Skip to main content Skip to footer

Bywyd Myfyriwr

Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer Llysgenhadon 2024 wedi cau!

 

Byddwn mewn cyswllt gyda'r ymgeiswyr i fod yn lysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn fuan iawn!

Swydd Ddisgrifiad Llysgennad Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Rydym yn chwilio am fyfyrwyr brwdfrydig boed yn Gymraeg iaith gyntaf neu ail iaith i rannu eu profiadau mewn prifysgolion ar draws Cymru gyfan, o’r astudio a phwysigrwydd y Gymraeg, i’r cymdeithasu! A ceisio denu mwy i astudio yng Nghymru!

Rydym eisiau eich cefnogi chi er mwyn datblygu sgiliau gwerthfawr i chi all fod o fudd wrth chwilio am waith yn y dyfodol, yn ogystal â chael y cyfle i rannu eich gwahanol brofiadau, ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Byddwch yn rhan fawr o’n digwyddiadau marchnata a hyrwyddo rhwng Ionawr a Rhagfyr 2024 (gyda’r posibilrwydd o ehangu’r cyfnod). Yn ogystal â cynrychioli’r Coleg o fewn eich prifysgol.

Mae bod yn lysgennad a cynrychioli llais myfyrwyr Cymru, yn rôl bwysig a gwerthfawr, a gallai roi boddhad mawr wrth gynorthwyo darpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â chyfrwng iaith eu hastudiaethau addysg uwch.

Mae’r Coleg Cymraeg wedi ymrwymo i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth ac felly’n annog ymgeiswyr o unrhyw ryw, oedran, anabledd, cefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd i ymgeisio ar gyfer y rôl o fod yn llysgennad.

Cyfnod gwaith

1 Ionawr 2024 – 31 Rhagfyr 2024

Cynnwys gwaith:

  • Rydym yn annog ein llysgenhadon i fod yn greadigol ac yn pwysleisio bod angen i’r ymgeiswyr fod yn gyfforddus i greu cynnyrch digidol fel fideos, recordio neu ysgrifennu blogs, ‘instatakeover’, neu ddeunydd eraill all ddenu sylw myfyrwyr, darpar fyfyrwyr a phobl ifanc.
  • Bydd gofyn i’r llysgenhadon wneud defnydd helaeth o’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo gwaith y Coleg, gan ddilyn y tudalennau i gyd a rhannu cynnwys sy’n berthnasol i chi.
  • Rhannu’r cyfleoedd cyfrwng Cymraeg ar eich cwrs, a rhannu’r cyfleoedd i chi gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg gyda ni! E.e digwyddiadau gyda’r undebau myfyrwyr, timau chwaraeon, corau etc.
  • Hyrwyddo’r cyfleoedd a’r profiadau sydd ar gael i chi fel myfyriwr yma yng Nghymru, gyda darpar fyfyrwyr.

Cyflawni Tasgau

Yn ogystal â dysgu ac ymgyfarwyddo â gwaith a rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn enwedig y cynllun Ysgoloriaethau a’r chwilotodd cyrsiau byddwn yn disgwyl i chi rannu eich profiadau o addysg Gymraeg ac astudio yng Nghymru! Rhaid i bawb gyflawni’r canlynol dros y flwyddyn:

  • Mynychu cwrs hyfforddiant yn ystod mis Ionawr/Chwefror
  • Llunio atebion i’n holiadur i’w allu rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Rhannu cynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y cyfryngau cymdeithasol – Instagram, Facebook, X, Tiktok yn RHEOLAIDD, drwy gydol eich cyfnod fel llysgennad
  • Llunio oleuaf 2 flog ar gais y Coleg neu trwy syniadau eich hun, yn ystod eich blwyddyn fel llysgennad
  • Ymateb i geisiadau e-bost/galwadau ffôn/WhatsApp gan y Coleg o fewn 48 awr
  • Prydlondeb cyflwyno tasgau ar gais y Coleg
  • Bod yn barod i fod yn rhan o ddigwyddiadau marchnata’r Coleg Cymraeg megis Eisteddfodau, Ffeiriau UCAS, Ymweliadau Ysgolion, Tafwyl a llawer mwy.
  • Cyfle i fod yn ran o bodlediad newydd y Coleg Cymraeg
  • Cyfrannu at unrhyw dasgau/cyfleoedd eraill all godi dros y flwyddyn

Sut i Ymgeisio?

  • Llenwi'r ffurflen gais isod
  • Danfon fideo munud o hyd yn esbonio pam dy fod yn ymgeisydd delfrydol ar gyfer y rôl

Mi fydd angen i ti ddanfon dy fideo ar e-bost neu trwy WhatsApp i'r manylion isod:

E-bost: m.dafydd@colegcymraeg.ac.uk

WhatsApp: 07891 544363

Dyddiad Cau: 13 Rhagfyr 4pm

Ffurflen gofrestru Pecyn Gwybodaeth Llysgenhadon 2024

Llysgenhadon

Beth yw llysgennad?

Myfyrwyr o rai o’n prifysgolion ni yng Nghymru ydyn nhw, ac maen nhw’n helpu’r Coleg Cymraeg i siarad â phobl am astudio yn Gymraeg, yr ysgoloriaethau sydd ar gael, yr Undebau Cymraeg a digwyddiadau allai fod o ddiddordeb i ti.

Maen nhw hefyd yn cael y cyfle i lunio blogiau a gweithio ar ein cyfrifon cymdeithasol. Bob blwyddyn, mae’r llysgenhadon yn cael cynnig i weithio ar ein stondin yn yr Eisteddfodau, a hefyd yn cael yr opsiwn i fynd o amgylch ysgolion gydag aelod o dîm marchnata’r Coleg Cymraeg i siarad â disgyblion.

Os hoffet ti glywed mwy am sut beth yw bod yn llysgennad mewn prifysgolion yng Nghymru, cer i'n tudalen Instagram, ‘Dy ddyfodol di’, a chwilia am ‘Coleg Cymraeg’ ar Facebook.