Rhowch deitl neu allweddair yn y blwch i chwilio'r gronfa gyfieithiadau. Fe fydd y canlyniadau'n ymddangos islaw wrth i chi deipio yn y blwch. Defnyddiwch y blwch Chwilio Manwl isod i gyfyngu'r canlyniadau.

Chwilio Manwl

Canlyniadau 47


Cliciwch y teitlau am gofnodion llawn

Anfarwol Werin

Narod besmiertien
Awdur: Grosman,Fasili
Teitl gwreiddiol Narod besmiertien
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddT.Hudson-Williams;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1945

Nodiadau
Fasili Grosman (1905-1964). Cyfieithiad o'r Rwsieg o nofel gan yr awdur Sofietaidd Fasili Grosman a ddisgrifir ar y wynebddalen fel un sydd yn "ymdrin â helyntion Rwsia yn 1941." Daeth Grosman yn enwog iawn nes ymlaen yn y Gorllewin pan gyhoeddwyd dwy nofel arall o'i eiddo na chaniatawyd eu cyhoeddi yn ystod ei oes. Milwyr y Fyddin Goch yw prif gymeriadau y nofel hon ond ceir ynddi hefyd, yn ôl y cyfieithydd, "doreth o wybodaeth am arferion a bywyd beunyddiol Rwsia wledig". Dywed yn yr un 'Rhagymadrodd': "Credaf yn hyderus y caiff ei lyfr ei le ymhlith clasuron ei wlad." Nodir bod trosiad Saesneg o'r un nofel yn cynnwys penodau nad oeddynt yn y gyfrol Rwsieg a gyfieithodd Hudson-Williams.

Allweddeiriau
AIL RYFEL BYDCLASURONLLENYDDIAETHNOFELRWSIASAESNEGSOFIETAIDDUNDEB SOFIETAIDDY FYDDIN GOCH

Ar y Trothwy

Nacanwne
Awdur: Twrgenief,Ifan
Teitl gwreiddiol Nacanwne
Iaith WreiddiolRwseg;
CyfieithyddDilwyn Ellis Hughes;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1983

Nodiadau
Ifan Twrgenief [Turgenev] (1818-1883). Nofel hanesyddol gan Twrgienef sy'n digwydd ar drothwy rhyfel y Crimea rhwng Rwsia a Thwrci (a nes ymlaen Prydain a Ffrainc ar ochr Twrci).

Allweddeiriau
CRIMEAFFRAINCHANESLLENYDDIAETH RWSIANOFELPRYDAINRHYFELRWSIATURGENEVTWRGENEF

Carcharor y Cawcasws

Cafcaski plienic
Awdur: Tolstoi,Leo
Teitl gwreiddiol Cafcaski plienic
Teitl y GyfresLlyfrau darllen ychwanegol
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddT. Hudson Williams;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1943

Nodiadau
Leo Tolstoi [Tolstoy] (1828-1910). Sylwer bod cerdd hir o'r un enw gan Pwscin, ond stori fer hir gan Tolstoi yw'r eitem dan sylw. Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg fel pamffledyn mewn cyfres "Llyfrau Darllen Ychwanegol" ar gyfer ysgolion. Mae'n cynnwys nodyn bywgraffyddol am Tolstoi a hefyd nodiadau esboniadol gan y cyfieithydd T. Hudson Williams a fu'n Athro'r Clasuron ym Mhrifysgol Bangor ac yn un o'r cyfieithwyr mwyaf toreithog i'r Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif.

Allweddeiriau
BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGCAUCASUSCAWCASWSCLASURONLLENYDDIAETHRWSIASTORI FERSTRAEON BYRIONTOLSTOYUGEINFED GANRIF
Golygyddion Jones,W.Gareth
Teitl y LlyfrStorïau Tramor IV: Storïau Tshechof
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddW. J. Rees;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1977

Nodiadau
Anton Tshechof [Anton Chekhov / Anton Tsiecof] (1860-1904). Dyma gyfrol o straeon byrion o eiddo Anton Tshechof. Yn ei 'Rhagair' (t.7) byr i'r gyfrol sonia Bobi Jones am yr awdur fel 'un o lenorion mwyaf celfydd y byd', a noda fod y gyfrol yn cynnwys straeon sy'n rhychwantu ei yrfa lenyddol. Ceir bywgraffiad cryno o fywyd Tshechof yn 'Gair am yr Awdur' (tt.223-5) ar ddiwedd y gyfrol. Yn yr adran hon sonia W. Gareth Jones am hanes bywyd yr awdur, a gesyd straeon byrion y gyfrol hon yn eu cyd-destun bywgraffiadol.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGSTRAEON BYRIONBYWGRAFFIADHANESBEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG

Cerddi o'r Rwseg


Awdur: Amrywiol
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddT.Hudson-Williams;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1945

Nodiadau
Detholiad o gerddi clasurol Rwsia o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi'u cyfieithu o'r Rwsieg. Pwscin a gaiff y sylw pennaf, ac wedyn Liermontof ac Alecsei Tolstoi.

Allweddeiriau
BARDDONIAETHBLODEUGERDDLLENYDDIAETHRWSIAY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGBEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG

Cerddi Osip Mandelstam

Amrywiol
Awdur: Mandelstam,Osip
Teitl gwreiddiol Amrywiol
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddStephen Jones;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1996

Nodiadau
Osip Mandelstam (1891-1938). Blodeugerdd o waith Mandelstam yw'r gyfrol hon. Ceir ynddi gerddi o sawl cyfrol a sawl cyfnod yn ystod gyrfa lenyddol y bardd o Rwsia. Darperir detholiad o 'Carreg' (tt.44-59), 'Tristia' (tt.60-64), 'Cerddi' (tt.65-75), a 'Tri Nodiadur Foronezh' (tt. 76-90). Stephen Jones yw cyfieithydd a golygydd y cerddi, a cheir cyflwyniad da i fywyd a gwaith y bardd ganddo yn ei 'Cip ar Fywyd, Cyfnod a Gwaith y Bardd' (tt.11-41); yno cawn bortread hefyd o'r gymdeithas Sofietaidd ar ei mwyaf treisgar. Pwysleisia mai'r tynerwch a'r gyfeillgarwch ddynol a gadwai bobl yn fyw yn ystod y fath gyfnod. Trafodir ambell un o'r cerddi mewn manylder yng nghefn y gyfrol, a darperir llyfryddiaeth a nodiadau cyffredinol eang hefyd.

