Mae Llywodraeth Cymru wedi honni dro ar ôl tro y dylid trin plant yn y System Gyfiawnder Ieuenctid fel ‘plant yn gyntaf, troseddwyr yn ail’. Megis yn eu Strategaeth Cyfiawnder Ieuenctid mwyaf diweddar (2014), pwysleisir y dylai gweithwyr proffesiynol ystyried hawliau a lles y plant bob tro wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar y plant hynny.
Fodd bynnag, dengys ystadegau swyddogol bod cyfran arwyddocaol o blant Cymru sydd wedi troseddu yn cael eu dychwelyd i’r llys a’u cosbi os byddant yn methu â chydymffurfio ag elfen(nau) o’u dedfryd gymunedol. Mae’n rhaid gofyn, felly, i ba raddau y mae ystyriaethau o ‘les’ yn dylanwadu ar benderfyniadau staff ac ynadon pan nad yw’r plant yn cydymffurfio.
Ac felly, prif ddibenion yr astudiaeth hon yw’r canlynol: darganfod pa egwyddorion (os o gwbl) sy'n sail i benderfyniadau gweithwyr proffesiynol cyfiawnder ieuenctid, asesu effaith y penderfyniadau hyn ar y plant dan sylw, ynghyd â gwerthuso pa mor gydnaws yw’r penderfyniadau gydag ymrwymiad honedig Llywodraeth Cymru i hyrwyddo lles pob plentyn.
Dyddiad Cychwyn: Hydref 2016