Rhowch deitl neu allweddair yn y blwch i chwilio'r gronfa gyfieithiadau. Fe fydd y canlyniadau'n ymddangos islaw wrth i chi deipio yn y blwch. Defnyddiwch y blwch Chwilio Manwl isod i gyfyngu'r canlyniadau.

Chwilio Manwl

Canlyniadau 196


Cliciwch y teitlau am gofnodion llawn

A Machynlleth Triad / Triawd Machynlleth

A Machynlleth Triad
Awdur: Morris,Jan
Teitl gwreiddiol A Machynlleth Triad
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddTwm Morys;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1994

Nodiadau
Jan Morris (1926-). Awdur llyfrau taith a ffuglen yw Jan Morris. Yn y llyfr hwn o'i heiddio, a gyhoeddwyd yn Saesneg yn unig yn wreiddiol mewn cyhoeddiad cyfyngedig gan Wasg Gregynog, trafoda'r awdur y cysyniadau amrywiol a goleddir o hunaniaeth Gymreig yng Nghymru. Disgrifiwyd y nofel gan Gwynfor Evans fel ''gwaith cwbl unigryw mewn llenyddiaeth Gymreig a Chymraeg'. Canolbwyntia'r gyfrol ar Fachynlleth, ac ar Orffennol, Presenol, a Dyfodol y dref. Oes Glyndwr yw'r Gorffennol, oes yr 1990au yw'r presenol, ac oes ffantasïol yr unfed ganrif ar hugain yw'r dyfodol, lle portreadir Machynlleth fel prif ddinas Gweriniaeth Gymreig sy'n rhan o Gonffederasiwn Ewrop. Mae'r portread hyn, o'i hystyried yng ngoleuni gwahaniad yr Undeb Sofietaidd a thwf Ewrop ar ddechrau'r nawdegau, yn gwreiddio'r gwaith yn ei gyfnod. Lluniwyd y cyfieithiad o'i gwaith gan ei bardd a cherddor o fab, Twm Morys (1961-). Cyhoeddwyd y llyfr gan Llyfrau Penguin Books.

Allweddeiriau
CYMRUEWROPGWLEIDYDDIAETHHANESNOFELSAESNEGLLENYDDIAETHUNFED GANRIF AR HUGAINYR UNDEB SOFIETAIDDSOFIETAIDD

Ac Canna Cocoa - Y Caniaid Cocoa

Ac Canna Cocoa
Awdur: MacDhugail,Dòmhnall Iain
Teitl gwreiddiol Ac Canna Cocoa
Teitl y LlyfrY Meudwy a storiau Gaeleg eraill (An t-Aonaran agus segulachdan eile)
Iaith WreiddiolGaeleg yr Alban;
CyfieithyddJohn Stoddart;
Math Gwaith heb ei gyhoeddi
Cyhoeddwyd 1995

Nodiadau
Dòmhnall Iain MacDhugail. Adroddir yn y stori hon hanes am ffrae a fu ar un o Ynysoedd y Gorllewin. Cyhuddir un o'r trigolion o fod wedi archebu cocoa i'w gludo i siop yr ynys o'r tir mawr. Gwrthoda'r trigolyn hwn y cyhuddiad, a gwrthoda dalu am y cocoa. Wedi i'r ffrae ymsefydlu ymysg y trigolion dysgir mai gwr arall oedd wedi archebu'r cocoa wedi'r cwbl. Ond, erbyn hynny, yr oedd hwyliau gwael ymysg trigolion yr ynys. Cedwir y stori mewn ffolder yn Adran Llawysgrifau a Theipysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyfieithwyd y stori, ynghyd â nifer o straeon eraill, gan John Stoddart, gyda'r bwriad o gyhoeddi'r straeon mewn cyfrol brint. Nodir yng nghatalog y Llyfrgell Genedlaethol bod y straeon yn y ffolder hon yn rhai nas cynhwyswyd yn y gyfrol brint derfynol. Mae'r testun mewn cyflwr da, os ychydig yn bwl, a byddai modd ei ddigideiddio'n hawdd.

Allweddeiriau
CYMRUDIASPORAGAELEG YR ALBANHANESTEITHIOYR ALBAN

All mein Gedanken / Hed fy mreuddwydion

All mein Gedanken
Awdur: Dahn,Felix
Teitl gwreiddiol All mein Gedanken
Iaith WreiddiolAlmaeneg;
CyfieithyddMererid Hopwood;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 2006

Nodiadau
Felix Dahn (1836-1912). Yr oedd Felix Dahn yn gyfreithiwr, hanesydd, ac awdur Almaenaidd. Efe a luniodd y libretto sy'n sail i'r gwaith cerddorol hwn, sef Op. 21, Rhif 1, gan Richard Strauss. Teitl y gwaith cyfan, pum rhan, yw 'Schlichte Weisen'. Lluniwyd y cyfieithiad hwn ar gais Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mererid Hopwood biau'r cyfieithiad. Y golygydd oedd Alan Guy. Mae'r cyfieithiad wedi'i gadw yn adran llyfrau print Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r cyfieithiad a'r gwreiddiol wedi'u gosod gyda'i gilydd ar y daflen, ac mae'r geiriau a'r brawddegau wedi'u rhannu er mwyn adlewyrchu llif y gerddoriaeth. Fodd bynnag, ni cheir cerddoriaeth y darn ar y daflen. Cedwir yr hawlfraint i'r geiriau Cymraeg gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol.

Allweddeiriau
CERDDORIAETHCYMRUEISTEDDFOD GENEDLAETHOLLIBRETTO

Amser Cinio

Lunch Hour
Awdur: Mortimer,John
Teitl gwreiddiol Lunch Hour
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddAled Jones;
Math Deunydd Clyweled
Cyhoeddwyd 2014

Nodiadau
John Mortimer. (1923-2009). Dyma gyfieithiad o ddrama sy'n adrodd hanes dau gariad cyfarfod am ginio'n ddiarwybod i neb. Wrth iddynt drafod eu tryst daw nifer o densiynau'r berthynas i'r fei. Daw'r berthynas i'w therfyn gyda therfyn y cyfarfod. Yr actorion yn y perfformiad hwn oedd Nia Medi, Llion Williams, a Mari Rowland Huws. Perfformiwyd y ddrama'n gyntaf yn Saesneg yn 1960. Fe'i cyfieithwyd ac fe'i cynhyrchiwyd ar gyfer Radio Cymru gan Aled Jones. Fe'i darlledwyd ar Radio Cymru yn 1998.

Allweddeiriau
CYMRUHANESRADIOSAESNEGUGEINFED GANRIF

Amser drwg o'r flwyddyn


Awdur: MacInnes,Paul
Teitl y LlyfrY Meudwy: a storïau Gaeleg eraill
Iaith WreiddiolGaeleg yr Alban;
CyfieithyddJohn Stoddart;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 2000

Nodiadau
Paul MacInnes. Dyma stori fer Gaeleg yr Alban a gyfieithwyd gan John Stoddart. Cyhoeddwyd hi mewn cyfrol o straeon byrion Gaeleg yr Alban a gyhoeddwyd gan Gwasg Gwynedd yn 2000. Mae nifer o straeon wedi'u cyfieithu o'r Aeleg gan John Stoddart a hepgorwyd o'r gyfrol gyhoeddedig hon hefyd i'w canfod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Allweddeiriau
STORI FERGAELEG YR ALBANYR ALBANSTRAEON BYRIONCYMRU

Antigone

Antigone
Awdur: Anouilh,Jean
Teitl gwreiddiol Antigone
Teitl y GyfresDramâu'r Byd
Iaith WreiddiolFfrangeg;
CyfieithyddRoy Owen;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1976

Copi Digidol

Nodiadau
Jean Anouilh (1910-1987). Ceir bywgraffiad o fywyd Jean Anouilh yn y gyfrol hon. Yn ei 'Ragair' i'r gyfrol noda Roy Owen fod Anouilh wedi mynd allan o'i ffordd i bortreadu myth Groegaidd mewn modd cydamserol hanesyddol a modern. Mae'r ddrama hon yn rhan o'r gyfres Dramâu'r Byd. Rhaid cael caniatád oddi wrth Wasg Prifysgol Cymru cyn perfformio'r ddrama hon.

Allweddeiriau
DRAMA EWROPEAIDDGROEGUGEINFED GANRIFBYWGRAFFIADCYMRUEWROP

Ar Ddiwylliant Benywaidd


Awdur: Rossanda,Rossana
Iaith WreiddiolEidaleg;
CyfieithyddCeridwen Lloyd Morgan;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1986

Nodiadau
Rossana Rossanda (1924-). Ar adeg cyhoeddi'r cyfieithiad hwn yr oedd Rossana Rossanda'n adnabyddus ar y chwith yn yr Eidal fel golygydd 'Il Manifesto'. Cyhoeddwyd yr erthygl benodol hon yn gyntaf yn 1980 yn y cylchgrawn ffeminyddol 'L'Orsaminore', ac esgorodd ar drafodaeth hir a thrwyadl. Cyfieithiad o'r cyfieithiad Ffrangeg yw'r fersiwn Gymraeg hon, a gyfieithwyd gan Ceridwen Lloyd Morgan. Yn yr erthygl trafodir y cysyniadau a welir mewn rhai disgyrsiau ffeminyddol o ddiwylliant 'gwrywaidd' a 'benywaidd'. Pwysir a mesurir dilysrwydd y fath honiad, ac eir ati i geisio asesu defnyddioldeb y ddamcaniaeth mewn cymdeithaseg a gwleidyddiaeth. Ystyrir hefyd y disgyrsiau sy'n diffinio'r 'gwrywaidd' a'r 'benywaidd' fel cysyniadau diwylliannol yn y lle cyntaf. Cyfieithwyd yr erthygl gan Ceridwen Lloyd Morgan. Mae'r erthygl i'w chanfod yn y gyfrol 'Coleg Cymraeg: Rhif Un', sef yr unig gyfrol a gyhoeddwyd yn y gyfres arfaethiedig honno. Yn y gyfrol, yng ngeiriau ei golygydd, Ned Thomas, cesglir ynghyd "gasgliad o erthyglau, storîau a chyfweliadau sydd naill ai wedi'u cyfieithu o ieithoedd tramor neu sydd mewn rhyw fodd yn cysylltu Cymru â gweddill y byd". Golygwyd y gyfrol gan Ned Thomas, ac fe'i cyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Berw.

Allweddeiriau
CYMDEITHASEGCYMRUEIDALFFEMINYDDIAETHFFRANGEGGWLEIDYDDIAETHYR EIDAL

Arolygydd y Llywodraeth

Refisor
Awdur: Gogol,Nicolai
Teitl gwreiddiol Refisor
Iaith WreiddiolRwseg;
CyfieithyddSion Eirian;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 2003

Nodiadau
Nikolai Vasilievich Gogol (1809-1852). Cyfieithiad anuniongyrchol drwy'r Saesneg yw hwn o'r ddrama enwog Refisor gan yr awdur Rwseg Gogol (1809-1852). Fe'i comisiynwyd gan y dramodydd Siôn Eirian a'i gyhoeddi gan Goleg Cerdd a Drama Cymru. Sylwer bod fersiwn Cymraeg mwy diweddar yn y Gronfa dan y teitl Yr Archwilydd sydd yn gyfieithiad uniongyrchol o'r Rwseg gan LL.G. Chambers.