Allweddeiriau
BLODEUGERDDHANESRWSIAUGEINFED GANRIF
Golygyddion Jones,Bobi
Teitl y LlyfrStorïau Tramor III
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddThomas Hudson-Williams;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1976

Nodiadau
Leo Tolstoi [Tolstoy] (1828-1910). Yn ei 'Rhagair' (tt.8-9) i'r gyfrol hon, esbonia Bobi Jones mai blodeugerdd yw hon o straeon byrion a gyhoeddwyd eisoes yn y Gymraeg mewn amrywiol gyhoeddiadau cynharach na'r gyfrol ei hun. Rhydd bwt o wybodaeth am rai o'r cyfieithwyr hefyd, a nodyn yn amlinellu dyfodol y gyfres hon fel 'llyfrgell helaeth a gwerthfawr o'r campweithiau ym myd y stori fer'. Darperir bywgraffiadau cryno o hanes yr awduron yng nghefn y gyfrol, yn yr adran 'Cyflwyno'r Awduron' (tt.144-8). Cyhoeddwyd y cyfieithiad hwn am y tro cyntaf yn: Lleufer, III, 1937, 122-4.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERBLODEUGERDDSTRAEON BYRIONHANES
Golygyddion Jones,Bobi
Teitl y LlyfrStorïau Tramor III
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddThomas Hudson-Williams;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1976

Nodiadau
Ifan Gontsiarof [Goncharov] (1812-1891). Rhan o nofel yw hon, a gyhoeddwyd ar ffurf stori fer. Yn ei 'Rhagair' (tt.8-9) i'r gyfrol hon, esbonia Bobi Jones mai blodeugerdd yw hon o straeon byrion a gyhoeddwyd eisoes yn y Gymraeg mewn amrywiol gyhoeddiadau cynharach na'r gyfrol ei hun. Rhydd bwt o wybodaeth am rai o'r cyfieithwyr hefyd, a nodyn yn amlinellu dyfodol y gyfres hon fel 'llyfrgell helaeth a gwerthfawr o'r campweithiau ym myd y stori fer'. Darperir bywgraffiadau cryno o hanes yr awduron yng nghefn y gyfrol, yn yr adran 'Cyflwyno'r Awduron' (tt.144-8). Cyhoeddwyd y cyfieithiad hwn am y tro cyntaf yn: Baner ac Amserau Cymru, 26/12/1945.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERBLODEUGERDDSTRAEON BYRIONHANESCYMRU
Golygyddion Jones,Bobi
Teitl y LlyfrStorïau Tramor III
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddThomas Hudson-Williams;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1976

Nodiadau
Ifan Twrgenief [Turgenev] (1818-1883). Yn ei 'Rhagair' (tt.8-9) i'r gyfrol hon, esbonia Bobi Jones mai blodeugerdd yw hon o straeon byrion a gyhoeddwyd eisoes yn y Gymraeg mewn amrywiol gyhoeddiadau cynharach na'r gyfrol ei hun. Rhydd bwt o wybodaeth am rai o'r cyfieithwyr hefyd, a nodyn yn amlinellu dyfodol y gyfres hon fel 'llyfrgell helaeth a gwerthfawr o'r campweithiau ym myd y stori fer'. Darperir bywgraffiadau cryno o hanes yr awduron yng nghefn y gyfrol, yn yr adran 'Cyflwyno'r Awduron' (tt.144-8).

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERBLODEUGERDDSTRAEON BYRIONHANES
Golygyddion Pritchard,Harri Jones
Teitl y LlyfrStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddGareth Jones;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1974

Nodiadau
Vasily Aksyonov (1932-2009). Ceir nodyn bywgraffyddol (t.33) am yr awdur a "Rhagymadrodd" (tt. xi-xx) lle trafodir y rhesymeg tros gyfieithu llenyddiaeth i'r Gymraeg a'r gwaith ei hun yn y gyfrol hon.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERUGEINFED GANRIFSTRAEON BYRION

Dieuog

Les Justes
Awdur: Camus,Albert
Teitl gwreiddiol Les Justes
Iaith WreiddiolFfrangeg;
CyfieithyddW. R. Jones;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1966

Nodiadau
Albert Camus (1913-1960). Enillodd y cyfieithiad hwn o 'Les Justes' gyda chymeradwyaeth gref y beirniaid yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964. Ynddi ceir hanes llofruddiaeth yr Archddug Serge yn ystod y gwrthryfel a fu yn Rwsia ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Perthyn y sawl sydd wedi'i gyhuddo o'i lofruddio i fudiad o ddelfrydwyr gwrthyfelgar. Try'r ddrama felly'n fyfyrdod ar gynaladwyedd delfrydau yn wyneb realaeth, ynghyd â nodwedd fympwyol realaeth ei hun. Yn y 'Rhagair' i'r gyfrol (tt.3-4), sonia'r cyfieithydd rywfaint am hanes Camus, ac am ei safle yn nhraddodiad llenyddol ac athronyddol yr ugeinfed ganrif. Esbonia bod gwacter ystyr canol y ganrif yn fyw yn ei waith, mewn modd llai astrus nag Ionesco, a llai di-obaith na Satre. Sonia T. Gwyn Griffiths yn ei feirniadaeth fod y cyfieithiad hwn yn "gywir, yn raenus, ac yn actadwy". Fe'i hargraffwyd a'i chyhoeddwyd gan argraffdu'r Methodistiaid Calfinaidd, Caernarfon.

Allweddeiriau
DRAMAEISTEDDFOD GENEDLAETHOLFFRAINCHANESRWSIAYR UGEINFED GANRIFUGEINFED GANRIF

Don Juan (Pedair Drama Fer o'r Rwseg)


Awdur: Pwshcin,Alecsandr
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddT.Hudson Williams;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1964

Nodiadau
Alecsandr Pwshcin [Pushkin / Pwscin] (1799-1837). Un o bedair drama fer wedi eu cyfieithu o'r Rwsieg gan T.Hudson Williams, un o'r cyfieithwyr mwyaf toriethog i'r Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif. Ceir 'Rhagair' i'r gyfrol gyfan gan Cynan sydd yn rhestru'r dramâu a gweithiau eraill a gyfieithwyd o'r Rwsieg i'r Gymraeg gan yr un cyfieithydd.

Allweddeiriau
DRAMADRAMA FERLLENYDDIAETHPUSHKINRWSIAUGEINFED GANRIFYR UGEINFED GANRIF

Eich Gwlad a'ch Cais


Awdur: Lloyd George,David
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddJohn Morris Jones;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1914

