Skip to main content Skip to footer
14 Mawrth 2024

Blog Sam: Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgol

ADD ALT HERE

Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl Prifysgol mae Sam Webb, llysgennad ôl-radd, yn rhannu ei brofiad o astudio seicoleg a delio â phroblemau iechyd meddwl.

Sam ydw i, dwi’n fyfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol De Cymru yn astudio meistr Seicoleg Glinigol. Nes i ddewis astudio seicoleg yn wreiddiol oherwydd hanes iechyd meddwl yn fy nheulu, ac roeddwn i moen dysgu mwy er mwyn gallu helpu pobl mewn angen. Mae hefyd gen i ddiddordeb mawr mewn bioleg dynol ac mae’r ddau yn gweithio gyda’i gilydd.

Nes i ymgeisio i fod yn llysgennad ôl-radd oherwydd roeddwn i’n edrych am fwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn pethau yn y gymuned Gymraeg. Mae hyn yn gallu bod yn anodd i’w darganfod, yn enwedig fel oedolyn a dwi’n meddwl bod myfyrwyr eraill yn meddwl yr un peth. Gall hi fod yn anodd os ydych chi’n siaradwr Cymraeg newydd i gael yr hyder ond mae 'na gymorth ar gael. Yn bersonol, dwi’n hoff iawn o ymchwil a gwyddoniaeth, felly dwi’n edrych ymlaen at siarad gyda myfyrwyr eraill a chwrdd â phobol newydd.

Ar y cyfan, byddwn i’n dweud bod astudio seicoleg yn gallu helpu rhywun gyda’i iechyd meddwl neu ddeall mecanwaith yr ymennydd. Byddwn i hefyd yn dweud ei bod hi’n dibynnu ar ba adran o seicoleg ydych chi’n astudio neu eisiau ymarfer yn y dyfodol. Er enghraifft, mewn seicotherapi, mae’n rhaid i fyfyrwyr ddysgu sut i fod yn ymarferwr adfyfyriol. Mae hyn yn helpu deall eich hun yn well a helpu eraill.

Wnaeth iechyd meddwl achosi rhai problemau yn ystod fy amser yn astudio yn y brifysgol, yn enwedig oherwydd y pandemig. Roedd llawer o iselder ac unigrwydd o gwmpas yr amser yma i fi a dwi’n meddwl bod hyn yn brofiad cyffredin i fyfyrwyr.

Cymerodd hi lawer o amser i mi deimlo’n well ar ôl hyn ac ar amseroedd, roedd hi’n teimlo’n anodd cael cymorth oherwydd roedd popeth yn teimlo allan o’i le yn y gymdeithas. Er hyn, roedd fy mhrifysgol a darlithwyr yn dda iawn wrth helpu gyda’r problemau hyn a sut oedden nhw’n effeithio ar fy astudiaethau a dwi’n ddiolchgar iawn am hyn.

O ddydd i ddydd, dwi’n teimlo bod hi’n bwysig i gael rhyw fath o drefn neu reolaeth i’r dydd ac yna eich wythnos. Mae hyn yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n gwybod pryd byddwch chi’n cael amser i ymlacio ac amser chi’n gwybod y byddwch yn gweithio ar waith cwrs. Bydd hyn hefyd yn rhoi digon o amser i chi gwblhau beth sydd angen. Mae hyn yn trawsnewid yn dda i’r ail beth sy’n helpu fi gymaint, a hynny yw trefnu. Wrth drefnu o flaen llaw, mae’n gwneud yn siŵr does dim gofid neu bryder sydd mynd i synnu chi ac mae’n rhoi yn ôl teimlad o reolaeth sydd yn anodd dyddiau yma.

Gwrandewch ar eich corff! Llawer o’r amser, gallwch ddarganfod yr ateb wrth wrando’n fwy gofalus i’ch corff. Dwi’n gwybod weithiau pan does dim egni gen i neu dwi’n teimlo’n isel neu gyda gorbryder, y rheswm am hyn yw oherwydd dwi’n sychedig neu angen bwyta. Mae pethau fel hyn yn digwydd yn fwy na ydym ni yn sylweddoli.

Yn fy marn i, mae yn edrych fel bod iechyd meddwl yn bwnc sy’n cael ei drafod yn fwy y dyddiau yma. Gall rhai o’r rhesymau am hyn fod oherwydd gwelliant yn y gymdeithas ond hefyd oherwydd ansawdd tîm iechyd meddwl mewn prifysgolion. Er hyn, mae pwysau gan gyfoedion dal yn broblem i rai, yn enwedig i bobol ifanc sydd newydd ddechrau yn y brifysgol.

Y cyngor arall byddwn i’n dweud yw siarad â rhywun am sut i chi’n teimlo oherwydd mae 'na bobol yna i wrando arnoch chi, hyd yn oed os nad yw hi’n teimlo fel yna. Peth pwysig arall yw datblygu sgiliau ymdopi sydd yn iachus yn lle rhai negyddol ble rydych chi’n gallu. Pan mae pethau yn galed, mae’n llawer haws canolbwyntio ar y pethau nad ydych chi’n gallu newid yn lle'r pethau y gallwch chi.

Cyhoeddir y blog hwn ar y cyd â meddwl.org. Mae cymorth a gwybodaeth ar ymdopi yn y Brifysgol ar y dudalen hon