AGOR ENWEBIADAU GWOBRAU’R COLEG CYMRAEG
Dydd Mawrth 31 Ionawr 2023
Mae enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau 2023 y Coleg Cymraeg Cenedlaethol!
Mae’r gwobrau blynyddol yn dathlu llwyddiannau y myfyrwyr, dysgwyr, prentisiaid a’r darlithwyr mwyaf disglair a’r rheiny sydd wedi cyfrannu’n sylweddol tuag at addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog dros y flwyddyn.
mwy…
Y Coleg Cymraeg a CBAC yn cyhoeddi enillwyr cyntaf erioed Bwrsariaeth Gareth Pierce
Dydd Iau 12 Ionawr 2023
Cyhoeddir heddiw, dydd Iau 12 Ionawr, mai Lowri Haf Davies, Taylor-James Daughton, ac Alys Ffion Chisholm yw’r tri myfyriwr cyntaf erioed i dderbyn bwrsari gwerth £3,000 yr un er cof am Gareth Pierce, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyn Brif Weithredwr Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC), a fu farw ym mis Gorffennaf 2021.
mwy…
Mae bod yn llysgennad ysgol y Coleg Cymraeg wedi agor drysau!
Dydd Mawrth 25 Hydref 2022
Heddiw mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyhoeddi enwau 21 o lysgenhadon newydd o ysgolion uwchradd a choleg chweched dosbarth ar draws Cymru. Eleni gwelwyd y nifer fwyaf erioed o ysgolion yn ymgeisio i fod yn rhan o’r cynllun ers iddo ddechrau yn 2020.
mwy…