Nodiadau
David Lloyd George (1863-1945). Dyma gyfieithiad John Morris Jones o araith David Lloyd George o blaid rhyfel ar gychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Traddodwyd y ddarlith Saesneg wreiddiol yn y City Temple ar nos Fawrth, Tachwedd 10fed, 1914, llai na hanner blwyddyn wedi cychwyn y rhyfel, pan oedd Lloyd George yn Ganghellor y Drysorlys. Yn ei araith dadleua Lloyd George mai gresyn ganddo, mewn un ystyr, areithio o blaid rhyfel wedi iddo fod yn siaradwr brwd dros heddwch am gyhyd. Â ati i sôn am orfodaeth y sefyllfa unigryw yn 1914, gan ddyfynu Oliver Cromwell wrth sôn am bwysigrwydd amddiffyn gweriniaeth a chymydog. Dadleua mai dyma'r achos dros amddiffyn Gwlad Belg trwy ddulliau milwrol. Â ati hefyd i ddadlau nad bai Prydain, Ffrainc na Rwsia, nac unrhyw un o genhedloedd bychain Eworp, oedd y rhyfel. Gesyd y bai'n blwmp ar ysgwyddau Yr Almaen, Awstria a Thwrci. Defnyddia'r amlinelliad cryno hwn o ddiniweidrwydd honedig y gwledydd a nodwyd fel cyfiawnhad pellach dros ymladd at ddibenion amddiffyn gwareiddiad a ffordd o fyw. Mae ei ddull rhethregol yn rymus - cyfeiria at yr eryr o stori Culhwch ac Olwen fel alegori o'r Almaen a oedd wedi pigo'r garreg lle safai nes syrthio o olwg y sêr, disgrifia'r wladwriaeth Brydeinig mewn dulliau crefyddol gan annog y bobl ifainc yn y dorf i roddi eu bywydau ar allor eu gwlad, a dyfynna o Shakespeare ar ddiwedd ei araith, yr 'how goes the night, boy' enwog o'r ddrama Macbeth, i bortreadu'r drin fel cyfnod o ddioddefaint anodd, ond un a chanddo derfyn anochel a fydd yn cyfiawnhau'r anhawsterau oll. Argraffwyd y gyfrol, neu'r bamffled, gan Eyre and Spottiswoode Ltd, East Harding Street.

Allweddeiriau
ALMAENAWSTRIAEWROPFFRAINCGWLAD BELGPRYDAINRHYFELRHYFELOEDD BYDRWSIASAESNEG
Golygyddion Jones,W.Gareth
Teitl y LlyfrStorïau Tramor IV: Storïau Tshechof
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddMair Owen;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1977

Nodiadau
Anton Tshechof [Anton Chekhov / Anton Tsiecof] (1860-1904). Dyma gyfrol o straeon byrion o eiddo Anton Tshechof. Yn ei 'Rhagair' (t.7) byr i'r gyfrol sonia Bobi Jones am yr awdur fel 'un o lenorion mwyaf celfydd y byd', a noda fod y gyfrol yn cynnwys straeon sy'n rhychwantu ei yrfa lenyddol. Ceir bywgraffiad cryno o fywyd Tshechof yn 'Gair am yr Awdur' (tt.223-5) ar ddiwedd y gyfrol. Yn yr adran hon sonia W. Gareth Jones am hanes bywyd yr awdur, a gesyd straeon byrion y gyfrol hon yn eu cyd-destun bywgraffiadol.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGSTRAEON BYRIONBYWGRAFFIADHANESBEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG

Ffarwel Gwlsari


Awdur: Aitmatof,Tshingiz
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddW. Gareth Jones;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1971

Nodiadau
Tshingiz Atimatof [Aitmatov] (1928-2008). Awdur Kirgiz oedd Atimatof. Cyhoeddwyd yr argraffiad Cymraeg cyntaf yn 1971, a chyhoeddwyd y nofel wreiddiol yn 1966 gan Molodaya Gvardiva, Moscow. Cyhoeddwyd y cyfieithiad gan Lyfrau'r Dryw. Ni cheir 'Rhagymadrodd' na 'Bywgraffiad', na nemor dim arall o wybodaeth, yn y gyfrol hon.

Allweddeiriau
NOFELRWSIAUGEINFED GANRIFBYWGRAFFIAD
Golygyddion Jones,W.Gareth
Teitl y LlyfrStorïau Tramor IV: Storïau Tshechof
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddNed Thomas;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1977

Nodiadau
Anton Tshechof [Anton Chekhov / Anton Tsiecof] (1860-1904). Dyma gyfrol o straeon byrion o eiddo Anton Tshechof. Yn ei 'Rhagair' (t.7) byr i'r gyfrol sonia Bobi Jones am yr awdur fel 'un o lenorion mwyaf celfydd y byd', a noda fod y gyfrol yn cynnwys straeon sy'n rhychwantu ei yrfa lenyddol. Ceir bywgraffiad cryno o fywyd Tshechof yn 'Gair am yr Awdur' (tt.223-5) ar ddiwedd y gyfrol. Yn yr adran hon sonia W. Gareth Jones am hanes bywyd yr awdur, a gesyd straeon byrion y gyfrol hon yn eu cyd-destun bywgraffiadol.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGSTRAEON BYRIONBYWGRAFFIADHANESBEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG
Golygyddion Jones,Bobi
Teitl y LlyfrStorïau Tramor III
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddThomas Hudson-Williams;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1976

Nodiadau
Ifan Twrgenief [Turgenev] (1818-1883). Yn ei 'Rhagair' (tt.8-9) i'r gyfrol hon, esbonia Bobi Jones mai blodeugerdd yw hon o straeon byrion a gyhoeddwyd eisoes yn y Gymraeg mewn amrywiol gyhoeddiadau cynharach na'r gyfrol ei hun. Rhydd bwt o wybodaeth am rai o'r cyfieithwyr hefyd, a nodyn yn amlinellu dyfodol y gyfres hon fel 'llyfrgell helaeth a gwerthfawr o'r campweithiau ym myd y stori fer'. Darperir bywgraffiadau cryno o hanes yr awduron yng nghefn y gyfrol, yn yr adran 'Cyflwyno'r Awduron' (tt.144-8). Cyhoeddwyd y cyfieithiad hwn am y tro cyntaf yn: Lleufer, V, 1949, 26.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERSTRAEON BYRION

Gedali (yn Storïau Tramor)


Awdur: Babel,Issac
Golygyddion Pritchard,Harri Jones
Teitl y LlyfrStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddSiôn Daniel;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1974

Nodiadau
Issac Babel (1894-1940). Ceir nodyn bywgraffyddol (t.127) am yr awdur a "Rhagymadrodd" (tt. xi-xx) lle trafodir y rhesymeg tros gyfieithu llenyddiaeth i'r Gymraeg a'r gwaith ei hun yn y gyfrol hon.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERUGEINFED GANRIFSTRAEON BYRION
Golygyddion Jones,W.Gareth
Teitl y LlyfrStorïau Tramor IV: Storïau Tshechof
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddCarys Davies;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1977

Nodiadau
Anton Tshechof [Anton Chekhov / Anton Tsiecof] (1860-1904). Dyma gyfrol o straeon byrion o eiddo Anton Tshechof. Yn ei 'Rhagair' (t.7) byr i'r gyfrol sonia Bobi Jones am yr awdur fel 'un o lenorion mwyaf celfydd y byd', a noda fod y gyfrol yn cynnwys straeon sy'n rhychwantu ei yrfa lenyddol. Ceir bywgraffiad cryno o fywyd Tshechof yn 'Gair am yr Awdur' (tt.223-5) ar ddiwedd y gyfrol. Yn yr adran hon sonia W. Gareth Jones am hanes bywyd yr awdur, a gesyd straeon byrion y gyfrol hon yn eu cyd-destun bywgraffiadol.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGSTRAEON BYRIONBYWGRAFFIADHANESBEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG

Gwylan

Tshaica
Awdur: Tshechof,Anton
Teitl gwreiddiol Tshaica
Teitl y GyfresDramâu'r Byd
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddW. Gareth Jones;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1970

Nodiadau
Anton Tshechof [Anton Chekhov / Anton Tsiecof] (1860-1904). Darperir llinell amser fer sy'n amlinellu bywyd Tshechof yn fras yn y gyfrol hon (tt.iii-v). Hefyd, ceir Rhagymadrodd i'r gyfrol gan W. Gareth Jones (tt.vii-xii). Trafoda'r cyfieithydd y ddrama o sawl safbwynt gwahanol, gan ei hystyried fel gwaith sy'n gweithredu fel dameg heb fod yn bregethwrol. Sonia hefyd am hanes y ddrama, dyddiadau ei chyfansoddi a dyddiadau ei pherfformio am y tro cyntaf.

