Skip to main content Skip to footer
21 Mawrth 2024

Cyhoeddi gwerthusiad o weithgareddau penodol i gefnogi'r Gymraeg fel Pwnc

ADD ALT HERE

Heddiw, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyhoeddi gwerthusiad o weithgareddau penodol i gefnogi'r Gymraeg fel Pwnc. 

Mae’r Coleg yn derbyn grant gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynnal gweithgareddau penodol i gefnogi'r Gymraeg fel pwnc. Cafodd y gweithgareddau hyn eu gwerthuso gan gwmni IAITH yn ystod 2023.  

Nod y gwerthusiad oedd ystyried a oedd y cynllun yn cyflawni ei amcanion yn ystod 2018/19-2021/22, a chynnig argymhellion ar gyfer cynlluniau pellach i sicrhau gwelliant yn sefyllfa’r Gymraeg fel pwnc ac i ddiogelu’r ddarpariaeth ar gyfer y dyfodol. 

Mae’r adroddiad i'w weld ar y ddolen isod. 

Diolch i bawb fu’n rhan o’r gwerthusiad.  

Am fwy o wybodaeth am y Gymraeg fel Pwnc, ewch i'r dudalen berthnasol ar wefan y Coleg Cymraeg. 

Gwerthusiad o Gynlluniau Hyrwyddo’r Gymraeg fel Pwnc