Allweddeiriau
COMEDICYMRUDRAMADYCHANLLENYDDIAETH RWSIASAESNEG

Aros 'Da Dad-Cu

A visit to Grandpa's
Awdur: Thomas,Dylan
Teitl gwreiddiol A visit to Grandpa's
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddT. James Jones;
Math Eitem mewn Cylchgrawn
Cyhoeddwyd 2003

Nodiadau
Dylan Marlais Thomas (1914-1953). Un o'r tri thestun rhyddiaith a gyhoeddwyd yn Taliesin er coffáu hanner canmlwyddiant ers marwolaeth yr awdur. Ceir rhagymadrodd byr gan y cyfieithydd yn rhoi cyd-destun llenyddol a bywgraffyddol i'r testunau. Comisiynwyd y cyfieithiadau gan Radio Cymru. Mae'r stori wreiddiol i'w chael yn Dylan Thomas, 1984. The Collected Stories. Llundain: J. M. Dent. Yn yr un rhifyn ceir y traethawd "'Heddwas Ifanc Iawn yn Ffrwydro': Cerddi Cynnar Dylan Thomas" gan Jane Aaron. Gwnaed recordiad o'r stori hon gan Radio Cymru yn 2003.

Allweddeiriau
CYMRUMARWOLAETHRADIOSTORI FERUGEINFED GANRIFSTRAEON BYRION

Aros 'da Datcu

A Visit to Grandpa's
Awdur: Thomas,Dylan
Teitl gwreiddiol A Visit to Grandpa's
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddT. James Jones;
Math Deunydd Clyweled
Cyhoeddwyd 1987

Nodiadau
Dylan Marlais Thomas (1914-1953). Mae'r stori hon yn un o dri chyfeithiad newydd a luniwyd gan T. James Jones o storïau byrion Dylan Thomas. Comisiynwyd y cyfieithiadau gan BBC Radio Cymru. Fe'i recordiwyd ar yr 28ain o Ragfyr 2003. Yn y recordiadau hyn yr actorion oedd Jonathan Nefydd, Dafydd Hywel, Catrin Rhys a Dewi Morys. Y Cynhyrchydd oedd Aled Jones. Mae copi o'r eitem hon i'w ganfod yn Archifdy Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Allweddeiriau
CYMRUSTORI FERUGEINFED GANRIFRADIOSTRAEON BYRION

Athroniaeth Crefydd ar gyfer myfyrwyr UG

Philosophy of Religion for A Level Students
Awdur: Jeys,Helen F.
Teitl gwreiddiol Philosophy of Religion for A Level Students
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddAnn Jenkins;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 2004

Nodiadau
Cyflwyniad yw Athroniaeth Crefydd ar gyfer myfyrwyr UG ar gyfer dechreuwyr sy'n ceisio egluro dadleuon a damcaniaethau allweddol Athroniaeth Crefydd. Mae 'Adran 1: Bodolaeth Duw' yn cyflwyno'r Ddadl Deleolegol a'r Ddadl Gosmolegol; mae 'Adran 2: Drygioni a Dioddefaint' yn mynd i'r afael â natur drygioni ac yn cyflwyno nifer o ddamcaniaethau pwysig, yn cynnwys Theodiciaethau Awstin ac Irenaeus. Bwriadwyd y gyfrol hon, a'i chwaer-gyfol ar y pwnc at ddibenion athrawon, fel cyfrolau i gyd-fynd â chyrsiau AS a Lefel A ysgolion uwchradd Cymru. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth ynddynt yn gynhwysfawr, y gweithgareddau ynddynt yn amrywiol a dyfeisgar, a hygyrchedd y cyfrolau, oll ynghyd yn eu gwneud yn addas iawn ar gyfer astudiaethau israddedig mewn prifysgolion neu fel cyfeirlyfrau cyffredinol ar y pwnc. Comisiynwyd a chyhoeddwyd y gyfrol hon fel rhan o gyfres o adnoddau addysg mewn Astudiaethau Crefydd gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC). Argraffwyd y gyfrol gan Gwasg UWIC Press.

Allweddeiriau
ADDYSGASTUDIAETHAU CREFYDDATHRONIAETHCREFYDDCYMRU

Awen y Gwyddyl

Amrywiol
Awdur: Amrywiol
Teitl gwreiddiol Amrywiol
Teitl y GyfresCyfres y Werin: 9
Iaith WreiddiolGwyddeleg;
CyfieithyddT. Gwynn Jones;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1934

Nodiadau
Cyfres y Werin, Rhif 9. Ceir 'Rhagair y Golygyddion', lle traetha'r Golygyddion am y cyswllt rhwng Cymru ac Iwerddon fel dwy wlad Geltaidd. Trafodant hanes llenyddol Iwerddon, ei safle yn Ewrop dros y canrifoedd, a'i hannibynniaeth yn 20au'r ugeinfed ganrif. Yn ei 'Ragymadrodd' rhydd T. Gwynn Jones drosolwg inni o hanes llenyddiaeth Wyddeleg Iwerddon, o gyfnod yr Hen Wyddeleg i waith beirdd cyfoes â'r cyfieithydd. Mae'r casgliad o gyfieithiadau barddonol yng ngweddill y llyfr yn adlewyrchol o ystod y rhagymadrodd hwn. Daw'r cerddi o'r 'Imram Brain mac Febail', y 'Tochmairc Etáine', ac o'r 'Serglige Conculaind', rhai caneuon am Deirdre, darn o'r 'Reicne Fothad Canainne', cerddi gan Gofraidh Fionn Ó Dálaigh, Maoilín Óg Mac Bruaideadha, Baothghalach Ruadh Mac Aodhagáin, Muireachadh Albanach Ó Dálaigh, Bonaventura Ó hEoghusa, Columcille, Gofraidh Fionn Ó Dálaigh, Toirdhealbhach Óg Mac Donnchadha, Michael Comyn, Macphearson, Maghnus Ó Domhnaill, Pádraigin Haicéad, Brian Mac Conmara, Liam Inglis, Douglas Hyde, Tadhg Ó Donnhadha, Pádraic Mac Piarais, Piaras Béaslaí, Peadar Ó h-Annracháin, Osborn J. Bergin, ac hefyd darnau o 'Agallamh Oisín agus Phádraig', 'Diarmad' ac 'Osian'.

Allweddeiriau
BARDDONIAETHCYFRES Y WERINCYMRUEWROPGWYDDELEGHANESIWERDDONLLENYDDIAETH EWROPEAIDDUGEINFED GANRIF

Blaenau Ffestiniog (Cymru, 1993-1997)

Carnet de voyage / Karnedig beaj
Awdur: Renault,Annaig
Teitl gwreiddiol Carnet de voyage / Karnedig beaj
Iaith WreiddiolLlydaweg;
CyfieithyddRhisiart Hinks;
Math Eitem mewn Cylchgrawn
Cyhoeddwyd 2014

Nodiadau
Annaig Renault (1946-2012). Rhan o 'Dyddiadur Taith' sy'n cynnwys myfyrdod yr awdur ar fywyd Blaenau pan oedd y chwareli'n dal i gynhyrchu llechi. Cyhoeddwyd y gwreiddiol yn Renault, Annaig, 2004. Carnet de voyage / Karnedig beaj. Kerangwenn: Coop Breizh.

Allweddeiriau
CYMRUDIWYDIANTCYMRUTEITHLYFRLLENYDDIAETH LYDAWEGDYDDIADUR

Blodau o Hen Ardd

Amrywiol gerddi
Awdur: Amrywiol
Golygyddion Evans,Ifor L.
Teitl gwreiddiol Amrywiol gerddi
Teitl y GyfresCyfres y Werin: Rhif 15
Iaith WreiddiolGroeg; Lladin;
CyfieithyddH. J. Rose; T. Gwynn Jones;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1927

Nodiadau
Dyma ddetholiad o Epigramau Groeg a Lladin, wedi'u dethol a'u rhagymadroddi gan H. J. Rose, Athro Lladin Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ar adeg cyhoeddi'r gyfrol, ac wedi'u trosi i fydr Cymraeg gan T. Gwynn Jones, Athro Llenyddiaeth y Brifysgol honno yn yr un cyfnod. Ceir 'Rhagymadrodd' (tt.9-25) cynhwysfawr yn esbonio'r testunau ac yn egluro'r rhesymeg a oedd wrth wraidd y detholiad a wnaed ohonynt. Ceir manylion am y beirdd gwreiddiol ar ddiwedd y 'Rhagymadrodd' hefyd. Nodir pwt am y cyfieithu fel coda i'r 'Rhagymadrodd' - eglurir sut yr aed ati i gymathu ffurfiau mydryddol Cymreig â'r testunau Clasurol gwreiddiol, gan ymwrol i gadw mor agos at y testunau gwreiddiol ag oedd yn bosibl wrth wneud hynny. Disgrifir y flodeugerdd fel adnodd da ar gyfer astudio'r ieithoedd eu hunain. Mae'r cerddi wedi'u cyhoeddi yn y Groeg a'r Lladin gwreiddiol ac yn y cyfieithiadau Cymraeg newydd yn y gyfrol hon. Ceir hefyd adran 'Nodiadau' (tt.83-95) ddifyr yn y gyfrol.

Allweddeiriau
BARDDONIAETHCLASURONGROEGLLADINCYMRUEWROP

Bore Ola'r Ysgol (yn Storïau Tramor III)

La Dernière Classe
Awdur: Daudet,Alphonse
Golygyddion Jones,Bobi
Teitl gwreiddiol La Dernière Classe
Teitl y LlyfrStorïau Tramor III
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolFfrangeg;
CyfieithyddE. T. Griffithis;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1976

Nodiadau
Alphonse Daudet (1840-1897). Yn ei 'Rhagair' (tt.8-9) i'r gyfrol hon, esbonia Bobi Jones mai blodeugerdd yw hon o straeon byrion a gyhoeddwyd eisoes yn y Gymraeg mewn amrywiol gyhoeddiadau cynharach na'r gyfrol ei hun. Rhydd bwt o wybodaeth am rai o'r cyfieithwyr hefyd, a nodyn yn amlinellu dyfodol y gyfres hon fel 'llyfrgell helaeth a gwerthfawr o'r campweithiau ym myd y stori fer'. Darperir bywgraffiadau cryno o hanes yr awduron yng nghefn y gyfrol, yn yr adran 'Cyflwyno'r Awduron' (tt.144-8). Cyhoeddwyd y cyfieithiad hwn am y tro cyntaf yn: Cymru XLVII, 1914, 206-208.