Allweddeiriau
DRAMARWSIAY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGHANESDAMEGBEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG

Meierhold


Awdur: Meierhold,Fsefolod
Teitl y GyfresCyfres Be' Ddywedodd....?
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddMona Morris;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1987

Nodiadau
Fsefolod Meierhold [Vsevolod Meyerhold] (1874-1940). Cyfieithiad Cymraeg o Am y Theatr llyfr gan y cynhyrchydd theatr arbrofol Fsefolod Meierhold. Detholwyd gyda rhagair gan W.Gareth Jones, a chyfieithwyd o'r Rwsieg gan Mona Morris."Nid llyfr pwyllog â chynllun gofalus iddo mohono" medd Gareth Jones, "ond yn hytrach gasgliad o adroddiadau brysiog o ganol y frwydr dros y ddrama newydd".

Allweddeiriau
DRAMAMEYERHOLDRWSIASOFIETAIDDTHEATR

Michael (yn 'Chwe Drama Fer')

Michael
Awdur: Malleson,Miles
Golygyddion Harries,Leslie
Teitl gwreiddiol Michael
Teitl y LlyfrChwe Drama Fer
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddLeslie Harries;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1944

Nodiadau
William Miles Malleson (1888-1969). Cyhoeddwyd y ddrama hon yn y gyfrol 'Chwe Drama Fer', ac fe'i perfformiwyd yn gyntaf, fel pob un o ddramâu'r gyfrol honno, gan Ddosbarth Drama Llandysul dan ofal Mrs. Mary Lewis B.A.. Nodir hyn yn y 'Rhagair' gan y cyfieithwyr, Leslie Harries, Ysgol Sir Llandysul, a Jack Hughes, Medical Hall, Llandysul. Trafodant hefyd y dull o gyfieithu, gan honni iddynt geisio tuag at 'arddull ganolog', heb fod yn rhy ffurfiol nac yn rhy dafodieithol. Ceir "Nodiadau Actol" (tt. 115-9) ar bob un o'r dramâu, a thrafodir 'Michael' ar tt.115-6. Noder yno faterion hawlfraint perfformio a hanes y ddrama wreiddiol - addasiad oedd y ddrama honno o gyfieithiad L. ac A. Maude o stori fer gan Tolstoy, 'What men Live by'.

Allweddeiriau
DRAMADRAMAU BYRIONLLOEGRTOLSTOYURDD GOBAITH CYMRUDRAMA FERHANESSTORI FERSTRAEON BYRIONRWSIA

Noson Arw


Awdur: Pwshcin,Alecsandr
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddT. Hudson-Williams;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1999

Nodiadau
Alecsandr Pwshcin [Alexander Pushkin] (1799-1837). Daw'r cyfieithiad hon o gerdd Pwshcin o gyfrol arbennig o 300 copi yn unig a gyhoeddwyd gan Wasg Gregynog yn 1999 i ddathlu deucanmlwyddiant prifardd Rwsia. Ynddi ceir copi o'r gerdd Rwsieg wreiddiol, cyfieithiad ohoni i'r Saesneg gan Anthony Wood, a chyfieithiad ohoni i'r Gymraeg gan T. Hudson-Williams. Teyrnged i'w hen famaeth, Arina Rodinofna, yw 'Noson Arw' (1825). Bu ei chwedlau gwerin hi yn ysbrydoliaeth i nifer o gerddi'r bardd. Ceir yn y gerdd hefyd fynegiant o unigrwydd a hiraeth y bardd tra oedd ar ystad deuluol ei fam ym Michailofscoe lle'r alltudiwyd Pwshcin ym mis Gorffennaf 1824. Ei hen famaeth oedd ei unig gydymaith yno. Yn y llyfr sonia'r cyfieithydd, T. Hudson-Williams am Pwshcin, gan ei ddisgrifio fel 'un o feirdd pwysicaf y byd, ei glod ef a barodd imi ddysgu Rwseg, ac ni chefais fy siomi." Mae'r gerdd hefyd i'w chanfod mewn casgliad o gerddi, 'Cerddi o'r Rwseg', Llangollen, 1945.

Allweddeiriau
BARDDONIAETHRWSIASAESNEGY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGBEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG
Golygyddion Jones,W.Gareth
Teitl y LlyfrStorïau Tramor IV: Storïau Tshechof
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddW. Gareth Jones;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1977

Nodiadau
Anton Tshechof [Anton Chekhov / Anton Tsiecof] (1860-1904). Dyma gyfrol o straeon byrion o eiddo Anton Tshechof. Yn ei 'Rhagair' (t.7) byr i'r gyfrol sonia Bobi Jones am yr awdur fel 'un o lenorion mwyaf celfydd y byd', a noda fod y gyfrol yn cynnwys straeon sy'n rhychwantu ei yrfa lenyddol. Ceir bywgraffiad cryno o fywyd Tshechof yn 'Gair am yr Awdur' (tt.223-5) ar ddiwedd y gyfrol. Yn yr adran hon sonia W. Gareth Jones am hanes bywyd yr awdur, a gesyd straeon byrion y gyfrol hon yn eu cyd-destun bywgraffiadol.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGSTRAEON BYRIONBYWGRAFFIADHANESBEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG
Teitl y LlyfrMerch y Capten
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddT. Husdon-Williams;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1947

Nodiadau
Leo Tolstoi [Tolstoy] (1828-1910). Cynhwysir y stori hon yn 'Rhagymadrodd' T. Hudson-Williams i'w gyfieithiad o nofel hanesyddol Pwshcin [Pushkin], 'Merch y Capten'. Defnyddir hi fel esboniad o ymateb carfan fawr o gymuned Rwsia yn ystod Gwrthryfel Pwgatsioff (dyn a hawliodd iddo'i hun y teitl Tsar Pedr III), ac fel amlinelliad o'r braw a ddaeth i ran y boneddigion yn sgil gweithredoedd treisgar y gwrthryfelwyr. Clywodd Tolstoi'r stori gan ei fodryb, a chredir ei fod yn adroddiad cywir o'r hyn a fu. Ysgrifennwyd hi ar gyfer ei defnyddio yn yr ysgol a gynhaliai Tolstoi ar ei stâd. Ynddi ceir hanes teulu o daeogion yn cuddio plant y bonheddwyr lleol rhag crafangau Pwgatsioff a'i fyddin - honnir mai plant y teulu ydynt, a thrwy hynny derbynia'r ferch fach (sef modryb y traethydd) bisyn chwech oddi wrth y pennaeth ei hun, heb iddo sylweddoli mai darpar wraig fonedd ydyw mewn gwirionedd. Mae'r stori fer hon yn cyd-gerdded yn dda â nofel hwy'r y gyfrol, 'Merch y Capten', o ran eu themâu, ac o ran eu hymdriniaethau â chyfnod penodol yn hanes Rwsia.

