Skip to main content Skip to footer
mân lun galwad am bapurau

Cynhadledd Ymchwil 2024: Galwad am bapurau

Dydd Mawrth, 6 Chwefror 2024 - Dydd Mawrth, 30 Ebrill 2024
mân lun galwad am bapurau

Beth am gynnig papur neu boster ymchwil ar gyfer y Gynhadledd Ymchwil eleni? 

Gellid cynnig un o'r canlynol: 

  • Cyflwyniad byw - 20 munud o hyd (gyda 10 munud ychwanegol ar gyfer cwestiynau) 
  • Poster Ymchwil 

Mae gwobr o £50 i'r poster ymchwil gorau, a chaiff y gystadleuaeth ei beirniadu gan Dr Hywel Griffiths. 

Rydyn ni'n gobeithio derbyn cynigion gan unigolion sy'n ymchwilio i bob math o bynciau, ac sy'n cynrychioli ystod eang o brofiad - o fyfyrwyr ôl-radd sydd ond megis dechrau ar eu hymchwil, i staff academaidd sydd â blynyddoedd o brofiad ac wedi cyhoeddi'n helaeth. Gwahoddir gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil. Mae croeso i bawb gynnig! 

Mae'r Coleg Cymraeg wedi ymrwymo i egwyddorion o gydraddoldeb, amrywiaeth a gwrth-hiliaeth, ac felly rydym yn annog cynigion gan unigolion Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn ogystal ag unigolion o grwpiau eraill sydd wedi eu tangynrychioli. 

Mae cyflwyniadau a phosteri Cynhadledd Ymchwil 2023 i'w gweld ar Y Porth.

Anfonwch eich cynnig ar gyfer papur / poster (crynodeb 300 gair + paragraff o fywgraffiad) at m.james@colegcymraeg.ac.uk erbyn canol dydd, Dydd Mawrth, 30 Ebrill 2024. 

Cynhelir y Gynhadledd Ymchwil yn Y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth (ac ar-lein) ar 28 Mehefin 2024. 

Disgwylir i gyflwynwyr, gan gynnwys cyflwynwyr posteri ymchwil, fod yn bresennol yn Aberystwyth. 

Ad-delir costau teithio a darperir llety i unigolion sy'n cyflwyno yn y Gynhadledd.