DYDDIAD: 06/05/2027
LLEOLIAD: Prifysgol Caerdydd
Cwrs undydd dan ofal Dyddgu Morgan-Hywel i fyfyrwyr PhD sy'n darlithio am y tro cyntaf, ac eisiau addysgu’n hyderus ac yn arloesol.
AMCANION Y GWEITHDY
Gwybodaeth broffesiynol: datblygu eich gwybodaeth am y pwnc y byddwch yn ei ddysgu;
Gwybodaeth fethodolegol - cyflwyniad i theori sy'n sail i ddysgu ac arferion addysgu (arddulliau dysgu)
Sgiliau dynameg grŵp penodol - dynameg grŵp, strategaethau ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd.
CYNNWYS
Dysgu, addysgu ac asesu
Dysgu'r sgiliau allweddol sy'n ymwneud â chynllunio gwaith addysgu;
Dysgu'r amrywiaeth o sgiliau cwestiynu sy'n hwyluso'r broses addysgu.
Dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o ddulliau addysgu gyda grwpiau bach;
Dod i ddeall rhai egwyddorion allweddol sy'n ymwneud ag asesu.
Integreiddio Technoleg. Cyflwyniad i offer a meddalwedd digidol er mwyn ymgysylltu myfyrwyr a gwella’r profiad dysgu gan gynnwys:
Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn Addysg
Realiti Rhithwir (VR) mewn Addysg
Technoleg Iaith
Cynhwysiant Addysgu:
Cyflwyno Sgiliau addysgu cynhwysol
Anghenion dysgu amrywiol ac anghenion myfyrwyr
Hyrwyddo amgylchedd cynhwysol.
Gofal bugeiliol – Tiwtor personol / iechyd a lles myfyrwyr mewn Addysg
Deall rhinweddau personol tiwtor da;
Deall canfyddiadau myfyrwyr o diwtor da;
Deall y sgiliau cyfathrebu allweddol sydd eu hangen ar diwtor da;
BYWGRAFFIAD
Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, a graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, ac yn uwch-ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd am ddeng mlynedd. Mae Dyddgu bellach yn Rheolwr Comisiynu ac Ansawdd gyda Adnodd, cwmni hyd braich Llywodraeth Cymru sydd â throsolwg strategol dros dirwedd adnoddau dwyieithog i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r gweithdy am ddim ac yn agored i fyfyrwyr uwchraddedig ac ymchwilwyr gyrfa gynnar, beth bynnag yw dy bwnc, ble bynnag wyt ti'n astudio, a phwy bynnag sy'n dy gyllido. Darperir cinio am ddim ac ad-delir costau teithio.
Cofrestra drwy gwblhau'r ffurflen isod erbyn 30 Ebrill.