Skip to main content Skip to footer

Cynllun Mentora TAR AHO

Cynllun mentora i fyfyrwyr sy’n dilyn cwrs TAR AHO (PGCE PcET) 

Os wyt ti’n astudio cwrs TAR AHO ar hyn o bryd, yn siarad Cymraeg, ac yn awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg yn dy yrfa, mae’r cynllun yma i ti.

Mae Cynllun Mentora TAR AHO* (PGCE PcET**) yn gynllun sy’n paru myfyrwyr ar y cwrs gyda mentor profiadol sy’n siarad Cymraeg ac yn gweithio yn y sector. Bydd dy fentor yn cynnig sesiynau unigol i ti ar weithio yn y sector, ac yn benodol sut maen nhw’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd.

**TAR AHO = Tystysgrif Addysg i Raddedigion, Addysg a Hyfforddiant ôl-Orfodol

**PGCE PcET = Post Graduate Certificate in Education, Post Compulsory Education and Training

Pwy sy’n gallu bod yn rhan o’r cynllun?

Gall unrhyw fyfyriwr ar gwrs TAR AHO mewn Prifysgol yng Nghymru sy’n siarad Cymraeg ac am wybod mwy am ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle ymuno.

Rwyt ti’n gymwys os wyt ti’n...

  • Siarad Cymraeg
  • Astudio cwrs TAR AHO (PGCE PcET) ym Mhrifysgol De Cymru, Y Drindod Dewi Sant, Glyndwr neu Met Caerdydd.
  • Bwriadu dysgu unrhyw bwnc
  • Astudio yn rhan amser neu’n llawn amser

Mae cymhelliad ariannol i fyfyrwyr ar y cyrsiau yma sy’n siarad Cymraeg!

Pwy yw’r Mentoriaid?

Darlithwyr mewn Colegau Addysg Bellach

  • Sy’n gweithio yn y sector yng Nghymru
  • Sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith

Sut mae'n gweithio?

Mae myfyrwyr a mentor yn cael eu paru, a bydd y mentor yn cynnig 6 sesiwn mentora ar-lein, awr yr un, AM DDIM i’r myfyrwyr, yn ystod eu cwrs TAR.

Dyddiad Cau

Bod yn fentor - dydyn ni ddim yn edrych am fwy o fentoriaid ar hyn o bryd ar gyfer cynllun 2023/24. Os oes gyda chi ddiddordeb fod yn fentor yn y dyfodol, cysylltwch gyda h.everiss@colegcymraeg.ac.uk 

 

 

Ymgeisio

Gwna gais i fod yn fentor neu er mwyn manteisio o'r mentora yma fel myfyriwr TAR AHO ar y dolenni yn y tudalennau isod.

Os oes cwestiynau gyda ti cyn gwneud, mae croeso i ti gysylltu gyda Haf Everiss, cydlynydd y cynllun ar 

h.everiss@colegcymraeg.ac.uk 

Cynllun Mentora TAR AHO 23-24

Cynllun i fyfyrwyr sy’n astudio ar y cwrs TAR AHO o fis Medi 2023 ac yn siarad Cymraeg.

Wyt ti eisiau gwybod mwy am ddefnyddio’r Gymraeg yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru a buddio o gyngor mentor profiadol? 

Rydyn ni’n cynnig cyfle i fyfyrwyr sy’n astudio cwrs TAR AHO mewn prifysgol, sy’n astudio unrhyw bwnc, sy’n siarad Cymraeg, ac sydd eisiau gwybod mwy am ddefnyddio’r Gymraeg yn y sector ôl-orfodol i gymryd rhan yn y Cynllun Mentora TAR AHO 23-24.

Mae’n bosib bydd myfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cynllun hefyd yn gymwys ar gyfer taliad o £1,000 gan Lywodraeth Cymru!

Beth fydd yn cael ei gynnwys?

  • 6 sesiwn mentora (awr yr un) gyda darlithiwr mewn coleg addysg bellach sy’n gallu rhannu profiadau gyda ti

Bydd y sesiynau mentora’n gyfle i ti ddod i ddeall mwy am sut mae darlithwyr yn defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd a’r profiad o fod yn ddarlithiwr yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Hefyd, bydd yn gyfle i ofyn cwestiynau i rywun sy wedi bod trwy’r broses yn ddiweddar a chael atebion onest.

Y manteision 

Bydd cymryd rhan yn y cynllun yn dy helpu di i: 

  • ychwanegu sgiliau a phrofiadau at dy CV
  • godi hyder yn dy sgiliau Cymraeg
  • ddangos i ddarpar gyflogwyr dy fod yn hapus i ddefnyddio dy sgiliau Cymraeg
  • ddeall mwy am ddefnyddio’r Gymraeg yn y sector a chael cyfle i ofyn cwestiynau pwysig

Os wyt ti eisiau gofyn unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysyllta â Haf Everiss ar h.everiss@colegcymraeg.ac.uk 

Cynllun Mentora TAR AHO 23-24

Wyt ti am rannu dy arbenigedd a dy brofiadau fel darlithiwr?

Rydyn ni’n chwilio am bobl fel ti i fod yn fentoriaid i fyfyrwyr Prifysgol mewn meysydd pwnc amrywiol sydd eisiau gwybod mwy am ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg fel darlithwyr yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

Bydd angen i ti:

  • Fod yn ddarlithiwr mewn coleg addysg bellach
  • Fod wedi cwblhau cwrs TAR neu gyfwerth
  • Wneud 2 awr o hyfforddiant ar-lein fis Hydref 2023 (gyda thâl o £30 yr awr*)
  • Gynnig 6 sesiwn mentora, awr yr un yn ystod y flwyddyn academaidd, tua un bob hanner tymor (gyda thâl o £30 yr awr*)
  • Wneud hyd at ddwy awr o waith trefnu ac adborth (gyda thâl o £30 yr awr*)

Bydd y sesiynau mentora yn gyfle i’r myfyrwyr ddod i ddeall mwy am sut rwyt ti’n defnyddio’r Gymraeg yn dy waith bob dydd a’r profiad o fod yn ddarlithiwr yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Y bwriad yw ysbrydoli myfyrwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gyrfa yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru.

*Bydd y taliadau’n cyfrannu at eich incwm trethadwy am y flwyddyn.

Y manteision

Bydd cymryd rhan yn y cynllun yn dy sicrhau dy fod yn:

  • Datblygu dy sgiliau proffesiynol ac arweinyddiaeth
  • Cyfrannu at weithlu dwyieithog addysg bellach y dyfodol
  • Ennill £300 (£30 yr awr am 10 awr)

Dydyn ni ddim yn edrych am fwy o fentoriaid ar hyn o bryd ar gyfer cynllun 2023/24. Os oes diddordeb gyda chi fod yn fentor yn y dyfodol, cysylltwch gyda h.everiss@colegcymraeg.ac.uk