Skip to main content Skip to footer

Cartref

Beth yw'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol?

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. R’yn ni’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg, gyda’r nod o greu gweithlu dwyieithog.

Rydym yn ceisio ysbrydoli dysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’u Cymraeg. Ein nod yw rhoi’r hyder i bawb ddefnyddio’u Cymraeg wrth hyfforddi, astudio a gweithio.

Pwy yw'r Coleg Cymraeg?

Digwyddiadau i ddod

Gweld mwy

Porth Adnoddau

Mae Porth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn lyfrgell ar-lein sy'n llawn adnoddau addysgu digidol Cymraeg a dwyieithog ar gyfer staff a myfyrwyr mewn colegau a phrifysgolion. Mae nifer o adnoddau yno hefyd i gefnogi rhai sy'n gwneud prentisiaethau. 

Mae'r Porth yn cynnwys adnoddau sydd wedi eu datblygu gan y Coleg Cymraeg. Mae hefyd yn cynnwys dolenni i adnoddau gan y sefydliadau ry’n ni’n cyd-weithio â nhw e.e. colegau addysg bellach, prifysgolion a Llywodraeth Cymru.

Casgliad o adnoddau