Allweddeiriau
HANESRWSIASTORI FERNOFELSTRAEON BYRION
Teitl y GyfresY Ffydd ar Waith
Iaith WreiddiolSaesneg;
CyfieithyddBlodeuwedd Wyn;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1985

Nodiadau
David Wallington. Dyma fywgraffiad cryno o hanes y Brawd Andrew, sef gwr o'r Iseldiroedd a fu'n filwyr ym myddin y wlad honno cyn cael troedigaeth at Gristnogaeth a dod yn deithiwr cyson ar draws y Llen Haearn oedd yn gwahanu Ewrop am ran helaeth o'r ugeinfed ganrif. Aeth ati i smyglo Beiblau ar ei deithiau i Hwngari, Rwsia, Gwlad Pwyl ac Iwgoslafia. Yn dilyn methiant gwrthryfel 1968 yn Tsiechoslofacia llenwodd Andrew ei gar â Beiblau a gyrrodd yno er mwyn eu dosbarthu mewn gwrthryfel pellach yn erbyn polisïau gwrth-grefydd y Sofietiaid. Sefydlodd dîm o bobl wedi hynny i barhau â'r gwaith o smyglo Beiblau ac adnoddau cyffelyb i mewn i diriogaeth Sofietaidd. Lluniwyd y gyfrol fel cyflwyniad byr i fywyd y Brawd Andrew, ond darperir yng nghefn y gyfrol restr ddarllen eang ar ei fywyd, ei waith, ac ar grefydd yn y bloc Sofietaidd yn gyffredinol. Darperir hefyd nifer o weithgareddau trafod a myfyrio ar sail tystiolaeth y gyfrol. Mae'r gyfrol yn rhan o'r gyfres 'Y Ffydd ar Waith", sef casgliad o gyfrolau sy'n dadlau perthnasedd egwyddorion Cristnogol anenwadol ym mywyd pob dydd. Math ar bolemig ar gyfer y 'social gospel', megis. Cyhoeddwyd y gyfrol gan Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol, ac fe'i hargraffwyd gan Argraffdy Arfon, Penygroes.

Allweddeiriau
ADDYSGASTUDIAETHAU CREFYDDCRISTNOGAETHEWROPGWLAD PWYLGWLEIDYDDIAETHHANESRWSIASOFIETAIDDUGEINFED GANRIF

Taith o Amgylch fy Ystafell

Voyage autour de ma Chambre
Awdur: de Maistre,Xavier
Teitl gwreiddiol Voyage autour de ma Chambre
Iaith WreiddiolFfrangeg;
CyfieithyddT. Ifor Rees;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1944

Nodiadau
Xavier de Maistre (1763-1852). Brodor o Savoy oedd Xavier de Maistre, fe'i ganed yno pan oedd y rhanbarth honno o hyd yn rhan o deyrnas Sardinia. Ffoes oddi yno i Rwsia yn dilyn y Chwyldro Ffrengig. Dychwelodd i Savoy i ymweld yn ddiweddarach yn ei oes, ond erbyn hynny yr oedd wedi ymgartrefu yn Rwsia, ac yno y bu farw yn 1852. Cyhoeddwyd 'Taith o Amgylch Fy Ystafell' yn 1794. Yn y nofel defnyddia'r awdur ddodrefn ei ystafell fel sail i'w fyfyrdodau ym meysydd gwleidyddiaeth, crefydd, moeseg, a dyngarwch yn gyffredinol. Ystyrir y nofel hon yn un uchel ei pharch o hyd ym myd llenyddol Ffrainc. Cyhowyddwyd y cyfieithiad Cymraeg o'r nofel hon yn Ninas Mecsico yn 1944. T. Ifor Rees oedd ei chyfieithydd, a ffrwyth cystadleuaeth gyfieithu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ydoedd yn wreiddiol. Yn y 'Rhagair' i'r gyfrol esbonia Rees ei fod wedi mireinio ar y cyfieithiad hwnnw ers achlysur yr Eisteddfod, a'i fod wedi mynd ati i gyhoeddi'r nofel oherwydd ei gred bod 'cyfieithiadau o'r natur yma o glasuron gwlad arall yn cynorthwyo i gyfoethogi llenyddiaeth Gymraeg ac mai tra buddiol yw gwneud gemau llenyddol ieithoedd eraill yn hysbys i'r sawl na fedr eu gwerthfawrogi yn y gwreiddiol." Argraffwyd y gyfrol gyda chymorth R. C. R. Hesketh, Dinas Mecsico.

Allweddeiriau
CREFYDDEISTEDDFOD GENEDLAETHOLFFRAINCGWLEIDYDDIAETHMECSICOMOESEGNOFELRWSIALLENYDDIAETHDE AMERICA

Taman (yn Storïau Tramor III)


Awdur: Lermonotof,Michael
Golygyddion Jones,Bobi
Teitl y LlyfrStorïau Tramor III
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddThomas Hudson-Williams;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1976

Nodiadau
Michael Lermonotof (1814-1841). Yn ei 'Rhagair' (tt.8-9) i'r gyfrol hon, esbonia Bobi Jones mai blodeugerdd yw hon o straeon byrion a gyhoeddwyd eisoes yn y Gymraeg mewn amrywiol gyhoeddiadau cynharach na'r gyfrol ei hun. Rhydd bwt o wybodaeth am rai o'r cyfieithwyr hefyd, a nodyn yn amlinellu dyfodol y gyfres hon fel 'llyfrgell helaeth a gwerthfawr o'r campweithiau ym myd y stori fer'. Darperir bywgraffiadau cryno o hanes yr awduron yng nghefn y gyfrol, yn yr adran 'Cyflwyno'r Awduron' (tt.144-8). Cyhoeddwyd y cyfieithiad hwn am y tro cyntaf yn: Baner ac Amserau Cymru, 30/03/1937.

Allweddeiriau
LERMONOTOVRWSIASTORI FERSTRAEON BYRION

Tri yn Marw


Awdur: Tolstoi,Leo
Teitl y LlyfrStorïau o'r Rwseg
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddT.Hudson Williams;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 2014

Nodiadau
Leo Tolstoi [Tolstoy] (1828-1910). Un o dair stori glasurol o Rwsia a gyfieithwyd o'r iaith wreiddiol gan T. Hudson Williams, Athro'r Clasuron ym Mhrifysgol Bangor ac un o'r cyfieithwyr mwyaf toreithog i'r Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif. Storiau o'r Rwseg yw enw'r gyfrol ac mae'n cynnwys nodion ar rai o brif lenorion y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Rwsia: Gontsiarof, Ostrofsci, Twrgienief, Dostoiefsci, Tsiechof, Andreief a Gorci, yn ogystal â'r tri awdur sydd yn y gyfrol : Pwscin, Gogol a Leo Tolstoi,

Allweddeiriau
19 GANRIFCLASURONIAITHLLENYDDIAETHRWSIASTORI FERSTRAEON BYRIONUGEINFED GANRIFY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGYR UGEINFED GANRIF
Golygyddion Jones,W.Gareth
Teitl y LlyfrStorïau Tramor IV: Storïau Tshechof
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddMeic Pattison;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1977

Nodiadau
Anton Tshechof [Anton Chekhov / Anton Tsiecof] (1860-1904). Dyma gyfrol o straeon byrion o eiddo Anton Tshechof. Yn ei 'Rhagair' (t.7) byr i'r gyfrol sonia Bobi Jones am yr awdur fel 'un o lenorion mwyaf celfydd y byd', a noda fod y gyfrol yn cynnwys straeon sy'n rhychwantu ei yrfa lenyddol. Ceir bywgraffiad cryno o fywyd Tshechof yn 'Gair am yr Awdur' (tt.223-5) ar ddiwedd y gyfrol. Yn yr adran hon sonia W. Gareth Jones am hanes bywyd yr awdur, a gesyd straeon byrion y gyfrol hon yn eu cyd-destun bywgraffiadol.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGSTRAEON BYRIONBYWGRAFFIADHANESBEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG
Golygyddion Jones,W.Gareth
Teitl y LlyfrStorïau Tramor IV: Storïau Tshechof
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddMeic Pattison;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1977

Nodiadau
Anton Tshechof [Anton Chekhov / Anton Tsiecof] (1860-1904). Dyma gyfrol o straeon byrion o eiddo Anton Tshechof. Yn ei 'Rhagair' (t.7) byr i'r gyfrol sonia Bobi Jones am yr awdur fel 'un o lenorion mwyaf celfydd y byd', a noda fod y gyfrol yn cynnwys straeon sy'n rhychwantu ei yrfa lenyddol. Ceir bywgraffiad cryno o fywyd Tshechof yn 'Gair am yr Awdur' (tt.223-5) ar ddiwedd y gyfrol. Yn yr adran hon sonia W. Gareth Jones am hanes bywyd yr awdur, a gesyd straeon byrion y gyfrol hon yn eu cyd-destun bywgraffiadol.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGSTRAEON BYRIONBYWGRAFFIADHANESBEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG

Y Brawd

L'Araigne
Awdur: Troyat,Henri
Teitl gwreiddiol L'Araigne
Iaith WreiddiolFfrangeg;
CyfieithyddRhiannon Davies a T. Ifor Rees;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1959

Nodiadau
Henri Troyat (1911-2007). Ceir 'Rhagair' i'r nofel hon, wedi'i ysgrifennu gan "Y Cyfieithwyr". Yno nodir mai ymateb i gais Pwyllgor Cymdeithas Llyfrau Ceredigion am gyfieithiad o nofel Ffrangeg i oedolion yw'r trosiad hwn. Nodir yno hefyd y bu i'r nofel wreiddiol, 'L'Araigne', ennill y 'Prix Goncourt' i'r awdur yn 1938. Ceir hefyd bwt o hanes yr awdur, o ran bywyd personol a gyrfa lenyddol. Dysgwn fod Troyat yn "falch iawn" pan wybu y bwriedid cyhoeddi cyfieithiad Cymraeg o 'L'Araigne'. Noda'r cyfieithwyr iddynt dderbyn 'llaw rydd' wrth gyfieithu, a gwelir hynny yn y teitl - 'Y Corryn' fyddai'r cyfieithiad llythrennol o 'L'Araigne', nid 'Y Brawd', ond 'Y Brawd' oedd dewis y cyfieithwyr, ac 'fe wêl y darllenydd paham".

Allweddeiriau
FFRAINCFFRANGEGHANESNOFELRWSIAUGEINFED GANRIFEWROP

Y Cosaciaid

Casaci
Awdur: Tolstoi,Leo
Teitl gwreiddiol Casaci
Iaith WreiddiolRwseg;
CyfieithyddCaryl Davies;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 2014

Nodiadau
Leo Tolstoi [Tolstoy] (1828-1910). Nofel fer gynnar gan Tolstoi (1828-1910) yn seiliedig ar brofiad yr awdur yn ymladd ym myddin Rwsia yn erbyn pobl brodorol y Cawcasws yn 1852-53. Mae'r Rhagair byr gan y cyfieithydd yn cysylltu darostyngiad trigolion y Cawcasws yng nghyfnod Tolstoi a rhyfel gyntaf Tsietnia a ddaeth i ben yn 1997 adeg baratoi'r cyfieithiad hwn.

Allweddeiriau
CAWCASWSNOFELRWSIATOLSTOITOLSTOYTSIETNIAY CAWCASWS

Y Fantell

Sinel
Awdur: Gogol,Nicolai
Teitl gwreiddiol Sinel
Teitl y LlyfrStorïau i'r Rwseg
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddT.Hudson Williams;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1942

Nodiadau
Nikolai Vasilievich Gogol (1809-1852). Un o dair stori glasurol o Rwsia a gyfieithwyd o'r iaith wreiddiol gan T. Hudson Williams, Athro'r Clasuron ym Mhrifysgol Bangor ac un o'r cyfieithwyr mwyaf toreithog i'r Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif. Storïau o'r Rwseg yw enw'r gyfrol ac mae'n cynnwys nodion ar rai o brif lenorion y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Rwsia: Gontsiarof, Ostrofsci, Twrgienief, Dostoiefsci, Tsiechof, Andreief a Gorci, yn ogystal â'r tri awdur sydd yn y gyfrol : Pwscin, Gogol a Leo Tolstoi.

Allweddeiriau
BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGCLASURONIAITHLLENYDDIAETHRWSIASTORI FERTOLSTOIUGEINFED GANRIFY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGYR UGEINFED GANRIF
Golygyddion Jones,W.Gareth
Teitl y LlyfrStorïau Tramor IV: Storïau Tshechof
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddW. J. Rees;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1977

Nodiadau
Anton Tshechof [Anton Chekhov / Anton Tsiecof] (1860-1904). Dyma gyfrol o straeon byrion o eiddo Anton Tshechof. Yn ei 'Rhagair' (t.7) byr i'r gyfrol sonia Bobi Jones am yr awdur fel 'un o lenorion mwyaf celfydd y byd', a noda fod y gyfrol yn cynnwys straeon sy'n rhychwantu ei yrfa lenyddol. Ceir bywgraffiad cryno o fywyd Tshechof yn 'Gair am yr Awdur' (tt.223-5) ar ddiwedd y gyfrol. Yn yr adran hon sonia W. Gareth Jones am hanes bywyd yr awdur, a gesyd straeon byrion y gyfrol hon yn eu cyd-destun bywgraffiadol.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGSTRAEON BYRIONBYWGRAFFIADHANESBEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG

Y Gelli Geirios

-
Awdur: Tshechof,Anton
Teitl gwreiddiol -
Teitl y GyfresDramâu Aberystwyth
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddW. Gareth Jones;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1993

Nodiadau
Anton Tshechof [Anton Chekhov / Anton Tsiecof] (1860-1904). Perthyn y ddrama hon i'r gyfres 'Dramâu Aberystwyth'. Darperir llinell amser fer (t.iii) yn olrhain hanes bywyd Tshechof ar gychwyn y gyfrol hon. Yn y 'Rhagymadrodd' (tt.v-vii) sonia W. Gareth Jones am farn Tshechof ei hun am gyfieithu'r ddrama hon i ieithoedd eraill, gan bwysleisio nad oedd Tshechof o blaid y syniad oherwydd y cyd-destun diwylliannol sy'n cyd-fynd â phob iaith ramadegol. Sonia'r cyfieithydd hefyd am hanes perfformio'r ddrama am y tro cyntaf, a defnyddia'r drafodaeth honno am y sialensau a wynebodd y perfformwyr fel modd i oleuo ei drafodaeth ef ar themâu'r ddrama ei hun.

Allweddeiriau
DRAMADRAMA EWROPEAIDDRWSIAUGEINFED GANRIFHANESIAITH

Y Llyfryn-Poced Gwyrdd


Awdur: Troyat,Henri
Iaith WreiddiolFfrangeg;
CyfieithyddT. Ifor Rees;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1967

Nodiadau
Henri Troyat (1911-2007). Roedd Troyat yn awdur Ffrangeg o dras Rwsiaidd, cyhoeddodd dros 100 o lyfrau, nofelau a chofiannau yn ystod ei oes. Roedd yn aelod o'r Académie Française o 1959 hyd at ei farw yn 2007. Ni cheir bywgraffiad ohono, nac o'r cyfieithydd, yn y gyfrol hon. Mae ynddi bedair stori fer, "Y Llyfr-Poced Gwyrdd", "Dychwelyd o Versailles", "Y Cwsmer Gorau", ac "Efa".

Allweddeiriau
FFRAINCSTRAEON BYRIONSTORI FEREWROPRWSIA
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddT.Hudson Williams;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1964

Nodiadau
Alecsandr Pwshcin [Pushkin / Pwscin] (1799-1837). Un o bedair ddrama fer wedi eu cyfieithu o'r Rwsieg gan T. Hudson Williams, un o'r cyfieithwyr mwyaf toriethog i'r Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif. Ceir 'Rhagair' i'r gyfrol gyfan gan Cynan sydd yn rhestru'r dramâu a gweithiau eraill a gyfieithwyd o'r Rwsieg i'r Gymraeg gan yr un cyfieithydd.

Allweddeiriau
DRAMADRAMA FERLLEYDDIAETHPUSHKINRWSIAUGEINFED GANRIFYR UGEINFED GANRIF

Y Meirw ar y Mynydd

La Neige en Deuil
Awdur: Troyat,Henri
Teitl gwreiddiol La Neige en Deuil
Iaith WreiddiolFfrangeg;
CyfieithyddRhiannon Davies a T. Ifor Rees;
Math Llyfr Cyfan
Cyhoeddwyd 1965

Nodiadau
Henri Troyat (1911-2007). Ganed Troyat yn Rwsia, ond bu'n rhaid i'w deulu ac ef ffoi oddi yno yn sgil Chwyldro 1917. Wedi ffoaduriaeth hir ymsefydlodd y teulu ym Mharis yn 1920. Bu'n awdur toreithiog, ac enillodd lawer o wobrau llenyddol yn ystod ei yrfa. Daeth yn aelod o'r Académie Française yn 1959, ac yno y bu tan ei farw yn 2007. Cyfieithiad yw'r gyfrol hon o waith enwocaf Troyat, 'La Neige en Deuil'. Ni cheir bywgraffiadau na rhagymadroddion yn y gyfrol hon. Cyhoeddwyd y gwreiddiol yn 1952.

Allweddeiriau
FFRAINCNOFELRWSIATEULUEWROP
Golygyddion Jones,W.Gareth
Teitl y LlyfrStorïau Tramor IV: Storïau Tshechof
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddMeic Pattison;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1977

Nodiadau
Anton Tshechof [Anton Chekhov / Anton Tsiecof] (1860-1904). Dyma gyfrol o straeon byrion o eiddo Anton Tshechof. Yn ei 'Rhagair' (t.7) byr i'r gyfrol sonia Bobi Jones am yr awdur fel 'un o lenorion mwyaf celfydd y byd', a noda fod y gyfrol yn cynnwys straeon sy'n rhychwantu ei yrfa lenyddol. Ceir bywgraffiad cryno o fywyd Tshechof yn 'Gair am yr Awdur' (tt.223-5) ar ddiwedd y gyfrol. Yn yr adran hon sonia W. Gareth Jones am hanes bywyd yr awdur, a gesyd straeon byrion y gyfrol hon yn eu cyd-destun bywgraffiadol.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGSTRAEON BYRIONBYWGRAFFIADHANESBEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG

Y Rabbi (yn Storïau Tramor)


Awdur: Babel,Issac
Golygyddion Pritchard,Harri Jones
Teitl y LlyfrStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddSiôn Daniel;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1974

Nodiadau
Issac Babel (1894-1940). Ceir nodyn bywgraffyddol (t.127) am yr awdur a "Rhagymadrodd" (tt. xi-xx) lle trafodir y rhesymeg tros gyfieithu llenyddiaeth i'r Gymraeg a'r gwaith ei hun yn y gyfrol hon.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERUGEINFED GANRIFSTRAEON BYRION
Golygyddion Jones,W.Gareth
Teitl y LlyfrStorïau Tramor IV: Storïau Tshechof
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddDewi Williams;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1977

Nodiadau
Anton Tshechof [Anton Chekhov / Anton Tsiecof] (1860-1904). Dyma gyfrol o straeon byrion o eiddo Anton Tshechof. Yn ei 'Rhagair' (t.7) byr i'r gyfrol sonia Bobi Jones am yr awdur fel 'un o lenorion mwyaf celfydd y byd', a noda fod y gyfrol yn cynnwys straeon sy'n rhychwantu ei yrfa lenyddol. Ceir bywgraffiad cryno o fywyd Tshechof yn 'Gair am yr Awdur' (tt.223-5) ar ddiwedd y gyfrol. Yn yr adran hon sonia W. Gareth Jones am hanes bywyd yr awdur, a gesyd straeon byrion y gyfrol hon yn eu cyd-destun bywgraffiadol.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGSTRAEON BYRIONBYWGRAFFIADHANESBEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG

Yr Arth


Awdur: Tshechof,Anton
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddT. Hudson Williams;
Math Deunydd Clyweled
Cyhoeddwyd 1987

Nodiadau
Anton Tshechof [Anton Chekhov / Anton Tsiecof] (1860-1904). Dyma gyfieithiad o'r ddrama gomedi Yr Arth, o eiddo Anton Tshechof. Edrydd ynddi hanes gweddw'n gorfod dygymod â'r arian sy'n ddyledus gan ei diweddar wr i bendefig arall o'r fro. Erys hi'n ffyddlon i'w gwr yn ei galar, tra mai'r arian yw prif sylw'r pendefig newydd. Tyf tensiwn y ddrama rhwng y dyheadau gwahanol hyn rhwng y ddau brif brotagonydd. Yn y cyfieithiad defnyddir y ferf "arthio", fel atodiad i'r alegori yn y ddrama wreiddiol, er mwyn portreadu cymeriad y pendefig ystyfnig, diamynedd. Cresiendo'r ddrama yw brwydr saethu rhwng y ddau brotagonydd, a thry hynny'n gatalydd i dwf serch rhwng y ddau. Chwaraewyd rhan Popofa gan Lisabeth Miles, Lwca gan Charles Williams, Smirnoff gan J. O. Roberts. Addaswyd y ddrama ar gyfer y teledu, fel rhan o'r ddrama 'Drama 9', gan BBC Cymru. Fe'i darlledwyd ar yr 2il o Fawrth, 1987 ar S4C. Mae'r ddrama wedi'i chadw yn Archifdy Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Allweddeiriau
CHEKHOVCYMRUDRAMAHANESRWSIATELEDUY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGBEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddT.Hudson Williams;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1964

Nodiadau
Anton Tshechof [Anton Chekhov / Anton Tsiecof] (1860-1904). Un o bedair drama fer wedi'u cyfieithu o'r Rwsieg gan T. Hudson Williams, un o'r cyfieithwyr mwyaf toriethog i'r Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif. Ceir Rhagair i'r gyfrol gyfan gan Cynan sydd yn sôn yn arbennig am y cynhyrchiad cyntaf o Yr Arth yn 1942 a sy'n rhestru'r dramâu a gweithiau eraill a gyfieithwyd o'r Rwsieg i'r Gymraeg gan yr un cyfieithydd. Addaswyd y ddrama ar gyfer y teledu, fel rhan o'r ddrama 'Drama 9', gan BBC Cymru. Fe'i darlledwyd ar yr 2il o Fawrth, 1987 ar S4C. Mae'r ddrama wedi'i chadw yn Archifdy Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae cofnod unigol ar ei chyfer i'w weld yn y catalog hwn.

Allweddeiriau
CHEKHOVDRAMADRAMA FERLLENYDDIAETHRWSIATCHEKHOVUGEINFED GANRIFYR UGEINFED GANRIFTELEDUCYMRU

Yr Ergyd

Vistrel
Awdur: Pwshcin,Alecsandr
Teitl gwreiddiol Vistrel
Teitl y LlyfrStorïau o'r Rwseg
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddT.Hudson Williams;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1942

Nodiadau
Alecsandr Pwshcin [Pushkin / Pwscin] (1799-1837). Un o dair stori glasurol o Rwsia a gyfieithwyd o'r iaith wreiddiol gan T. Hudson Williams, Athro'r Clasuron ym Mhrifysgol Bangor ac un o'r cyfieithwyr mwyaf toreithog i'r Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif. Storiau o'r Rwseg yw enw'r gyfrol ac mae'n cynnwys nodion ar rai o brif lenorion y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Rwsia: Gontsiarof, Ostrofsci, Twrgienief, Dostoiefsci, Tsiechof, Andreief a Gorci, yn ogystal â'r tri awdur sydd yn y gyfrol : Pwscin, Gogol a Leo Tolstoi,

Allweddeiriau
19 GANRIFCLASURONIAITHLLENYDDIAETHRWSIASTORI FERUGEINFED GANRIFYR UGEINFED GANRIFY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGSTRAEON BYRION
Golygyddion Jones,W.Gareth
Teitl y LlyfrStorïau Tramor IV: Storïau Tshechof
Teitl y GyfresStorïau Tramor
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddJ. I. Daniel;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1977

Nodiadau
Anton Tshechof [Anton Chekhov / Anton Tsiecof] (1860-1904). Dyma gyfrol o straeon byrion o eiddo Anton Tshechof. Yn ei 'Rhagair' (t.7) byr i'r gyfrol sonia Bobi Jones am yr awdur fel 'un o lenorion mwyaf celfydd y byd', a noda fod y gyfrol yn cynnwys straeon sy'n rhychwantu ei yrfa lenyddol. Ceir bywgraffiad cryno o fywyd Tshechof yn 'Gair am yr Awdur' (tt.223-5) ar ddiwedd y gyfrol. Yn yr adran hon sonia W. Gareth Jones am hanes bywyd yr awdur, a gesyd straeon byrion y gyfrol hon yn eu cyd-destun bywgraffiadol.

Allweddeiriau
RWSIASTORI FERY BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEGSTRAEON BYRIONBYWGRAFFIADHANESBEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG
Iaith WreiddiolRwsieg;
CyfieithyddT.Hudson Williams;
Math Rhan o Lyfr / Stori Fer
Cyhoeddwyd 1964

Nodiadau
Leo Tolstoi [Tolstoy] (1828-1910). Un o bedair drama fer wedi eu cyfieithu o'r Rwsieg gan T. Hudson Williams, un o gyfieithwyr mwyaf toriethog i'r Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif. Ceir 'Rhagair' i'r gyfrol gyfan gan Cynan sydd yn rhestru'r dramâu a gweithiau eraill a gyfieithwyd o'r Rwsieg i'r Gymraeg gan yr un cyfieithydd.

Allweddeiriau
DRAMADRAMA FERLLENYDDIAETHRWSIATOLSTOYUGEINFED GANRIFYR UGEINFED GANRIF

Y Gronfa

Mae'r gronfa yn gatalog disgrifiadol o destunau a gyfieithwyd i'r Gymraeg o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen ym meysydd y dyniaethau, y celfyddydau a'r gwyddorau cymdeithasol. Detholwyd yn bennaf o blith testunau rhyddiaith a drama all fod o ddiddordeb ar gyfer ymchwil a dysgu ar lefel addysg uwch. Mewn ambell achos y mae cofnod yn arwain at y testun llawn ar-lein.

Croesawn bob gwybodaeth am eitemau pellach gan gynnwys deunydd heb ei gyhoeddi. Anfonwch y manylion llawnaf posibl wrth gysylltu gan fod y catalog yn dibynnu ar ein gallu i gael golwg ar yr union destun a ddisgrifir.

cyfieithiadau@colegcymraeg.ac.uk

Ewch i ddarllen y blog cyfieithiadau ar cyfieithiadau.wordpress.com