hydref 2018