Allweddeiriau
FFRANGEGSTORI FERUGEINFED GANRIFBLODEUGERDDSTRAEON BYRIONHANESCYMRU

Breuddwyd Hafnos

A Midsummer Night's Dream
Awdur: Shakespeare,William
Teitl gwreiddiol A Midsummer Night's Dream
Teitl y LlyfrTair Drama Fer Un Act: At wasanaeth Ysgolion, Aelwydydd, Clybiau, etc.
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddJ. Eddie Parry;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 19

Nodiadau
William Shakespeare (1564-1616). Dyma gyfaddasiad a chyfieithiad o rannau o 'Midsummer Night's Dream' gan William Shakespeare. Cyfieithwyd y gwaith gan J. Eddie Parry "at wasanaeth Ysgolion, Aelwydydd, Clybiau, etc." Fe'i lluniwyd i weithio fel drama un act at ddibenion cwmnïau drama bychain. Cymreigiwyd y cymeriadau: John y Saer yw Quince, Dai Brethyn yw Bottom, Tim y Crydd yw Flute, Sam Tincer yw Snout, Morus y Teiliwr yw Starveling a Wil y Gof yw Snug. Canolbwyntir felly ar olygfa'r 'ddrama o fewn drama' yn y gwaith gwreiddiol. Mae'n ddiddorol nad yw Oberon na Titania'n chwarae rhan yn y ddrama. Canolbwyntir yn hytrach ar y 'rude mechanicals', megis, fel alegorïau o fywyd gwerinol Cymreig. Tybed a oes yma sgôp i ddarlleniad Marcsaidd o'r cyfieithiad hwn, ar sail addasiadau'r cyfieithydd? Mae'r cyfieithiad yn arddel iaith lafar, ac yn hepgor arddull Shakespearaidd draddodiadol. Ceir rhai cwestiynau a thasgau ar ddiwedd y cyfieithiad, er enghraifft - Ai Ffars yw Breuddwyd Hafnos?; Beth yw 'Interliwt'? A wyddoch chwi am Gymro enwog a ysgrifennodd amryw ohonynt?; Enwch ddrama arall gan Shakespeare sy'n cynnwys 'drama mewn drama'. Bwriedir hwynt fel mannau cychwyn ar gyfer trafodaethau mewn dosbarth neu gwmni drama, ac yn y blaen. Cyhoeddwyd y gyfrol gan yr awdur, J. Eddie Parry, Llanelli, De Cymru.

Allweddeiriau
DRAMADRAMA FERSHAKESPEARETUDURIAIDIAITHCYMRU

Breuddwyd Hafnos

A Midsummer Night's Dream
Awdur: Shakespeare,William
Teitl gwreiddiol A Midsummer Night's Dream
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddD. Gwenallt Jones;
Math Gwaith heb ei gyhoeddi
Cyhoeddwyd 19

Nodiadau
William Shakespeare (1564-1616). Dyma sgript deipiedig o'r ddrama radio 'Breuddwyd Hafnos', cyfieithiad i'r Gymraeg gan Gwenallt o 'A Midsummer Night's Dream' gan William Shakespeare. Gwnaed y cyfaddasiad a'r cyfarwyddo gan Dafydd Gruffyd. Rhestrir y cast ar y flaenddalen. Dyma nhw - Theseus: Dan Matthews, Egeus: John Phillips, Demetrius: Jack James, Lysander: Philip Phillips, Hermia: Mair Howells, Elen: Amy Thomas, Hippolyta: Dilys Griffiths Davies, Oberon: Isaac Davies, Titania: Rachel Hopkin, Pwc: Gunstone Jones, Tomos y Gwehydd: Peter Edwards, Meic y Masiwn: W. D. Roderick, Seimon y Saer: D. Clydach Thomas, Dic Ymbarel: George David, Wiliam y Tincer / Philostrate: D. Moses Jones, Harri'r Teiliwr: Tom Thomas. Cynhaliwyd Rhagbrofion y recordio ar Ddydd Mawrth, Mehefin 21, 19??, rhwng 18:30 - 22:00yh; Dydd Mercher, Mehefin 22, 19??, rhwng 18:45 - 22:00yh; a Dydd Iau, Mehefin 23, 19??, 18:30 - 20:15yh. Fe'i darlledwyd o Orsaf Caerdydd ar ddydd Iau, Mehefin 23, 19??, rhwng 20:40 a 21:40yh. Mae'r copi teipysgrif o'r script a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru'n lân ac yn eglur. Byddai'n hawdd ei ddigideiddio.

Allweddeiriau
CYMRUDRAMAU RADIORADIOSHAKESPEARETEIPYSGRIFLLOEGR

Breuddwyd Nos Wyl Ifan

A Midsummer Night's Dream
Awdur: Shakespeare,William
Teitl gwreiddiol A Midsummer Night's Dream
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddGwyn Thomas;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1999

Nodiadau
William Shakespeare (1564-1616). Ceir 'Rhagair' o ddwy ran. Trafoda'r naill 'Y Ddrama' ei hun, tra trafoda'r llall 'Y Fersiwn Hon' (tt. v-ix). Trafodir techneg y cyfieithydd yn 'Y Fersiwn Hon'. Comisiynwyd y cyfieithiad hwn dan nawdd Cynllun Cyhoeddiadau Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru.

Allweddeiriau
DRAMASHAKESPEARETUDURIAIDADDYSGCYMRULLOEGR

Brodyr a Chwiorydd. Pennod 1: Hannah

A Man's Estate
Awdur: Humphreys,Emyr
Teitl gwreiddiol A Man's Estate
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddW. J. Jones (Gwilym Fychan);
Math Deunydd Clyweled
Cyhoeddwyd 1994

Nodiadau
Emyr Humphreys (1919-). Dyma'r bennod gyntaf o addasiad teledu o 'Etifedd y Glyn' sef cyfieithiad W. J. Jones o 'A Man's Estate' gan Emyr Humphreys. Emyr Humphreys oedd yr un a addasodd y cyfieithiad nofelistig i ddrama deledu. Fe'i darlledwyd am y tro cyntaf ar y 3ydd o Ebrill 1994 ar S4C. Mae copi o'r darllediad wedi'i gadw yn yr Archifdy Sgrin a Sain yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Dysgwn yn y bennod gyntaf am Philip, yr etifedd, yn ceisio dygymod â'i hunaniaeth Gymreig a'i fywyd fel academydd a gwyddonydd, yn wyneb hen ragfarnau pietas a phenteuluaeth.

Allweddeiriau
CYMRUDRAMANOFELTELEDUUGEINFED GANRIF

Buchedd Sant Alecsis

La vie de saint Alexis
Awdur: Anad
Teitl gwreiddiol La vie de saint Alexis
Iaith WreiddiolFfrangeg;
CyfieithyddT Hudson Williams;
Math Eitem mewn Cylchgrawn
Cyhoeddwyd 1924

Nodiadau
Cyfieithiad Cymraeg o gerdd Ffrangeg ganoloesol a ymddangosodd yn ei chrynswth (125 o benillion) yn Y Genhinen Rhif lxii 1924. Mae llawysgrif y cyfieithydd hefyd i'w chael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Seilir y cyfieithiad ar olygiad Ffrangeg Gaston Paris a gyhoeddwyd yn 1921. Aeth y cyfieithydd T. Hudson Williams ymlaen i fod yn Athro'r Clasuron ym Mangor ac yn un o brif gyfieithwyr i'r Gymraeg ei gyfnod (o'r Rwsieg yn arbennig) ond fe ddechreuodd ei yrfa yn ddarlithydd yn y Ffrangeg.

Allweddeiriau
BUCHEDD SANTCLASURONCYMRUFFRAINCFFRANGEGLLAWYSGRIFLLENYDDIAETHOESOEDD CANOLSANT

Bwdhaeth ar gyfer myfyrwyr UG

Budhism for A Level Students
Awdur: Dossett,Wendy
Teitl gwreiddiol Budhism for A Level Students
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddSiân Edwards;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 2003

Nodiadau
Cyflwyniad yw Bwdhaeth ar gyfer myfyrwyr UG ar gyfer dechreuwyr sy'n anelu at gyfleu rhywfaint o amrywiaeth Bwdhaeth. Mae 'Adran 1: Bywyd y Bwdha' yn gosod ei fywyd a'i ddysgeidiaeth mewn cyd-destun hanesyddol; mae 'Adran 2: Cysyniadau ac Arferion' yn ymdrin â dysgeidiaethau allweddol y Bwdha a rhai arferion Bwdhaidd pwysig. Bwriadwyd y gyfrol hon, a'i chwaer-gyfol ar y pwnc at ddibenion athrawon, fel cyfrolau i gyd-fynd â chyrsiau AS a Lefel A ysgolion uwchradd Cymru. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth ynddynt yn gynhwysfawr, y gweithgareddau ynddynt yn amrywiol a dyfeisgar, a hygyrchedd y cyfrolau, oll ynghyd yn eu gwneud yn addas iawn ar gyfer astudiaethau israddedig mewn prifysgolion neu fel cyfeirlyfrau cyffredinol ar y pwnc. Comisiynwyd a chyhoeddwyd y gyfrol hon fel rhan o gyfres o adnoddau addysg mewn Astudiaethau Crefydd gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC). Argraffwyd y gyfrol gan Gwasg UWIC Press.

Allweddeiriau
BWDHAETHCYMRUADDYSGASTUDIAETHAU CREFYDDCREFYDD

Bwdhaeth ar gyfer myfyrwyr UG: Llawlyfr Athrawon

Budhism for A Level Students
Awdur: Dossett,Wendy
Teitl gwreiddiol Budhism for A Level Students
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddSiân Edwards;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 2003

Nodiadau
Cyflwyniad yw Bwdhaeth ar gyfer myfyrwyr UG ar gyfer dechreuwyr sy'n anelu at gyfleu rhywfaint o amrywiaeth Bwdhaeth. Mae 'Adran 1: Bywyd y Bwdha' yn gosod ei fywyd a'i ddysgeidiaeth mewn cyd-destun hanesyddol; mae 'Adran 2: Cysyniadau ac Arferion' yn ymdrin â dysgeidiaethau allweddol y Bwdha a rhai arferion Bwdhaidd pwysig. Bwriadwyd y gyfrol hon, a'i chwaer-gyfol ar y pwnc at ddibenion myfyrwyr, fel cyfrolau i gyd-fynd â chyrsiau AS a Lefel A ysgolion uwchradd Cymru. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth ynddynt yn gynhwysfawr, y gweithgareddau ynddynt yn amrywiol a dyfeisgar, a hygyrchedd y cyfrolau, oll ynghyd yn eu gwneud yn addas iawn ar gyfer astudiaethau israddedig mewn prifysgolion neu fel cyfeirlyfrau cyffredinol ar y pwnc. Comisiynwyd a chyhoeddwyd y gyfrol hon fel rhan o gyfres o adnoddau addysg mewn Astudiaethau Crefydd gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC). Argraffwyd y gyfrol gan Gwasg UWIC Press.

Allweddeiriau
BWDHAETHCYMRUADDYSGASTUDIAETHAU CREFYDDCREFYDD

Byw am Yfory

A Girl Alone
Awdur: Peake,Lilian
Teitl gwreiddiol A Girl Alone
Teitl y GyfresCyfres y Fodrwy
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddSara Llwyd;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1983

Nodiadau
Lilian Peake (1927-1997). Cyhoeddwyd y fersiwn Saesneg gan Mills & Boon Cyf., Llundain yn 1972. Cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg gan PAIS (Cylchgrawn Merched Cymru), a chomisiynwyd y gyfres (Cyfres y Fodrwy) gan Y Cyngor Llyfrau Cymraeg.

Allweddeiriau
MILLS & BOONNOFELSTORI SERCHCYMRU

Caligula

Caligula
Awdur: Camus,Albert
Teitl gwreiddiol Caligula
Teitl y GyfresDramâu'r Byd
Iaith WreiddiolFfrangeg;
CyfieithyddEmyr Tudwal Jones; Prys Morgan;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1978

Nodiadau
Albert Camus (1913-1960). Ceir bywgraffiad cryno o fywyd Camus yn y gyfrol hon. Yn ei ragymadrodd i'r gyfrol trafoda Emyr Tudwal Jones themâu'r ddrama, gan gyfeirio ati fel drama am bobl ifainc, drama sy'n ymboeni am ddirfodaeth, a drama sy'n nodweddiadol o ystyriaethau llenyddol y dramodydd yn gyffredinol. Cyfieithwyd y ddrama yn ystod wythnos gyfieithu a gynhaliwyd, dan nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru, yng Ngregynog, 12-19 o Fedi, 1975. Mae'r hawl i berfformio'r ddrama hon ym meddiant S.A.C.D., Paris. Ymofynner â Gwasg Prifysgol Cymru ynglyn â sicrhau caniatâd i'w pherfformio.

Allweddeiriau
BYWGRAFFIADCYMRUDIRFODAETHDRAMADRAMA EWROPEAIDDEWROPFFRAINCRHUFEINIAID

Cariad yn y Caribi

Images of Love
Awdur: Mather,Anne
Teitl gwreiddiol Images of Love
Teitl y GyfresCyfres y Fodrwy
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddSioned Puw;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1987

Nodiadau
Anne Mather [Mildred Grieveson] (1946-). Cyhoeddwyd y fersiwn Saesneg gan Mills & Boon Cyf., Llundain yn 1980. Cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg gan PAIS (Cylchgrawn Merched Cymru), a chomisiynwyd y gyfres (Cyfres y Fodrwy) gan Y Cyngor Llyfrau Cymraeg.

Allweddeiriau
CYMRUMILLS & BOONNOFELSTORI SERCHSAESNEG

Cariad yn yr Haul

The Arrogant Duke
Awdur: Mather,Anne
Teitl gwreiddiol The Arrogant Duke
Teitl y GyfresCyfres y Fodrwy
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddAnn Ifans;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1983

Nodiadau
Anne Mather [Mildred Grieveson] (1946-). Cyhoeddwyd y fersiwn Saesneg gan Mills & Boon Cyf., Llundain yn 1970. Cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg gan PAIS (Cylchgrawn Merched Cymru), a chomisiynwyd y gyfres (Cyfres y Fodrwy) gan Y Cyngor Llyfrau Cymraeg.

Allweddeiriau
MILLS & BOONNOFELSTORI SERCHCYMRUSAESNEG

Carmen

Carmen
Awdur: Meilhac,Henri Halévy,Ludovic
Teitl gwreiddiol Carmen
Iaith WreiddiolFfrangeg;
CyfieithyddT.H. Parry-Williams;
Math Gwaith heb ei gyhoeddi
Cyhoeddwyd 1952

Nodiadau
Henri Meilhac (1831-1897). Ludovic Halévy (1834-1908). Dyma gyfieithiad o libretto Meilhac ac Halévy ar gyfer opera pedair act Georges Bizet, Carmen. Nodweddir yr opera gan gyfoeth ei melodïau, ei chymeriadu, a'i gwaith cerddorfaol. Y cyfieithydd i'r Gymraeg yw T.H. Parry-Williams. Gwnaed y cyfieithiad ar gais The Welsh National Opera Company, Ltd. ar gyfer eu perfformiad o'r gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1952. Mae copïau teipysgrif o'r gwaith wedi'u cadw yn Adran Llawysgrifau a Theipysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fe'u cedwir hwynt ynghyd â gohebiaeth gynhwysfawr rhwng y Cwmni â'r cyfieithydd, a nifer o fersiwynau cynnar o'r gwaith ar ffurf llawysgrifau. Marc catalog y casgliad yw I113-21. Mae'r testun teipysgrif ei hun yn eglur ac yn ddarllenadwy, a byddai'n hawdd ei ddigideiddio.

Allweddeiriau
CERDDORIAETHCYMRUEISTEDDFOD GENEDLAETHOLFFRAINCLIBRETTOOPERATEIPYSGRIF

Carnifal

Carnifal
Awdur: Hemon,Roparz
Teitl gwreiddiol Carnifal
Iaith WreiddiolLlydaweg;
CyfieithyddArzel Even;
Math Eitem mewn Cylchgrawn
Cyhoeddwyd 1961

Nodiadau
Roparz Hemon (1900-1978). Drama fer. Egyr y ddrama yn nhy Gweinigog Anghydffurfiol, Alois, a'i wraig, Dora a'u morwyn o'r enw Gwen. Lleolir y ddrama 'rhywle yn Eryri'. Mae'r tri ohonyn nhw'n gwisgo mygydau, a sylwn nad yw'r berthynas rhwng Alois a Dora yn un rhy dda. Mae ganddynt fywyd tawel a chonfensiynol iawn o gymharu â'u cymdoges, Mrs. Halden, sydd yn y Riviera ar hyn o bryd. Maent yn derbyn bocs o flodau gan Mrs. Halden fel anrheg, ac er ansicrwydd Dora yn ei gylch mae Alois yn agor y bocs. Caiff y tri ohonynt eu swyno gan arogl hyfryd y blodau yn y bocs. Sylwa Gwen bod dyn bach yng ngwaelod y bocs, a'i enw yw Carnifal. Llama'r dyn o'r bocs, ac esbonia ei fod yn dod o wlad y blodau, rywle rhwng y haul, y lleuad a'r Eidal. Fesul un, teifl Carnifal fygydau'r tri ymaith, gan beri i'w wynebau edrych yn ifancach o lawer. Mae Dora ac Alois yn syrthio mewn cariad unwaith eto, ac yn synfyfyrio am eu hamser yn Sbaen ac yn yr Almaen. Maent yn canmol ei gilydd, ac yn teimlo tosturi dros eu morwyn gan nad yw wedi teithio tu hwnt i fynyddoedd Cymru. Y noson honno, cyn bwriadu teithio am y Riviera yn y bore, mae'r pedwar ohonynt, yn cynnwys y Carnifal, yn dathlu drwy yfed Port, ysmygu sigarennau a dawnsio i gerddoriaeth. Ond, yn fuan iawn, daw'r amser i Garnifal i ddiflannu. Yn sgil hyn, dychwel y tri i'w bywydau syml a di-gynnwrf unwaith eto.

Allweddeiriau
CARIADCYMRUDRAMADRAMA FERSBAENYR ALMAENYR UGEINFED GANRIFEIDALALMAENTEITHIO

Casgliad Tawelwch Dr. Murke


Awdur: Böll,Heinrich
Teitl y LlyfrCarnifal
Iaith WreiddiolAlmaeneg;
CyfieithyddJohn Elwyn Jones;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 19

Nodiadau
Heinrich Böll (1917-1985). Cyhoeddwyd y stori hon yn y gyfrol 'Carnifal', cyfrol o straeon byrion gan Gerhart Hauptmann a Heinrich Böll, gan Llyfrau'r Faner, y Bala. Fe'i cyhoeddwyd dan nawdd Cynllun Llyfrau Cymraeg Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. Ni cheir bywgraffiad o'r awdur na'r cyfieithydd yn y gyfrol, nac ychwaith unrhyw fath ar ragymadrodd esboniadol.

Allweddeiriau
STRAEON BYRIONUGEINFED GANRIFYR ALMAENCYMRUSTORI FER

Cath a Llygoden

Katz und Maus
Awdur: Grass,Günter
Teitl gwreiddiol Katz und Maus
Iaith WreiddiolAlmaeneg;
CyfieithyddGwilym Lloyd Edwards;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1994

Nodiadau
Günter Grass (1927-). Roedd rhan o'r gwaith hwn yn fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol (1981), ac ar sail hynny, derbyniodd y cyfieithydd Gomisiwn gan yr Eisteddfod a Chyngor Celfyddydau Cymru i orffen y gwaith. Ceir bywgraffiad o'r cyfieithydd yn y gyfrol, lle nodir ei fod wedi ennill sawl gwobr Eisteddfodol. Ceir bywgraffiad hefyd o'r awdur, lle nodir y ganed Günter Grass yn 1927, yn Langfuhr, un o faesdrefi Danzig. Bu'n garcharor rhyfel yn 1945. Yn fardd ac yn ddramodydd, yr oedd wedi cyhoeddi tair nofel ar adeg ysgrifennu'r broliant. Hon oedd ei ail nofel, 'Katz und Maus' (1961)

Allweddeiriau
EISTEDDFOD GENEDLAETHOLNOFELYR ALMAENCYMRUBYWGRAFFIADEWROPLLENYDDIAETH

Cavalleria Rusticana (Sifalri Gwladaidd)

Cavalleria Rusticana
Awdur: Targioni-Tozzetti,Giovanni Menasci,Guido
Teitl gwreiddiol Cavalleria Rusticana
Iaith WreiddiolEidaleg;
CyfieithyddT.H. Parry-Williams;
Math Gwaith heb ei gyhoeddi
Cyhoeddwyd 1951

Nodiadau
Giovanni Targioni-Tozzetti (1863-1934). Guido Menasci (1867-1925). Dyma gyfieithiad T.H. Parry-Williams o libretto Giovanni Targioni-Tozzetti a Guido Menasci, sef y sail i opera un-act gan Pietro Mascagni, Cavelleria Rusticana. Portreadir yn yr opera hanes a throeon trwstan cariadon ifainc mewn tref fechan yn Sisili. Comisiynwyd y cyfieithiad gan The Welsh National Opera Company, Limited, ar gyfer cyngerdd a gynhaliwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Llun Gwyl y Banc ym mis Awst, 1951. Cedwir y cyfieithiad ar ffurf teipysgrif (a llawysgrif) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ei farc catalog yw: I101-10. Yn y casgliad hwn ceir nifer o gopïau o destun yr opera. Mae'r cyntaf yn fersiwn llawysgrif a ysgrifennwyd yn llaw'r cyfieithydd ar fanwscript cerddorol i'r cyfieithiad Saesneg o'r gwaith. Mae'r rhai nesaf yn deipysgrifau cyflawn o'r gwaith, gydag amrywiol addasiadau a glosau yn gwahaniaethu pob un. Mae'r testun yn eglur ac yn ddealladwy. Byddai'n hawdd i'w ddigideiddio.

Allweddeiriau
LIBRETTOOPERAEISTEDDFOD GENEDLAETHOLTEIPYSGRIFLLAWYSGRIFCYMRUHANESSAESNEG

Cerdd Rolant

La Chanson de Roland
Awdur: Anad
Teitl gwreiddiol La Chanson de Roland
Iaith WreiddiolFfrangeg;
CyfieithyddT.Hudson Williams;
Math Gwaith heb ei gyhoeddi
Cyhoeddwyd 1924

Nodiadau
Cyfieithiad mydryddol o gerdd hir enwocaf cyfnod y Ffrangeg gynnar. Cedwir y testun yn Adran Lawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Man Adnau 734), ond yn wahanol i gyfieithiado Buchedd Sant Alecsis, gan yr un cyfieithydd, ni chafwyd hyd i fersiwn print o'r testun Cymraeg. Cyfieithwyd y gerdd gyfan gyda 'Rhagair' a 'Rhagymadrodd' gan T. Hudson-Williams a fu gyntaf yn ddarlithydd Ffrangeg ac yna Athro'r Clasuron ym Mhrifysgol Bangor ac yn un o brif gyfieithwyr i'r Gymraeg ei gyfnod. Disgrifir y 'Rhagymadrodd' gan y cyfieithydd yn "ffurf diwygiedig o erthygl a gyhoeddwyd yn y Geninen Mai 1924."

Allweddeiriau
CHANSON DE GESTECLASURONCYMRUEPIGFFRAINCFFRANGEGLLENYDDIAETHOESOEDD CANOLSANT

Cerdded gyda Hanes

Walking with History
Awdur: Hadley,Roger Davies,Ken
Teitl gwreiddiol Walking with History
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddBryn Hughes;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 2000

Nodiadau
Ceir yn y gyfrol hon fanylion saith taith gerdded o fewn, ac o gwmpas, a rhwng, pentrefi Trelawnyd a Gwaenysgor, Sir Fflint, gyda nodiadau ar hanes yr ardal. Mae'r nodiadau hanesyddol hyn yn rhai cynhwysfawr iawn, ac yn gyfoeth o hanes leol. Yn gyson, gesyd yr awdur yr hanesion lleol hyn mewn cyd-destunau ehangach, o safbwyntiau gwleidyddiaeth a gwladweinyddiaeth Cymru, Prydain ac Ewrop. Ceir mapiau yn y gyfrol hefyd yn dangos hynt pob taith. Yn y 'Rhagymadrodd' esbonnir y cyllidwyd y gyfrol hon gan yr ymgyrch i sefydlu Llwybr Mileniwm Trelawnyd a Gwaenysgor ar gyfer y flwyddyn 2000. Y llwybr hwn sy'n sail i'r holl deithiau a ddisgrifir yn y llyfr. Adroddir hanes yr ymgyrch i sefydlu'r llwybrau yn y 'Rhagymadrodd'. Cyhoeddwyd y gyfrol gan Gyngor Cymuned Trelawnyd a Gwaenysgor, Prestatyn, Sir Ddinbych. Fe'i hargraffwyd gan Dylunio ac Argraffu, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint.

Allweddeiriau
CYMRUEWROPGWLEIDYDDIAETHHANESPRYDAIN

Clorian y Balekiaid


Awdur: Böll,Heinrich
Teitl y LlyfrCarnifal
Iaith WreiddiolAlmaeneg;
CyfieithyddJohn Elwyn Jones;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 19

Nodiadau
Heinrich Böll (1917-1985). Cyhoeddwyd y stori hon yn y gyfrol 'Carnifal', cyfrol o straeon byrion gan Gerhart Hauptmann a Heinrich Böll, gan Llyfrau'r Faner, y Bala. Fe'i cyhoeddwyd dan nawdd Cynllun Llyfrau Cymraeg Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. Ni cheir bywgraffiad o'r awdur na'r cyfieithydd yn y gyfrol, nac ychwaith unrhyw fath ar ragymadrodd esboniadol.

Allweddeiriau
STRAEON BYRIONUGEINFED GANRIFYR ALMAENCYMRUSTORI FER

Codiad Cyflog

L'aumento
Awdur: Buzzati,Dino
Teitl gwreiddiol L'aumento
Teitl y LlyfrColeg Cymraeg: Rhif Un
Iaith WreiddiolEidaleg;
CyfieithyddIslwyn Ffowc Ellis;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1986

Nodiadau
Dino Buzzati (1906-1972). Cyfieithiad Islwyn Ffowc Ellis yw hwn o stori fer Dino Buzzati, 'L'aumento'. Ynddi adroddir hanes gweithiwr sy'n gofyn am godiad cyflog oddi wrth ei fos. Trwy hau pryderon ac ofn am ddyfodol y cwmni llwydda'r bos i berswadio'r gweithiwr nad codiad cyflog mo'r syniad gorau ar ei gyfer; yn hytrach, cytuna'r gweithiwr i dderbyn gostyngiad yn ei gyflog. Aiff y gweithiwr o'r cyfarfod yn llon ei fyd. Dyma ddychan bachog ar gyfalafiaeth, a dyma stori a fyddai'n gweddu'n dda at ddehongliad llenyddol Marcsaidd. Mae'r stori i'w chanfod yn y gyfrol 'Coleg Cymraeg: Rhif Un', sef yr unig gyfrol a gyhoeddwyd yn y gyfres arfaethiedig honno. Yn y gyfrol, yng ngeiriau ei golygydd, Ned Thomas, cesglir ynghyd "gasgliad o erthyglau, storîau a chyfweliadau sydd naill ai wedi'u cyfieithu o ieithoedd tramor neu sydd mewn rhyw fodd yn cysylltu Cymru â gweddill y byd". Golygwyd y gyfrol gan Ned Thomas, ac fe'i cyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Berw.

Allweddeiriau
CYFALAFIAETHCYMRUHANESMARCSIAETHOFNSTORI FERUGEINFED GANRIFYR EIDALSTRAEON BYRION

Cof Creulon

The Sanchez Tradition
Awdur: Mather,Anne
Teitl gwreiddiol The Sanchez Tradition
Teitl y GyfresCyfres y Fodrwy
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddRhian Glyn;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1979

Nodiadau
Anne Mather [Mildred Grieveson] (1946-). Cyhoeddwyd y fersiwn Saesneg gan Mills & Boon Cyf., Llundain yn 1971. Cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg gan PAIS (Cylchgrawn Merched Cymru), a chomisiynwyd y gyfres (Cyfres y Fodrwy) gan Y Cyngor Llyfrau Cymraeg.

Allweddeiriau
MILLS & BOONNOFELSTORI SERCHSAESNEGCYMRU

Cofio Medi

Remember September
Awdur: Dingwell,Joyce
Teitl gwreiddiol Remember September
Teitl y GyfresCyfres y Fodrwy
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddElin Huws;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1984

Nodiadau
Joyce Dingwell (1908-1997). Awdur o Awstralia oedd Joyce Dingwell, ac ysgrifennodd 80 o lyfrau i'r gyfres Mills & Boon, gan gynnwys y nofel hon yn ei fersiwn Saesneg wreiddiol. Cyhoeddwyd y fersiwn Saesneg gan Mills & Boon Cyf., Llundain yn 1977. Cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg gan PAIS (Cylchgrawn Merched Cymru), a chomisiynwyd y gyfres (Cyfres y Fodrwy) gan Y Cyngor Llyfrau Cymraeg.

Allweddeiriau
MILLS & BOONNOFELSTORI SERCHCYMRUSAESNEG

Coll Prydain

De Excidio et Conquestu Britanniae
Awdur: Gildas
Teitl gwreiddiol De Excidio et Conquestu Britanniae
Iaith WreiddiolLladin;
CyfieithyddA.W.Wade-Evans;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1950

Nodiadau
Cyfieithiad i'r Gymraeg o'r testun Lladin canoloesol sy'n adrodd "sut y collodd y Brythoniaid Ynys Prydain oddieithr Cymru a'r gorllewin." Ceir Rhagair 'At y Cymry' a hefyd nodiadau a sylwebaeth mewn atodiadau ar y diwedd. Mae safbwynt bendant iawn gan y cyfieithydd fel y gellir synhwyro o'r datganiad ar y wynebddalen: "Dyma'r llyfryn - y cyntaf i ymdrin â hanes y Brythoniaid - sydd wedi gwenwyno ffynhonnau hanes y Cymry am ganrifoedd".

Allweddeiriau
BRYTHONIAIDCYMRUHANESHANES CYMRULLADINOESOEDD CANOLPRYDAIN

Congrinero'r Gorllewin

Playboy of the Western World
Awdur: Synge,J.M.
Teitl gwreiddiol Playboy of the Western World
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddGruffydd Parry;
Math Deunydd Clyweled
Cyhoeddwyd 1982

Nodiadau
John Millington Synge (1871-1909). Dyma 'Congrinero'r Gorllewin', sef cyfieithiad Gruffydd Parry o ddrama J. M. Synge, 'Playboy of the Western World', wedi'i gynhyrchu gan BBC Cymru ar gyfer cyfres S4C, 'Dramâu Difiau'. Lleolir y ddrama yng Ngorllewin Iwerddon, yn ardal Maigh Eo. Edrydd ynddi hanes am ddyn dirgel yn cyrraedd tafarndy fin nos. Wedi hir holi daw hi'n eglur mai dyn sydd wedi llofruddio'i dad yw'r bonheddwr hwn. Gwiriona holl ferched y fro arno, ond ymddengys nad yw pob rhan o'i stori'n gwbl wir. Dadrithad y stori hon, ac yna ei hatgyfnerthiad ar sail ymlyniad at chwedl wirach na'r gwirionedd, sydd wrth wraidd gweddill digwydd y ddrama. Ffilmiwyd rhannau helaeth o'r ddrama hon ar Benrhyn Dewi. Dyma'r cast. Christy Mahon, Dyfan Tomas; Pegeen, Bethan Jones; Shawn Keogh, Fraser Cains; Michael James, Llew Thomas; Jimmy Farrell, Clive Roberts; Philly Cullen, J. O. Jones; Y Wraig Quinn, Maureen Rhys; Sara, Nia Caron; Susan, Betsan Llwyd; Nelly, Dwynwen Berry; Mahon, J. O. Roberts. Golygwyd y Script gan Gwenlyn Parry, a'r Cynhyrchydd oedd George P. Owen. Mae copi o'r eitem hon i'w ganfod yn Archifdy Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Allweddeiriau
CYMRUHANESIWERDDONUGEINFED GANRIF

Crefydd a Moeseg ar gyfer myfyrwyr UG

Religion and Ethics for AS Students
Awdur: Davies,Noel A.
Teitl gwreiddiol Religion and Ethics for AS Students
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddIeuan Griffith;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 2003

Nodiadau
Cyflwyniad yw 'Crefydd a Moeseg ar gyfer myfyrwyr UG' ar gyfer dechreuwyr i nodweddion pwysicaf damcanieth foesol, mewn perthynas â chwech o grefyddau mawr y byd. Mae 'Adran 1: Damcaniaeth Foesol' yn cyflwyno'r Ddeddf Naturiol, Iwtilitariaeth a Moeseg Sefyllfa, ac egwyddorion chwe chrefydd fyd-eang; mae 'Adran 2: Moeseg Gymwysedig - Perthynas Rywiol' yn cyflwyno dysgeidiaeth crefyddau'r byd ynghylch moeseg rywiol. Hwn yw 'Llawlyfr yr Athrawon'. Mae 'Gwerslyfr' yn cyd-fynd â'r gyfrol hon. Yn y 'Rhagarweiniad' i'r gyfrol nodir mai amcan y llyfr yw 'cyfwyno'r arfau sy'n angenrheidiol i alluogi myfyrwyr i ffurfio barn ddeallus ac i ffurfio safbwyntiau personol cynaladwy ar y materion a gyflwynir.' Ceir yn y 'Rhagarweiniad' hwn hefyd gasgliad helaeth o wefannau addas ar gyfer y cwrs ac ar gyfer astudiaethau pellach. Rhestrir nifer o ddeunyddiau dysgu addas a ddarperir gan CBAC. Er bod y cwrs a'r wybodaeth a amlinellir ac a gyflwynir yn y gyfrol hon wedi'u llunio'n benodol at ddefnydd myfyrwyr UG mae'r wybodaeth yn ddigon cynhwysfawr, a strwythur y cwrs yn ddigon hyblyg, i'w ddefnyddio ar lefel Israddedig hefyd. Comisiynwyd a chyhoeddwyd y gyfrol hon fel rhan o gyfres o adnoddau addysg mewn Astudiaethau Crefydd gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC). Argraffwyd y gyfrol gan Gwasg UWIC Press.

Allweddeiriau
ADDYSGASTUDIAETHAU CREFYDDCREFYDDCYMRUGWERSLYFRMOESEG

Cristnogaeth ar gyfer myfyrwyr UG

Christianity for A Level Students
Awdur: Cohn-Sherbok,Lavinia
Teitl gwreiddiol Christianity for A Level Students
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddIeuan Griffith;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 2004

Nodiadau
Cyflwyniad yw Cristnogaeth ar gyfer myfyrwyr UG ar gyfer dechreuwyr sy'n archwilio rhai o nodweddion allweddol cred ac arfer Cristnogaeth. Mae 'Adran 1: Gwreiddiau amrywiaeth Gristnogol' yn archwilio achosion a chanlyniadau'r Sgism Mawr a'r Diwygiad Protestannaidd; mae 'Adran 2: Addoli a sacramentau Cristnogol' yn archwilio credoau ac arferion allweddol mewn Cristnogaeth gyfoes, yn enwedig Bedydd a'r Ewcharist; ac mae 'Adran 3: Dathlu' yn archwilio arwyddocâd gwyliau fel y Nadolig a'r Pasg ym mywydau Cristnogion. Bwriadwyd y gyfrol hon, a'i chwaer-gyfol ar y pwnc at ddibenion athrawon, fel cyfrolau i gyd-fynd â chyrsiau AS a Lefel A ysgolion uwchradd Cymru. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth ynddynt yn gynhwysfawr, y gweithgareddau ynddynt yn amrywiol a dyfeisgar, a hygyrchedd y cyfrolau, oll ynghyd yn eu gwneud yn addas iawn ar gyfer astudiaethau israddedig mewn prifysgolion neu fel cyfeirlyfrau cyffredinol ar y pwnc. Comisiynwyd a chyhoeddwyd y gyfrol hon fel rhan o gyfres o adnoddau addysg mewn Astudiaethau Crefydd gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC). Argraffwyd y gyfrol gan Gwasg UWIC Press.

Allweddeiriau
CRISTNOGAETHCYMRUADDYSGASTUDIAETHAU CREFYDDCREFYDD

Cristnogaeth ar gyfer myfyrwyr UG: Llawlyfr Athrawon

Christianity for AS students
Awdur: Prosser,Barbara
Teitl gwreiddiol Christianity for AS students
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddSiân Edwards;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 2004

Nodiadau
Cyflwyniad yw Cristnogaeth ar gyfer myfyrwyr UG ar gyfer dechreuwyr, sy'n archwilio rhai o nodweddion allweddol cred ac arfer Cristnogaeth. Mae 'Adran 1: Gwreiddiau amrywiaeth Gristnogol' yn archwilio achosion a chanlyniadau'r Sgism Mawr a'r Diwygiad Protestannaidd; mae 'Adran 2: Addoli a sacramentau Cristnogol' yn archwilio credoau ac arferion allweddol mewn Cristnogaeth gyfoes, yn enwedig Bedydd a'r Ewcharist; ac mae 'Adran 3: Dathlu' yn archwilio arwyddocâd gwyliau fel y Nadolig a'r Pasg ym mywydau Cristnogion. Bwriadwyd y gyfrol hon, a'i chwaer-gyfol ar y pwnc at ddibenion myfyrwyr, fel cyfrolau i gyd-fynd â chyrsiau AS a Lefel A ysgolion uwchradd Cymru. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth ynddynt yn gynhwysfawr, y gweithgareddau ynddynt yn amrywiol a dyfeisgar, a hygyrchedd y cyfrolau, oll ynghyd yn eu gwneud yn addas iawn ar gyfer astudiaethau israddedig mewn prifysgolion neu fel cyfeirlyfrau cyffredinol ar y pwnc. Comisiynwyd a chyhoeddwyd y gyfrol hon fel rhan o gyfres o adnoddau addysg mewn Astudiaethau Crefydd gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC). Argraffwyd y gyfrol gan Gwasg UWIC Press.

Allweddeiriau
CRISTNOGAETHCYMRUADDYSGASTUDIAETHAU CREFYDDCREFYDD

Cur Cariad

Jungles of Desire
Awdur: Kidd,Flora
Teitl gwreiddiol Jungles of Desire
Teitl y GyfresCyfres y Fodrwy
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddMair Siôn;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1982

Nodiadau
Cyhoeddwyd y fersiwn Saesneg gan Mills & Boon Cyf., Llundain yn 1977. Cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg gan PAIS (Cylchgrawn Merched Cymru), a chomisiynwyd y gyfres (Cyfres y Fodrwy) gan Y Cyngor Llyfrau Cymraeg.

Allweddeiriau
CYMRUMILLS & BOONNOFELSTORI SERCH

Curiad y Galon

The Doctor's Circle
Awdur: Farnes,Eleanor
Teitl gwreiddiol The Doctor's Circle
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddElinor Tomos;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1988

Nodiadau
Elanor Farnes (????). Cyhoeddwyd y fersiwn Saesneg gan Mills & Boon Cyf., Llundain yn 1970. Cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg gan PAIS (Cylchgrawn Merched Cymru), a chomisiynwyd y gyfres (Cyfres y Fodrwy) gan Y Cyngor Llyfrau Cymraeg.

Allweddeiriau
CYMRUMILLS & BOONNOFELSTORI SERCHSAESNEG

Cusanau a Gwin

The Kisses and the Wine
Awdur: Winspear,Violet
Teitl gwreiddiol The Kisses and the Wine
Teitl y GyfresCyfres y Fodrwy
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddMeinir Ifans;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1985

Nodiadau
Violet Winspear (1928-1989). Cyhoeddwyd y fersiwn Saesneg gan Mills & Boon Cyf., Llundain yn 1973. Cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg gan PAIS (Cylchgrawn Merched Cymru), a chomisiynwyd y gyfres (Cyfres y Fodrwy) gan Y Cyngor Llyfrau Cymraeg.

Allweddeiriau
CYMRUMILLS & BOONNOFELSTORI SERCH

Cwyn Frederico: L'arlesiana

Il Lamento di Federico
Awdur: Marenco,Leopoldo
Teitl gwreiddiol Il Lamento di Federico
Iaith WreiddiolEidaleg;
CyfieithyddDyfnallt Morgan;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1991

Nodiadau
Leopoldo Marecno (1831-1899). Dyma gyfieithiad, ar ffurf llungopi o deipysgrif, a gedwir yn adran llyfrau print y Llyfrgell Genedlaethol. Cyfieithiad ydyw at ddefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol. Dyma destun un o'r dair aria enwocaf o'r opera 'L'aresiana' gan Francesco Cilea. Sail yr opera oedd libretto Marenco Leopoldo, oedd ei hun yn seiliedig ar ddrama 'L'Arlésienne' gan Alphonse Daudet (1872). Ysbrydoliaeth y ddrama honno oedd ei stori fer 'Lettres de mon moulin'. Cyfieithiwyd yr aria gan Dyfnallt Morgan ar gyfer cystadleuaeth yr Unawd Tenor yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Delyn yn 1991. Ceir yma'r testun gwreiddiol uwchlaw'r testun Cymraeg newydd. Darperir hefyd sylwadau John Stoddart, yn ei swyddogaeth fel Ymgynghorydd Lleisiol, ar y cyfieithiad. Canmolir y cyfieithiad yn fawr ganddo. Sonir amdano fel "cyfieithiad na ellid dymuno ei well". Ceir sôn yn y sylwadau hyn am ddau gyfieithiad arall o eiddo Dyfnallt Morgan, 'Voi lo sapete' (Gwyddoch amdano) o Cavalleria Rusticana, Mascagni, ac Il est doux, il est bon (Mwyn ei wedd, pur ei foes) o Herodiade, Massenet. Ni cheir copiau o'r rhain yn yr eitem hon.

Allweddeiriau
ARIACYMRUEISTEDDFOD GENEDLAETHOLLIBRETTOOPERASTORI FERSTRAEON BYRION
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddEllis Isfryn Williams;
Math Gwaith heb ei gyhoeddi
Cyhoeddwyd 1899

Copi Digidol

Nodiadau
Henry Vaughan (1821-1695). Llawysgrif heb ei chyhoeddi. Dyma gasgliad buddugol o gyfieithiadau o gerddi o eiddo Henry Vaughan, a wobrwywyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1899. Y cyfieithydd oedd y Parch. Ellis Isfryn Williams, Rhiwabon, a'i ffugenw oedd 'Mysticus'. Llawysgrif yw'r testun, a cheir ynddi 38 o gerddi. Ceir yma Gyfarchgerdd, Yr Enciliad, Plentyndod, Rhif 104, Rheolau a Gwersi, Dydd Sabboth, Y Ffafr, Y Llyfr, I'r Beibl Cysserglan, Cyfiawnder, Ing, Y Cyttundeb, Yr Adfywiad, Y Flodeu-dorch, Y Gorchudd, Y Rhyfelwyr, Tangnefedd, Creadigaeth yn disgwyl dydd y Datguddiad, Yr Ymneillduad, Y Rhaiadr, "Rhodiais y dydd i dreulio difyr awr ...", Y Coed-ddefnydd, Yr Aderyn, Y Gawod, Y Nos, Y Bugeiliaid, Genedigaeth Crist, Y Cwlwm, Sant Mair Magdalen, Yr Addurn, Y Byd ("Gwelais y Tragwyddolfyd mawr o'm blaen..."), Dyn, Y Byd ("Nid Gwir wyt ti, dwed pawb a'th gais..."), Marwnad, Cyfeillion Ymadawedig, Toriad y Dydd, Yr Orseddfaingc, Dydd y Farn. Noda yn ei 'At y Beirniaid' iddo geisio cadw at fesurau'r gwreiddiol i'r gorau o'i allu, a chydnebydd ei wendid wrth geisio cyfleu haenau ystyr y cerddi gwreiddiol. Yn eu beirniadaeth (sydd i'w chanfod gyda'r testun yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru) canmola'r Parch. E. O. Jones, Llanidloes, a'r Athro Young Evans, Trefeca, y cyfieithydd am iddo gadw at ffurfiau'r gwreiddiol, ond ychwanegant, "nid yw wedi defnyddio blank verse, nac wedi newid mesur telynegol am heroic couplets' fel y gwnaeth y ddau gystadleuydd arall yn y gystadleuaeth. Nodant mai efe oedd y mwyaf cyson o ran arddull a safon, a chan hynny y gwobrwywyd ef. Nodant y byddai'n golled pe na chyhoedder y gweithiau hyn.

Allweddeiriau
BEIBLCYMRUEISTEDDFOD GENEDLAETHOLLLAWYSGRIFPLENTYNDODSAESNEGY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGYR AIL GANRIF AR BYMTHEGBEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG
Teitl gwreiddiol -
Iaith WreiddiolSbaeneg;
CyfieithyddMererid Hopwood, Karen Owen;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 2014

Nodiadau
Cyfrol a gyhoeddwyd fel mewnolyn yn rhifyn Hydref 2014 o'r cylchgrawn Taliesin yw hwn. Fe'i lluniwyd ar y cyd â chynllun Cyfnewidfa Lên Cymru i gysylltu awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru a thramor. Ffrwyth prosiect ar y cyd ydyw rhwng y Gyfnewidfa, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, a'r Cyngor Prydeinig. Ceir yma farddoniaeth gan Jorge Aulicino, Jorge Fondebrider, Owen Tydur Jones, a Verónica Zondek, ynghyd â bywgraffiadau byrion ohonynt gan y cyfieithwyr Cymraeg, Mererid Hopwood a Karen Owen.

