Skip to main content Skip to footer
19 Mawrth 2024

Bwrsariaeth newydd er cof am Dr Llŷr Roberts i gefnogi myfyrwyr Cymraeg.

ADD ALT HERE

Ar nos Fawrth 19 Mawrth, yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, bydd y Coleg Cymraeg yn cyhoeddi Bwrsariaeth Cronfa Llŷr a sefydlwyd mewn cydweithrediad gyda theulu’r diweddar Dr Llŷr Roberts a Phrifysgol Bangor i gefnogi myfyrwyr gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.

Bydd y fwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr israddedig sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn unrhyw bwnc ac yn noddi taith at bwrpas sy’n gysylltiedig â’u hastudiaethau ac sydd â pherthnasedd i’r Gymraeg neu Astudiaethau Cymreig.

Bwriedir dyfarnu hyd at £2,000 yn flynyddol gyda hyd at bedwar dyfarniad o tua £500 i bob myfyriwr buddugol.

Sefydlwyd y fwrsariaeth i gofio am Dr Llŷr Roberts, un o ddarlithwyr cysylltiol cyntaf a disgleiriaf y Coleg Cymraeg a fu farw’n sydyn ym Mehefin 2023 yn 45 mlwydd oed.

Ar y noson bydd Dr Dafydd Trystan, Cyfarwyddwr Datblygu Strategol ac Addysg Bellach a Chofrestrydd y Coleg Cymraeg, yn talu teyrnged i Llŷr yng nghwmni ei deulu, cyfeillion, a’i gydweithwyr. Meddai Dr Trystan:

“Roedd Llŷr yn gyfaill ac yn gydweithiwr annwyl iawn. Fe oedd un o’r Darlithwyr Cysylltiol cyntaf i gael ei benodi i swydd dan nawdd y Coleg Cymraeg. Aeth ymlaen i wneud cyfraniad amlweddog i addysg uwch cyfrwng Cymraeg ym maes Busnes ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn fwyaf diweddar, ym Mhrifysgol Bangor.

“Mewn amser byr gwnaeth Llŷr argraff fawr ar ei gyd-weithwyr a’i fyfyrwyr. Yn 2022, enillodd wobr gan y Coleg am Adnodd Rhagorol am greu’r e-lyfr cyntaf ym maes Marchnata yn yr iaith Gymraeg.

“Roedd Llŷr yn angerddol am yr iaith Gymraeg, am astudiaethau busnes a marchnata, am gerddoriaeth ac am deithio. Mae ei waddol yn glir, ac mae’n briodol ein bod wedi sefydlu’r fwrsariaeth yma i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.”

Fel rhan o’r noson bydd y Coleg Cymraeg yn urddo tri Chymrawd er Anrhydedd am gyfraniad oes tuag at addysg ol-orfodol cyfrwng Cymraeg, ac yn cyflwyno tystysgrifau i fyfyrwyr PhD am gyflawni doethuriaeth o dan nawdd Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg. 

Datgelir mai’r tri Chymrawd er Anrhydedd fydd:

·        Yr Athro Delyth Prys, cyn-bennaeth yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor;

·        Wyn Thomas, a fu’n allweddol yn datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor;

·        Linda Wyn, cyn-bennaeth Coleg Meirion Dwyfor a Choleg Menai o fewn Grŵp Llandrillo Menai.

Dyma’r rhestr lawn o’r myfyriwr PhD fydd yn derbyn eu tystysgrifau gan y Coleg eleni:

·        Dr Seren Evans, Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol Bangor

·        Dr Ianto Gruffudd, Cymraeg, Prifysgol Caerdydd

·        Dr Cennydd Jones, Amaethyddiaeth, Prifysgol Aberystwyth

·        Dr Lucy Hale Evans, Gwyddorau Amgylcheddol, Prifysgol Bangor

·        Dr Claire Griffith-Mcgeever, Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol Bangor

·        Dr Marc Williams, Seicoleg, Prifysgol Caerdydd

·        Dr Sioned Llywelyn, Daearyddiaeth, Prifysgol Aberystwyth

·        Dr Gruffydd Lloyd Jones, Gwyddorau Amgylcheddol, Prifysgol Aberystwyth

 

Gwahoddir ceisiadau am Fwrsariaeth Cronfa Llŷr yn ystod tymor yr haf gyda’r bwriad i gyhoeddi’r enillwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym mis Awst. Bydd rhagor o wybodaeth gan gynnwys y ffurflen gais i ymgeisio am y fwrsariaeth ar wefan y Coleg yn fuan.

Gellir darllen am y Cymrodyr er Anrhydedd a’r myfyrwyr PhD ar wefan y Coleg ar 19 Mawrth ar ddiwrnod y cynhelir Cynulliad Blynyddol y Coleg.