Pwysigrwydd Cymwysterau Cyfrwng Cymraeg
Mae cymwysterau cyfrwng Cymraeg yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru yn gallu astudio, cael eu hasesu a chyflawni drwy gyfrwng y Gymraeg. Maent yn cyfrannu at gryfhau'r defnydd o'r Gymraeg mewn addysg, yn cefnogi datblygiad sgiliau dwyieithog, ac yn helpu i baratoi unigolion ar gyfer byd gwaith sy'n gynyddol ddwyieithog.
Drwy gydweithio â Chymwysterau Cymru a phartneriaid eraill, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg) yn cefnogi'r gwaith o gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod dysgwyr yn gallu dilyn llwybrau dysgu a chymhwyso drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Cymru yw’r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau heblaw rhai lefel gradd yng Nghymru sy’n cael eu cynnig gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig.
Darllenwch fwy am Gymwysterau Cymru ar ei gwefan - https://cymwysterau.cymru/amdanom-ni/trosolwg-on-gwaith/
Y Bartneriaeth Strategol
Yn haf 2022, lansiwyd Partneriaeth Strategol tair mlynedd i sicrhau bod gan ddysgwyr a phrentisiaid sy’n dewis darpariaeth Gymraeg a dwyieithog gymwysterau dwyieithog hygyrch a’u bod ar gael ym mhob maes pwnc perthnasol. Yn 2025, penderfynwyd ymestyn y bartneriaeth am flwyddyn arall er mwyn parhau i wneud cynnydd tuag at nodau gwreiddiol y bartneriaeth.
Yn nhymor Hydref 2026, cyhoeddwyd Datganiad Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymwysterau Cymru a’r Coleg sy’n ymrwymiad ar y cyd i ddatblygu’r system gymwysterau fel y gall hwyluso llwybrau di-dor drwy addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog a’r Gymraeg fel pwnc.
Mae'r partneriaid (y Coleg a Chymwysterau Cymru) yn cyhoeddi adroddiadau cynnydd blynyddol sy'n amlinellu'r gweithgareddau a gyflawnwyd a'r cynnydd a wnaed yn erbyn ymrwymiadau'r Datganiad Cyd-ddealltwriaeth. Mae'r adroddiadau i'w gweld isod: