Skip to main content Skip to footer
19 Mawrth 2024

Urddo tri Chymrawd er Anrhydedd am gyfraniad oes at addysg cyfrwng Cymraeg

ADD ALT HERE

Ar nos Fawrth 19 Mawrth yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd yr Athro Delyth Prys, Wyn Thomas, a Linda Wyn yn cael eu hurddo yn Gymrodyr er Anrhydedd y Coleg am eu cyfraniad oes tuag at addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg.

Bydd yr Athro Delyth Prys yn derbyn cydnabyddiaeth am ei chyfraniad eithriadol dros drideg mlynedd i faes safoni termau Cymraeg.

Yn dilyn cyfraniadau allweddol yn safoni termau i’r Cwricwlwm Cenedlaethol a Bwrdd yr Iaith, a threulio cyfnod hir fel Pennaeth ar yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr Prifysgol Bangor, aeth Delyth ati i safoni termau addysg uwch yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Diolch i’w gwaith, mae Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn datblygu’n gyson, a ffrwyth y gwaith yn cael ei gyhoeddi ar-lein ac fel ap.

Wrth edrych ymlaen at y noson meddai’r Athro Delyth Prys:

“Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi gweddnewid addysg cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion. Rwy’n falch ofnadwy o fod wedi medru cyfrannu at y datblygiadau hyn drwy helpu i ddarparu termau Cymraeg safonol ar lefel uwch. Pob dymuniad da i’r Coleg wrth barhau i arloesi yn y maes.”

Yr Athro Delyth Prys

Hefyd ar y noson, bydd Wyn Thomas, brodor o Aberystwyth, yn cael ei dderbyn fel Cymrawd er Anrhydedd am ei gyfraniad allweddol ym Mhrifysgol Bangor yn datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes Cerddoriaeth, a hefyd yn cefnogi datblygiadau mewn meysydd eraill yn ystod ei gyfnod fel Dirprwy Is-ganghellor y Brifysgol.

Meddai Wyn, oedd hefyd yn un o aelodau cyntaf Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg a gyfrannodd yn fawr at sefydlu’r Coleg yn y dyddiau cynnar:

“Bu'n fraint arbennig i gyd-weithio gyda staff ac aelodau Bwrdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac mae'n galondid mawr gweld ôl eu dylanwad ar brifysgolion a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. Deued y dydd pan fydd plant a phobl ifanc yn ein hysgolion yn mynnu addysg cyfrwng Cymraeg ehangach fyth, ac yn sylweddoli eu cyfrifoldeb i weithio yma yng Nghymru er budd y byd a'r bywyd Cymreig. Hyfrydwch yw cael uniaethu gydag amcanion y Coleg gan ddiolch iddynt am fod mor hael ac ystyriol.”

 

Wyn Thomas

Linda Wyn, o Landybie, Sir Gaerfyrddin, sy’n gyn-bennaeth ar Goleg Meirion Dwyfor a Choleg Menai o fewn Grŵp Llandrillo Menai bydd y trydydd person i dderbyn cymrodoriaeth ar y noson. Fel aelod o Fwrdd ac Is-gadeirydd y Coleg am sawl blwyddyn, roedd ei chyfraniad i’r Coleg wedi braenaru’r tir ar gyfer ymestyn ei gyfrifoldebau i feysydd addysg bellach a phrentisiaethau. Meddai Linda:

“Pleser o’r mwyaf yw cael fy nerbyn yn Gymrawd er Anrhydedd o’r Coleg. Yn ystod fy nghyfnod fel aelod o’r Bwrdd ac fel Is-gadeirydd y Coleg, cefais y fraint o fod yn rhan o ddatblygiad cynnar y Coleg a thystio i frwdfrydedd ac ymroddiad y staff a’r aelodau.  Yn ddiamau, mae’r hyn a gyflawnwyd gan y Coleg ers y dyddiau cynnar hynny yn wirioneddol ryfeddol a braf iawn yw gweld bod y cynnydd ardderchog a wnaed i gynyddu addysg Gymraeg yn y sector addysg uwch yn awr yn cael ei ymledu i addysg bellach a dysgu yn y gweithle”

Linda Wyn

Fel rhan o’r noson, bydd cyfle hefyd i  gyflwyno tystysgrifau i fyfyrwyr PhD am gyflawni doethuriaeth o dan nawdd Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yn eu plith mae Dr Seren Evans, sydd wedi cyflawni doethuriaeth mewn Gwyddorau Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor ac wedi gwneud gwaith ymchwil ar ‘Agwedd aml-ffactor tuag at anafiadau o fewn rygbi’r Undeb’.

 Meddai Seren, sydd yn wreiddiol o’r Bala,

 

“Dwi wedi bod â diddordeb mawr mewn rygbi, a ‘trwsio’ pobl erioed. Fues i’n chwarae rygbi am gyfnod, er roedd yn rhaid i mi roi’r gorau iddi oherwydd roeddwn yn cael fy anafu yn amlach na pheidio! Fe wnes i fwynhau ymchwilio i’r pwnc pwysig yma a darganfod pethau newydd. Llwyddais i ddarganfod mai un o’r elfennau oedd yn gallu arwain at anafiadau digyswllt mewn chwaraewyr oedd cyfergyd (concussion) yn y gorffennol, felly mae angen adfer chwaraewyr yn well ar ôl cael anaf i’r pen. Rwy’n edrych ymlaen at barhau’r ymchwil ac i’w rhoi ar waith fel Ffisiotherapydd Chwaraeon.”

Bydd Ianto Gruffudd sydd yn wreiddiol o Sir Fôn hefyd yn derbyn ei dystysgrif ar y noson am gyflawni doethuriaeth yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd mewn tafodieithoedd newydd y Gymraeg. Meddai:

“Dw i wastad wedi bod â diddordeb mewn tafodiaith ac amrywiadau lleol. Fel rhan o fy ymchwil nes i weithio gyda disgyblion blwyddyn 10 yn un o ysgolion Caerdydd. Fe wnes i edrych ar ddwy nodwedd yn benodol, sef effeithiau trosglwyddo o’r Saesneg i’r Gymraeg ond hefyd trosglwyddo trwy gyffyrddiad efo tafodiaith Gymraeg mwy traddodiadol. Dwi’n falch iawn o’r ffaith mai fi ydy’r person cyntaf i astudio tafodiaith Caerdydd fel tafodiaith newydd. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg am y cyfle.”

Fel rhan o’r noson bydd y Coleg hefyd yn talu teyrnged arbennig i’r diweddar Dr Llŷr Roberts, un o ddarlithwyr cysylltiol cyntaf y Coleg a fu farw yn sydyn llynedd yn 45 mlwydd oed. Bydd cyfle i glywed mwy am fwrsariaeth newydd er cof amdano i gefnogi myfyrwyr Cymraeg, a gellir darllen ymhellach ar wefan y Coleg.

Wrth edrych ymlaen at Gynulliad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, meddai Cadeirydd y Coleg, Dr Aled Eirug:

“Mae’r tri Chymrawd er Anrhydedd wedi cyfrannu’n eithriadol at addysg uwch ol-orfodol cyfrwng Cymraeg ac wedi braenari'r ffordd ar gyfer y genhedlaeth nesa o fyfyrwyr PhD fydd yn derbyn ei tystysgrifau. Edrychwn ymlaen at ddathlu eu llwyddiannau ac am y cyfle i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith, a’u hymroddiad i’r Coleg dros y blynyddoedd.”

Ychwanegodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

 

Llongyfarchiadau i bawb fydd yn cael eu hanrhydeddu yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg ym Mangor eleni. Edrychwn ymlaen at ddathlu llwyddiannau a chyfraniad unigolion arbennig at addysg uwch ac addysg bellach cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Ond hefyd byddwn yn cymryd y cyfle i dalu teyrnged ac i gofio am gyfaill a chydweithiwr annwyl iawn, y diweddar Dr Llŷr Roberts, a wnaeth gyfraniad amlweddog i addysg uwch cyfrwng y Gymraeg a chreu argraff fawr ar ei fyfyrwyr ac aelodau o deulu’r Coleg.”

 

Dyma’r rhestr lawn o fyfyrwyr PhD fydd yn derbyn eu tystysgrifau eleni am gyflawni doethuriaeth o dan nawdd Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

·        Dr Seren Evans, Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol Bangor

·        Dr Ianto Gruffudd, Cymraeg, Prifysgol Caerdydd

·        Dr Cennydd Jones, Amaethyddiaeth, Prifysgol Aberystwyth

·        Dr Lucy Hale Evans, Gwyddorau Amgylcheddol, Prifysgol Bangor

·        Dr Claire Griffith-Mcgeever, Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol Bangor

·        Dr Marc Williams, Seicoleg, Prifysgol Caerdydd

·        Dr Sioned Llywelyn, Daearyddiaeth, Prifysgol Aberystwyth

·        Dr Gruffydd Lloyd Jones, Gwyddorau Amgylcheddol, Prifysgol Aberystwyth