Allweddeiriau
BARDDONIAETHCHILECYMRUDE AMERICAPATAGONIAUNFED GANRIF AR HUGAINYR ARIANNIN
Teitl gwreiddiol -
Iaith WreiddiolHindi; Saesneg; Bengali; Manipuri; Malayalam;
CyfieithyddTwm Morys; Siân Melangell Dafydd; Menna Elfyn; Hywel Griffiths; Karen Owen; Eurig Sailsbury;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 2013

Nodiadau
Cyfrol a gyhoeddwyd fel mewnolyn yn rhifyn Haf 2013 o'r cylchgrawn 'Taliesin' yw hwn. Fe'i lluniwyd ar y cyd â chynllun Cyfnewidfa Lên Cymru i gysylltu awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru a thramor. Ffrwyth prosiect yw'r gyfrol i bontio rhwng bydoedd llenyddol India a Chymru, sef Prosiect Cadwyn Awduron Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Ceir yma farddoniaeth gan Anamika, K. Satchidanandan, Sampurna Chattarji, Robin Ngangom, Anitha Thampi, ynghyd â bywgraffiadau byrion ohonynt gan y cyfieithwyr Cymraeg, Twm Morys, Siân Melangell Dafydd, Menna Elfyn, Hywel Griffiths, Karen Owen ac Eurig Sailsbury.

Allweddeiriau
BARDDONIAETHBLODEUGERDDCYMRUINDIA
Teitl gwreiddiol -
Teitl y LlyfrColeg Cymraeg: Rhif Un
Iaith WreiddiolFfrangeg;
CyfieithyddNed Thomas;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1986

Nodiadau
Txillardegi [José Luis Álvarez Enparantza] (1929-2012). Dyma drawsysgrifiad o sgwrs rhwng Ned Thomas â Txillardegi, sef y nofelydd a sefydlodd ETA. Sgwrs Ffrangeg ydoedd yn y recordiad gwreiddiol, ac fe'i trawsysgrifiwyd ac fe'i cyfieithiwyd i'r Gymraeg gan Ned Thomas ei hun. Mae'r sgwrs i'w chanfod yn y gyfrol 'Coleg Cymraeg: Rhif Un', sef yr unig gyfrol a gyhoeddwyd yn y gyfres arfaethiedig honno. Yn y gyfrol, yng ngeiriau ei golygydd, Ned Thomas, cesglir ynghyd "gasgliad o erthyglau, storîau a chyfweliadau sydd naill ai wedi'u cyfieithu o ieithoedd tramor neu sydd mewn rhyw fodd yn cysylltu Cymru â gweddill y byd". Yn y cyfweliad hwn trafodir safle'r diwylliant Basgaidd yn yr 1980au, gan drafod materion megis addysg, darlledu, gwleidyddiaeth, ac effaith cyfnod Franco ar y wlad, ei hiaith, a'i diwylliant. Trafodir hefyd waith llenyddol Txillardegi, a'r berthynas rhwng y gelfyddyd honno â phau gwleidyddol y Fasgeg a'r hunaniaeth Basgaidd hefyd. Cyhoeddiadau Berw oedd cyhoeddwyr y gyfrol.

Allweddeiriau
ADDYSGBASGEGCYMRUDIWYLLIANTFFRANGEGGWLAD Y BASGGWLEIDYDDIAETHIAITH

Cymanfa Westminster: Y Catecism Byrraf mewn Cymraeg Cyfoes

Westminster Shorter Catechism
Awdur: Amrywiol
Teitl gwreiddiol Westminster Shorter Catechism
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddEuros Wyn Jones;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 2002

Nodiadau
Dyma gyfieithiad o'r Westminster Shorter Catechism, sef catechism a luniwyd yn 1646 ac 1647 gan Gymanfa Westminster. Casgliad o ddiwinyddion a lleygwyr o Loegr a'r Alban oedd Cymanfa Westminster. Eu hamcan oedd sicrhau mwy o unffurfiaeth rhwng arferion Eglwys yr Alban ac Eglwys Lloegr. Cyfieithwyd y testun i Gymraeg gyfoes gan Euros Wyn Jones. Trafodir hanes llunio'r catecism gan y cyfieithydd yn ei 'Rhagymadrodd' i'r gyfrol - "Ar unwaith cydnabyddwyd gwychder Y Catecism Byrraf fel mynegiant croyw a chryno o Fannau'r ffydd. Y mae'n agor gyda chwestiwn ac ateb sy'n crisialu holl ymchwil y ddynoliaeth am ystyr bywyd ac yn cael yr ateb oddi allan i ni'n hunain - yn Nuw. Y mae'n gorffen, lle mae'n briodol inni orffen, wedi ymgolli mewn gweddi ar yr un Duw." Adroddir hefyd hanes ei gyfieithu i'r Gymraeg gan y cyfieithydd. "Rhwng 1659 ac 1820 cafwyd 32 o argraffiadau Cymraeg yn cynnwys cyfieithiadau gan ddiwinyddion praff fel George Lewis, Llanuwchllyn, a Thomas Jones o Ddinbych. Yn ychwanegol, cyfieithwyd esboniad John Willison o'r Alban ar y catecism gan David Davies a'i argraffu yng Nghaerfyrddin yn 1797. Cafwyd argraffiad o gyfieithiad William C. Roberts gyda'r profion ysgrythurol yn Columbus, Ohio ym 1864. Hefyd, bu'n sail i nifer fawr o gatecismau dylanwadol eraill, fel Hyfforddwr Thomas Charles, a fu'n gyfrwng i wreiddio cenedlaethau lawer yng ngwirioneddau'r Beibl." Cyhoeddwyd y cyfieithiad hwn yn 2002.

Allweddeiriau
CREFYDDCRISTNOGAETHCYMRUDADENI DYSG

Cymdeithion Ysgol: Disgrifiadau o Amser-Ysgol ac Amser-Chwareu yn y Maes Cenhadol

School-mates : pictures of school-time and play-time in the mission field
Awdur: Gaunt,Lewis Hermon
Teitl gwreiddiol School-mates : pictures of school-time and play-time in the mission field
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddL. Williams;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1906

Nodiadau
Dyma gyfieithiad o'r gyfrol 'School-mates : pictures of school-time and play-time in the mission field'', Lewis Hermon Gaunt, a luniwyd gan y Parch L. Williams, Bontnewydd, Caernarfon, dros Gymdeithas Genhadol Llundain (London Missionary Society [LMS]). Yn ei 'Rhagarweiniad' i'r gyfrol esbonia'r awdur rywfaint o amcanion cyhoeddi gwobr-lyfrau o'r math, sef cynnal llongau'r LMS, ac hefyd i gynnal ysgolion ac 'amddifat-tai' ledled y byd. Wrth drafod hyn o beth, a'r newid o'r cynhaliaeth ar gyfer y llongau'n unig, cawn gip ar y twf yn yr ymgyrch genhadol, ac hefyd ar y cynydd a fu ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg mewn cysylltiadau rhyng-gyfandirol yn gyffredinol. Yn y rhifyn o'r gyfrol sydd ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru nodir ar y flaenddalen y 'Cyflwynwyd i Picton Evans gan Gymdeithas Genhadol Llundain am gasglu'r swm o £0-11-4 fel Offrwm Blynyddol y Plant at y Llongau, Ionawr 1906. Mewn Cysylltiad ag Ysgol Sabbothol Bethania, Treorchy. D.R.Jones, Gweinidog.". Rhestrir hefyd longau'r LMS islaw'r nodyn uchod: "John Williams (agerlong), Niue (lugger), Olive Branch (ysgwner), Hanamoa (cutter) - Oll yn y Moroedd Deheuol a New Guinea. Morning Star (bywyd-fad dur) - Ar lyn Tanganyika. Mardie (Berhampur), Tara (cutter) - India. Gospel Boat (amoy) - China." Casgliad o adroddiadau yw'r gyfrol ei hun o wahanol arferion chwarae oedd i'w gweld mewn ysgolion cenhadol ar draws y byd. Mae 82 o ddarluniau a mapiau'n cyd-fynd â'r hanes. Cyhoeddwyd y llyfr gan y London Missionary Society, Llundain.

Allweddeiriau
CREFYDDCRISTNOGAETHCYMRUHANESLLENYDDIAETH GENHADOLNOFELUGEINFED GANRIFY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGYMERODRAETHBEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG
Golygyddion Jones,Bobi
Teitl y LlyfrStorïau Tramor III
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddThomas Hudson-Williams;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1976

Nodiadau
Ifan Gontsiarof [Goncharov] (1812-1891). Rhan o nofel yw hon, a gyhoeddwyd ar ffurf stori fer. Yn ei 'Rhagair' (tt.8-9) i'r gyfrol hon, esbonia Bobi Jones mai blodeugerdd yw hon o straeon byrion a gyhoeddwyd eisoes yn y Gymraeg mewn amrywiol gyhoeddiadau cynharach na'r gyfrol ei hun. Rhydd bwt o wybodaeth am rai o'r cyfieithwyr hefyd, a nodyn yn amlinellu dyfodol y gyfres hon fel 'llyfrgell helaeth a gwerthfawr o'r campweithiau ym myd y stori fer'. Darperir bywgraffiadau cryno o hanes yr awduron yng nghefn y gyfrol, yn yr adran 'Cyflwyno'r Awduron' (tt.144-8). Cyhoeddwyd y cyfieithiad hwn am y tro cyntaf yn: Baner ac Amserau Cymru, 26/12/1945.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERBLODEUGERDDSTRAEON BYRIONHANESCYMRU

Daearyddiaeth Cymru Heddiw

A Modern Geography of Wales
Awdur: Price,Mary
Teitl gwreiddiol A Modern Geography of Wales
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddB. L. Davies;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1977

Nodiadau
Mary Price (1920-). Dyma gyfrol sy'n cynnig trosolwg o ddaearyddiaeth Cymru, o safbwyntiau daearegol, anthropolegol, gwleidyddol, economaidd a diwylliannol. Fe'i lluniwyd at ddibenion ysgolion, ond mae'n ddigon cynhwysfawr i fod o ddefnydd i'r efrydydd annibynnol neu i'r myfyriwr israddedig hefyd. Mae'n werthfawr i'r hanesydd gan ei fod yn cynnig cip o Gymru fel ydoedd yn yr 1970au. Fel y nodir yn nodiadau blaen y gyfrol, 'Y mae Cymru'n gweddnewid yn barhaus. Erbyn hyn, y mae'r hen siroedd wedi diflannu'n gyfan gwbl, a'r rhanbarthau newydd wedi dod i fodolaeth, yn unol â'r ad-drefnu newydd ym myd Llywodraeth Leol. Y mae cenedlaetholdeb ar gynnydd, a'r pwnc trafod mawr ar hyn o bryd yw Datganoli. Yn ystod y blynyddoedd diweddaraf hyn, felly, gwelodd Cymru newidiadau mawr, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Mawr oedd yr angen, felly, am lyfr Daearyddiaeth newydd ar gyfer cenhedlaeth newydd o blant ysgol. Ac y mae'r gyfrol hon yn gyfoes ac yn amserol.' Ceir nifer o fapiau a darluniau yn y gyfrol sy'n cyd-fynd â'r testun. Cyhoeddwyd y gyfrol gan Christopher Davies, Abertawe.

Allweddeiriau
ANTHROPOLEGCENEDLAETHOLDEBCYMRUDAEAREGDAEARYDDIAETHGWLEIDYDDIAETHGWYDDORAU CYMDEITHASOLHANESUGEINFED GANRIF

Dan y Wenallt

Under Milk Wood
Awdur: Thomas,Dylan
Teitl gwreiddiol Under Milk Wood
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddT. James Jones;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1968

Nodiadau
Dylan Thomas (1914-1953). Cyhoeddwyd gyda chefnogaeth Cyngor y Celfyddydau. Ceir manylion y perfformiad cyntaf o'r trosiad hwn, a gynhaliwyd ar nos Wener, Awst 4, 1967, yn Nhalacharn, yn nghefn y gyfrol (tt. 113-4). Ceir yma drosiadau o'r alawon a genir yn y ddrama yn y gyfrol hon wedi'u cyfosod â cherddoriaeth hen nodiant - ceir yma "Shemi Shol a Fflos y Ddwy Lath", "Gêm y Plant", "Cân Poli Gardis", a "Cân Waldo". Mae'r alawon yn dilyn trywydd cerddorol sy'n gymharol debyg i'r alawon gwreiddiol. Diolchir i "Mr. Tom Bowen a Miss Rhiannon Stephens am addasu'r gerddoriaeth" ar t. 7. Ceir cerdd gyfarch "I Dylan" ar ddechrau'r gyfrol (tt.8-9), tybir gan y cyfieithydd ei hun, er nad oes enw wrth y gerdd. Ceir dyluniadau amrywiol sy'n cyd-fynd â'r trosiad (rhai a wnaed yn arbennig ar gyfer y gyfrol hon) gan Gaynor Owen. Yn yr ail argraffiad yn 1992 ceir dyluniadau gwahanol, y tro hyn gan Gwmni Siriol ac S4C.

Allweddeiriau
CYMRUDRAMADRAMAU RADIOLENYDDIAETH SAESNEG CYMRU

Dan y Wenallt

Under Milk Wood
Awdur: Thomas,Dylan
Teitl gwreiddiol Under Milk Wood
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddT. James Jones;
Math Deunydd Clyweled
Cyhoeddwyd 1987

Nodiadau
Dylan Marlais Thomas (1914-1953). Dyma ddarllediad o gyflwyniad Theatr Genedlaethol yr Urdd o Dan y Wenallt, cyfieithiad T. James Jones o ddrama Saesneg Dylan Thomas, Under Milk Wood. Fe'i recordiwyd gan BBC Cymru ar gyfer S4C, ac fe'i darlledwyd ar y 30ain o Ragfyr 1987. Mae copi o'r eitem hon i'w ganfod yn Archifdy Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Allweddeiriau
CYMRUDRAMASAESNEGTHEATRUGEINFED GANRIF

Darn o Dir

A Little Kingdom
Awdur: Humphreys,Emyr
Teitl gwreiddiol A Little Kingdom
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddW. J. Jones;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1986

Nodiadau
Emyr Humphreys (1919-). Cyfieithiad a diwygiad o'r nofel The Little Kingdom a gyhoeddwyd yn gyntaf gan Eyre & Spottiswoode yn 1946 yw Darn o Dir. Troswyd y nofel i'r Gymraeg gan W. J. Jones (Gwilym Fychan) yn 1986. Trafodir cenedlaetholdeb Gymraeg a Chymreig yn y nofel, gan atgoffa'r darllenwr o Benyberth a'r 'tân yn Llyn'. Fodd bynnag, mae ynddi werthoedd a digwyddiadau llawer mwy eithafol. Trafodir ynddi'r syniad o Gymreictod fel disgwrs hunaniaethol, a gwneir hynny mewn gwrthateb uniongyrchol i'r ddisgwrs oruchafol Ymerodraethol a Phrydeinig. Fe'i cyhoeddwyd gan Gwasg Dwyfor.

Allweddeiriau
CENEDLAETHOLDEBCYMRUHANESNOFELPRYDAINUGEINFED GANRIFYMERODRAETH

Darn o Dir: Cyfrol 1

A Little Kingdom
Awdur: Humphreys,Emyr
Teitl gwreiddiol A Little Kingdom
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddW. J. Jones (Gwilym Fychan);
Math Gwaith heb ei gyhoeddi
Cyhoeddwyd 1986

Nodiadau
Emyr Humphreys (1919-). Dyma lyfr nodiadau sy'n cynnwys y fersiwn cyntaf, a'r rhan gyntaf, o gyfieithiad W. J. Jones, Darn o Dir, o nofel Emyr Humphreys, A Little Kingdom. Fe'i cedwir yn Adran Lawysgrifau a Theipysgrifau'r Llyfrgell Genedlaethol. Ei god yw B II/23/3. Ceir yn y llyfr hwn gyfieithiad o ragymadrodd y nofel a'r rhan gyntaf ohoni. Ceir hefyd drafodaeth am y teitl ei hun. Y teitl gwreiddiol oedd Terfyn Tir, yna, Torri Teyrnas, ac yna, mewn inc a ffont mwy amlwg, Darn o Dir. Mae'r Darn o Dir hwn wedi'i lofnodi gan Emyr Humphreys ei hun. Mae'r llawysgrifen yn fanwl, ac yn fychan, ond yn gywrain ac yn ddarllenadwy. Mae nifer o glosau a nodiadau gan y cyfieithydd (a, derbyniwn, gan yr awdur ei hun mewn ymateb i'r cyfieithiad) ar ochr y tudalennau.

Allweddeiriau
CYMRULLAWYSGRIFNOFELUGEINFED GANRIF

Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol

Universal Declaration of Human Rights
Awdur: Amrywiol
Teitl gwreiddiol Universal Declaration of Human Rights
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddRichard G Jones;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1998

Copi Digidol

Nodiadau
Cyfieithiad yw hwn o'r 'Universal Declaration of Human Rights', datganiad a fabwysiadwyd gan Gynlluniad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar y 10fed o Ragfyr 1948 yn Palais de Chaillot, Paris. Cododd y datganiad yn uniongyrchol o brofiad yr Ail Ryfel Byd, a chynrychiola'r mynegiant byd eang cyntaf o hawliau cynhenid sy'n eiddo i bob unigolyn dynol. Mae 30 erthygl yn y ddogfen, ac mae'r ddogfen yn ei chrynswth yn rhan o'r 'International Bill of Human Rights', sydd hefyd yn cynnwys yr 'International Covenant on Economic, Social and Cultural Rights' a'r 'International Covenant on Civil and Political Rights' a'i ddau Brotocol Dewisol. Mabwysiadodd y Cynulliad Cyffredinol y ddau Gyfamod hyn yn 1966, ac yn 1976, wedi i'r Cyfamodau gael eu derbyn gan nifer ddigonol o wledydd unigol, daeth y 'Bill' i rym fel Cyfraith Ryngwladol. Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg o'r 'Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol' yn 1998, ac yn ôl tystiolaeth gwefan y Cenhedloedd Unedig fe'i cyfieithiwyd gan Richard G Jones o Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig Cymru. Mae'r cyfieithiad hwn ar gael mewn nifer o ffurfiau. Fe'i cyhoeddwyd ddwywaith ar ffurf llyfryn print dwyieithog, yn 1998 a 2008. Ar y ddau achlysur ceir ynddo hefyd sylw agoriadol gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar adeg y cyhoeddi, sef Kofi A. Annan yn 1998 a Ban Ki-moon yn 2008. Yn y ddau ragymadrodd, dyfynna'r Ysgrifennyddion Cyffredinol y siars a ddaeth i ran y Cenhedloedd Unedig yn 1948, sef i roddi cyhoeddusrwydd i'r Datganiad ac "i beri ei ledaenu a'i ddangos, ei ddarllen a'i esbonio, yn bennaf mewn ysgolion a sefydliadau addysgol eraill, heb unrhyw wahaniaeth yn seiliedig ar sefyllfa wleidyddol gwledydd neu diriogaethau." (Rhagymadrodd 'Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol', Kofi A. Annan, 1998) Ymhelaetha Ban Ki-moon ar y pwynt hwn, gan nodi hefyd "Mae gorchwyl hawliau dynol wrth wraidd cenhadaeth y Cenhedloedd Unedig. Mae'n sylfaen gobeithion miliynau o bobl am ryddid, diogelwch a llewyrch. Y mae'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yr un mor berthnasol heddiw ac yr oedd pan fabwysiadwyd ef gyntaf. Gobeithiaf y bydd yn dod yn rhan o'ch bywyd chi." (Rhagymadrodd 'Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, Ban Ki-moon, 2008). Cyhoeddwyd y ddwy gyfrol gan Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig Cymru. Cyhoeddwyd y 'Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol' hefyd ar ffurf poster amryliw maint A2 yn 1998. Ceir arno destun cyflawn y Datganiad, ynghyd â Rhagymadrodd Kofi A. Annan i'r cyhoeddiad. Fe'i noddir gan nifer o sefydliadau - Cafod, Canolfan Gymreig Materion Rhyngwladol, Cyfanfyd, Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig, Cymdeithas y Cymod yng Nghymru, Cymorth Cristnogol, Cyngor Addysg mewn Dinasyddiaeth Ryngwladol (Cymru), The New Internationalist, a The Cooperative Bank. Fe'i cyhoeddwyd drachefn gan Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig Cymru. Mae'r 'Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol' hefyd i'w weld ar ffurf PDF ar wefan y Cenhedloedd Unedig. Nodir yno y derbyniwyd y cyfieithad oddi wrth Richard G Jones yn 1998, ac fe'i gwiriwyd ac fe'i cyhoeddwyd ar y wefan yn yr un flwyddyn. Nid oes i'r fersiwn PDF ragymadrodd gan naill ai Kofi A. Annan na Ban Ki-moon.

Allweddeiriau
ADDYSGAIL RYFEL BYDCYFRAITHCYFRAITH RYNGWLADOLCYMRUGWLEIDYDDIAETHHAWLIAU DYNOLY CENHEDLOEDD UNEDIGYR AIL RYFEL BYDYR UGEINFED GANRIF
Teitl y LlyfrCariad at ein Gwlad
Iaith WreiddiolFfrangeg;
CyfieithyddP.A.L.Jones;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1989

Nodiadau
Dyma gyfieithiad Cymraeg o'r Datganiad Iawnderau Dyn a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc ym mis Awst 1789 yn nyddiau cynnar y Chwyldro. Mynnodd y Cymro Richard Price (1723-1791) ei gyfieithu i'r Saesneg a chynnwys y cyfieithiad yn yr un llyfryn a'i bregeth enwog o'r un flwyddyn "A Discourse on the Love of our Country". I ddathlu dauganmlwyddiant y bregeth yn 1989 cynhoeddodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyfieithiad Cymraeg o'r naill testun a'r llall. Gweler hefyd yr eitem "Cariad at ein Gwlad" gan Richard Price yn y catalog hwn.

Allweddeiriau
CARIADCHWYLDRO FFRAINCCYMRUDEUNAWFED GANRIFFFRAINCGWLEIDYDDIAETHHANESHAWLIAU DYNOLIAWNDERAU DYNSAESNEG

Ddigymar Ddawn y Gân

An die Musik
Awdur: Schober,Franz von
Teitl gwreiddiol An die Musik
Iaith WreiddiolAlmaeneg;
CyfieithyddT. Gwynn Jones;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1937

Nodiadau
Franz von Schober (1796-1882). Roedd Franz von Schober yn fardd, yn gyfansoddwr librettos, yn lithograffydd, ac yn actor o Awstria. Dyma gyfieithiad gan T. Gwynn Jones o libretto wreiddiol Franz von Schober, 'An die Musik', sy'n sail i gyfansoddiad Franz Schubert (1797-1828), Op. 88, Rhan 4. C